Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

199.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 206 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

200.

Cofnodion. pdf eicon PDF 416 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2020;

 

2)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2020;

 

3)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mai 2020.

201.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

202.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

203.

Hawl i holi cynghorwyr.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

204.

Cronfa Cartrefi Cynnes (CCC) - Cais am gyllid ar gyfer gosod Systemau Gwres Canolog am y tro cyntaf yng nghartrefi'r Sector Preifat yn Abertawe. pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf.  Caiff y Gronfa Cartrefi Cynnes ei defnyddio i osod system gwres nwy addas, am y tro cyntaf, mewn sawl eiddo ar draws Abertawe y nodwyd eu bod mewn Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI), i breswylwyr sydd mewn perygl o dlodi tanwydd, neu sydd eisoes mewn tlodi tanwydd a chanddynt system gwres trydanol neu danwydd solet.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r cynnig am gyllid gan y Gronfa Cartrefi Cynnes er mwyn gosod systemau gwres canolog mewn cartrefi cymwys am y tro cyntaf ar gyfer 2020 a 2021 ac ychwanegu'r cynllun at y rhaglen gyfalaf;

 

2)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyfreithiol, y Prif Swyddog Cyllid ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau gymeradwyo'r cyllid a’r ddogfennaeth gytundebol angenrheidiol.

205.

Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2020/21. pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac yn ceisio ystyriaeth ar gyfer mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch newydd dros dro sy'n berthnasol i Ardrethi busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021.  Mae hyn yn ategu’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr a Manwerthu a gyhoeddwyd yn flaenorol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi manylion y cynllun fel y'u nodir yn yr adroddiad;

 

2)              Mabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi a'r broses ymgeisio fel y'u hamlinellwyd yn yr adroddiad, ar gyfer 2020/2021.

206.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 220 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

Lyn Ellis

2)

Ysgol Gynradd Christchurch

Dr Janet Goodall

3)

Ysgol Gynradd Craigfelen

Richard Bevan

4)

Ysgol Gynradd y Glais

Jill John

5)

Ysgol Gynradd Glyncollen

Carole Wright

6)

Ysgol Gynradd Grange

Katy Elizabeth Lewis

7)

Ysgol Gynradd Llanrhidian

yr Athro Ruth Costigan

8)

Ysgol Gynradd Pontybrenin

Caroline Hodson

9)

Ysgol Gynradd Portmead

Wynne Griffiths

10)

Ysgol Gynradd Sgeti

Sharon Jones

11)

YGG Gellionnen

Rebecca Williams

12)

YGG Lôn-Las

Susan Rodway

13)

YGG y Login Fach

Stephen Watkins

 

207.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 236 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

208.

Caffael tir i'r de o Fabian Way yn Nociau Abertawe ar gyfer ffordd gyswllt SA1 arfaethedig.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflawni a Gweithrediadau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y pris prynu y cytunwyd arno ar gyfer caffael 18.7 erw o dir gan Ddinas a Sir Abertawe yn Noc Abertawe. Prynir y tir yn ôl cyfarwyddyd y cleient Priffyrdd, ac mae ei angen er mwyn hwyluso adeiladu ffordd feingefn trwy SA1, gan gysylltu Baldwin’s Crescent a Langdon Road.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.