Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

70.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad(au) canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 83 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)            Datganodd y Cynghorydd E T King gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 86 "Papur Cyllid Allanol COVIV-19 y Gwasanaethau Diwyllianola gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

3)            Datganodd y Cynghorydd A H Stevens gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 87 “Argymhelliad ar sut I drin rhenti ym Marchnad Abertawe, I’w roi ar waith o ddiwedd y cyfnod consesiwn diwethaf (16 Tachwedd 2020) I ddiwedd Blwyddyn ariannol 2020/21” a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth.

 

4)            Datganodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Huw Evans gysylltiad personol â chofnod 87 “Argymhelliad ar sut I drin rhenti ym Marchnad Abertawe, I’w roi ar waith o ddiwedd y cyfnod consesiwn diwethaf (16 Tachwedd 2020) I ddiwedd Blwyddyn ariannol 2020/21”.

71.

Cofnodion. pdf eicon PDF 404 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021.

72.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

 

1)            "Ymgyrch Dim Hiliaeth Cymru" Cyngor Hil Cymru

 

Nododd Arweinydd y Cyngor ei fod ef, Dirprwy Arweinwyr ei Grŵp Gwleidyddol ac Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol eraill, ynghyd â'r Cynghorydd L S Gibbard wedi llofnodi Addewid Cyngor Hil Cymru fel rhan o'i "Ymgyrch Dim Hiliaeth Cymru".

73.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Derbyniwyd cwestiynau gan Jean Thomas a Steve Green mewn perthynas â  Chofnod 78 “Cyllideb Refeniw 2021-2022”.

 

Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet.

74.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

75.

Adborth ar graffu cyn penderfynu ar y gyllideb flynyddol. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley yr adborth craffu cyn penderfynu.

76.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3ydd 2020/21 pdf eicon PDF 433 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrioo Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2020-2021 yn ariannol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

 

2)            Cymeradwyo'r trosglwyddiadau a nodir ym mharagraff 2.7 yr adroddiad.

 

3)            Gostwng lefel y gorwariant a ganiateir, mewn amgylchiadau eithafol, yn ystod y flwyddyn i £4m, i'w hariannu'n llawn o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, sy'n bell o fewn y symiau a gymeradwywyd yn nghyfarfod y cyngor ar 4 Tachwedd 2020, i sicrhau bod y gyllideb gyffredinol yn parhau i fod yn gytbwys am y flwyddyn. Nodi hefyd ddiweddariad llafar y Swyddog Adran 151 sy'n nodi y byddai'r sefyllfa’n gwella drwy gynnydd o £10m o leiaf ar y symiau a gynigiwyd eisoes ers drafftio'r adroddiad.

 

4)            Bydd y Cabinet yn parhau i gadarnhau na all unrhyw swyddog ystyried unrhyw ymrwymiadau gwario pellach a lle bo'n bosib, dylid parhau i ohirio gwariant i gynnwys a lleihau'r gorwariant cymedrol tebygol a ragwelwyd erbyn diwedd y flwyddyn i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, wrth ddarparu blaenoriaethau'r cyngor y cytunwyd arnynt a amlinellir yn y gyllideb a gymeradwywyd.

77.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2022/23 - 2025/26 pdf eicon PDF 752 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/ dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan gynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)       Argymell Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2022-2023 hyd at 2025-2026 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y dyfodol.

78.

Cyllideb Refeniw 2021/2022 pdf eicon PDF 946 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021-2022. Roedd yn manylu ar y canlynol:

 

·                    Monitro ariannol 2020-2021;

·                    Setliad cyllid llywodraeth leol 2021-2022;

·                    Rhagolwg cyllidebol 2021-2022;

·                    Cynigion arbed penodol;

·                    Canlyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb;

·                    Goblygiadau staffio;

·                    Gofynion y cronfeydd wrth gefn;

·                    Gofyniad y gyllideb a Threth y Cyngor 2021-2022;

·                    Crynodeb o gynigion ariannu;

·                    Risgiau ac ansicrwydd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)      Ystyried canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw newidiadau i'r cynigion cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad yn ogystal â'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel a nodwyd yn Adrannau 4.10 a 4.11 yr adroddiad.

 

2)        Nodi cyfanswm y gofyniad ariannu a grybwyllwyd yn Adran 4.6 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb Refeniw gytbwys ar gyfer 2021-2022.

 

3)        Yn ogystal ag adolygiad o gynigion arbed presennol, gwnaeth y Cabinet y canlynol:

 

a)        Adolygu a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn a argymhellir yn yr adroddiad hwn;

 

b)         Cytunwyd ar lefel treth y cyngor ar gyfer 2021-2022 i'w hargymell i'r cyngor.

