Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

192.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwr M C Child gysylltiad personol â Chofnod 198 "Cyllid ar gyfer cynllun Tai â Chefnogaeth Brys neu Dros Dro ar gyfer pobl Ddigartref a Diamddiffyn yn ystod Argyfwng Covid-19 - Tom Jones”.

193.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Ysbyty yn Stiwdio’r Bae, Ffordd Fabian

 

Datganodd Arweinydd y Cyngor y caiff yr ysbyty yn Stiwdio’r Bae ei drosglwyddo’n ffurfiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn hwyrach y diwrnod hwnnw.  Diolchodd i bawb a fu’n ymwneud ag adeiladu’r ysbyty.

 

2)              Rhoi Clap i Ofalwyr a Gweithwyr Rheng Flaen

 

Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i ofalwyr a gweithwyr rheng flaen a gofynnodd i bobl dalu teyrnged iddynt trwy roi clap iddynt am 8.00pm yn hwyrach y diwrnod hwnnw.  Dywedodd hefyd y byddai Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo’n las heno i ddangos cefnogaeth.

194.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

195.

Hawl i holi cynghorwyr.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

196.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe - Cyflwyno Achos Busnes ar gyfer Prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pwer pdf eicon PDF 394 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Achos Busnes Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac, yn amodol ar gymeradwyaeth gan Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe, awdurdod i’w gyflwyno'n ffurfiol i Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo achos busnes Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn Atodiad 1 yr adroddiad ac, yn amodol ar gymeradwyaeth Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe, awdurdodi ei gyflwyno'n ffurfiol i Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn unol â Chynllun Gweithredu'r Fargen Ddinesig i sicrhau cymeradwyaeth ariannol y Fargen Ddinesig;

 

2)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr i gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau i'r achos busnes yn dilyn unrhyw sylwadau a wneir gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU neu a all fod yn ofynnol gan Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe;

 

3)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151), Arweinydd y Cyngor ac Aelod perthnasol y Cabinet i ymrwymo i unrhyw gytundebau grant neu ddogfennaeth gysylltiedig a allent fod yn angenrheidiol er mwyn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru/Llywodraeth y DU fel corff atebol Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

197.

Dyfarnu Contract Ail Gam (Adeiladu) Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Prosiect Ailfodelu ac Adnewyddu yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio:

 

i)                   Cymeradwyo ac ymrwymo i'r Rhaglen Gyfalaf, yn unol â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol, y prosiect gyda chostau diwygiedig ar gyfer ailfodelu ac adnewyddu Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt yn amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru;

 

ii)                  Cael awdurdodiad i ddyfarnu'r contract ail gam i Kier Western Ltd, yn amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru;

 

iii)             Cael awdurdodiad i ymrwymo cyfanswm o £13,8080,024.29 i'r rhaglen gyfalaf i ariannu costau'r cam adeiladu.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Dyfarnu'r contract ail gam ar gyfer ailfodelu ac adnewyddu yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt i Kier Western Ltd, yn amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru;

 

2)              Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd yn yr adroddiad ynghyd â'r goblygiadau ariannol yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru.

198.

Cyllid ar gyfer cynllun Tai â Chefnogaeth Brys neu Dros Dro ar gyfer pobl Ddigartref a Diamddiffyn yn ystod Argyfwng Covid-19. pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid adroddiad a oedd yn amlinellu prosiect a oedd yn ymateb yn uniongyrchol i'r sefyllfa Covid-19 bresennol.  Comisiynwyd y prosiect i ddechrau defnyddio Tŷ Tom Jones (a adwaenir hefyd fel The Foyer) ar Heol Alexandra, Abertawe, unwaith eto fel llety ar gyfer hyd at 20 o bobl sengl.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r prosiect a nodwyd ym mharagraff 2.2 yr adroddiad;

 

2)              Roi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Prif Swyddog Cyllid i ymrwymo i unrhyw gytundebau angenrheidiol i sicrhau y caiff y prosiect ei gyflwyno ac i ddiogelu buddion y cyngor;

 

3)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i adennill yr holl wariant sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r prosiect o Lywodraeth Cymru;

 

4)              Adolygu'r prosiect ymhen chwe mis pan fydd darlun cliriach o effaith COVID-19 a'r gofynion angenrheidiol parhaus.