 

4)        Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd ac a restrwyd uchod, mae'r Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

a)         Cyllideb Refeniw ar gyfer 2021-2022;

 

b)         Gofyniad y gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2021-2022.

 

79.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2020/21- 2026/27 pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-2021 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021-2022 i 2026-2027.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)        Cymeradwyo'r Gyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-2021 a Chyllideb Gyfalaf 2021-2022 - 2026-2027 fel a fanylir yn Atodiadau A, B, C, D, E ac F yr adroddiad.

80.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb Refeniw 2021/22. pdf eicon PDF 575 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2021-2022 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

Penderfynwyd argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)        Cynyddu rhenti'n unol â pholisi rhent dros dro newydd Llywodraeth Cymru fel a fanylwyd yn Adran 1 yr adroddiad;

 

2)        Cymeradwyo ffïoedd, taliadau a lwfansau fel a amlinellir yn Adran 4 yr adroddiad;

 

3)        Cynigion y gyllideb refeniw fel a nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

81.

Cyfrif Refeniw Tai - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2020/21 - 2024/2025 pdf eicon PDF 565 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-2021 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021-2022 – 2024-2025.

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)           Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2020-2021.

 

2)           Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2021-2022 – 2024-2025.

 

3)           Lle caiff cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B yr adroddiad eu rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y 4 blynedd.

 

4)           Dylid nodi lefelau cydymffurfio Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) a'r estyniad terfyn amser.

82.

Strategaeth Gyfalaf 2020/21- 2026/27.* pdf eicon PDF 749 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Strategaeth Gyfalaf sy'n cyfeirio'r Rhaglen Gyfalaf saith blynedd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Dylid anfon Strategaeth Gyfalaf 2020-2021 – 2026-2027 i'r Cyngor i'w chymeradwyo.

83.

Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol yr Esgob Gore

Y Cyng. Mark Child

2)

Ysgol Gynradd Pennard

Heidi Lythgoe

3)

Ysgol Gynradd Waunarlwydd

Rayna Soproniuk

4)

Ysgol Crug Glas

Quentin Hawkins

Lynne Smith

 

84.

Ardal Ganolog Abertawe - Adfywio'n Dinas ar gyfer Lles a Bywyd Gwyllt. pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo a mabwysiadu Ardal Ganolog Abertawe – Strategaeth Adfywio'n Dinas er Lles a Bywyd Gwyllt.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cymeradwyo a mabwysiadu’r Strategaeth.

85.

Adfywio Sgwâr y Castell RhGA 7. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gynnal astudiaeth ddichonoldeb a chysyniad cam cyntaf ar gyfer adfywio Sgwâr y Castell. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio awdurdodiad cyllidebol i symud ymlaen i gamau nesaf dylunio, cynllunio ac ymgynghori manwl yn unol â'r Rheol Gweithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i ymrwymo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Ychwanegu ffioedd o £782,000 ar gyfer cynllun Adfywio Sgwâr y Castell at y rhaglen gyfalaf yn unol â Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 i symud ymlaen i gynllunio, cynllunio ac ymgynghori cyhoeddus manwl.

86.

Papur Cyllid Allanol COVID-19 y Gwasanaethau Diwyllianol pdf eicon PDF 255 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ôl-weithredol ar gyfer cyllid grant allanol a dderbyniwyd gan y Gwasanaethau Diwylliannol mewn cysylltiad â chyllid adfer COVID-19 Sector Diwylliannol Llywodraeth Cymru.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Nodi'r ymdrechion i gyrchu cyllid allanol/y llywodraeth ar gyfer y Sector Diwylliannol gan arwain at wneud ceisiadau heb fawr o rybudd.

 

2)            Cadarnhau cymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer derbyn a defnyddio'r arian a dderbyniwyd, ac awdurdodi derbyn symiau sy'n aros, ar yr amod bod meini prawf yn cael eu cyflawni fel yr amlinellir ym Mharagraff 4.3 o'r adroddiad.

87.

Argymhelliad ar sut i drin rhenti ym Marchnad Abertawe, i'w roi ar waith o ddiwedd y cyfnod consesiwn diwethaf (16 Tachwedd 2020) i ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/21. pdf eicon PDF 330 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo dull o drin rhenti ym Marchnad Abertawe i'w weithredu o ddyddiad gorffen cyfnod consesiwn rhent cysylltiedig COVID-19 (16 Tachwedd 2020) y cytunwyd arno hyd at ddiwedd blwyddyn ariannol 2020/2021.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud COVID-19 (h.y. ar adegau pan na chaniateir i fanwerthu nad yw'n hanfodol fasnachu), mae pob masnachwr yn cael gostyngiad o 70% mewn rhent.

 

2)            Yn ystod pob cyfnod arall tan ddiwedd pandemig COVID-19, rhoddir consesiwn rhent i fasnachwyr unigol sy'n dangos gostyngiad o 40% mewn trosiant yn ystod cyfnod diffiniedig o’i gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Byddai masnachwyr nad ydynt yn gymwys i gael grantiau Llywodraeth Cymru hyd yma'n derbyn gostyngiad ychydig yn uwch ar ôl dangos gostyngiad o 30% mewn trosiant.

 

3)            Os caiff y cyfyngiadau symud eu codi ond na all pob manwerthwr nad yw'n hanfodol ailddechrau masnachu (e.e. rhaid i wasanaethau cyswllt agos fel salonau harddwch aros ar gau), caiff y busnesau unigol hyn eu trin fel achosion unigryw a byddent yn parhau i dderbyn y gostyngiad o 70% mewn rhent tan adeg pan ganiateir iddynt ailagor yn gyfreithiol.

 

4)            Cyfrifir rhenti Marchnad Abertawe ac maent yn ddyledus bob 4 wythnos. Byddai'r consesiynau'n cwmpasu'r cyfnodau rhent canlynol:

 

16 Tachwedd 2020 i 13 Rhagfyr 2020.

14 Rhagfyr 2020 i 10 Ionawr 2021.

11 Ionawr 2021 tan 7 Chwefror 2021.

8 Chwefror 2021 i 7 Mawrth 2021.

8 Mawrth 2021 i 4 Ebrill 2021.

 

Er mwyn hwyluso gweinyddiaeth a symleiddio cyfathrebiadau â Masnachwyr Marchnad Abertawe, cynigir bod y consesiynau'n berthnasol i 4 Ebrill 2021 yn lle 31 Mawrth 2021.

88.

Cymeradwyo Cytundebau Ariannu Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a nododd yr amodau a’r telerau sy'n gysylltiedig â dyfarnu cyllid y llywodraeth. Roedd hefyd yn ceisio cymeradwyo'r cytundebau ariannu y mae eu hangen i sicrhau bod cyllid y fargen ddinesig yn cael ei ryddhau.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Nodi'r amodau a thelerau sy'n gysylltiedig â'r cynnig o gyllid gan y llywodraeth yn y llythyr Dyfarnu Cyllid dyddiedig 16 Rhagfyr 2020.

 

2)            Cymeradwyo cynnwys y prif gytundeb ariannu rhwng y Corff Atebol a Chyngor Abertawe mewn perthynas â Phrosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau yn Atodiad A i'r adroddiad ac awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol ac ymrwymo i'r cytundeb ar ran y cyngor i'w alluogi i dderbyn cyllid y Fargen Ddinesig.

 

3)            Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lleoedd ynghyd â'r Prif Swyddog Cyllid i arfer awdurdod dirprwyedig i gwblhau telerau unrhyw gytundeb ariannu rhwng y Corff Atebol a Chyngor Abertawe mewn perthynas ag unrhyw brosiectau eraill y Fargen Ddinesig lle mae'r cyngor yn gweithredu fel Awdurdod Arweiniol y Prosiect ac yn awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r cytundebau hynny ar ran y cyngor.

 

4)            Nodi cynnwys y templed cytundeb ariannu eilaidd y bydd y cyngor yn ymrwymo iddo gyda Derbynnydd cyllid y Fargen Ddinesig oddi wrth y Llywodraeth yn Atodiad B i'r adroddiad ac awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lleoedd ynghyd â'r Prif Swyddog Cyllid i drafod a chytuno ar delerau terfynol gydag unrhyw Dderbynnydd perthnasol mewn unrhyw brosiect y Fargen Ddinesig sy'n cynnwys y cyngor ac awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r cytundebau hynny ar ran y cyngor.

89.

Rheol 7 y weithdrefn ariannol, amddiffyniad arfordirol y Mwmbwls - grant rheoli risgiau llifogydd ac erydu arfordirol 2018-22. pdf eicon PDF 573 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a gadarnhaodd y grant Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd (Cyfalaf) diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a chynnwys y gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2020/2021 a 2021/2022 i gydymffurfio â Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 "er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynllun at y Rhaglen Gyfalaf".

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Cadarnhau’r grant Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd (Cyfalaf) o £1,114,461.00, sef 100% o gyfanswm o'r cyllid ar gyfer cam dylunio'r cynllun hwn a bod hyn wedi'i gynnwys yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer blynyddoedd 2020/2021 hyd at 2021/2022. Cyfanswm cost cam cychwynnol y cynllun yw £1,114,461.00.