Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

185.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw datganwyd buddiannau.

186.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Diolchodd Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr am waith y rheini sy’n ymwneud ag adeiladu’r ysbyty. Talwyd teyrnged ganddynt hefyd i swyddogion a gwirfoddolwyr sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen i’r gymuned, a diolchwyd iddynt.

187.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn y cyfarfod a rhaid iddynt ymwneud â’r eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

188.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

189.

Eitm Frys.

Dywed Arweinydd y Cyngor, yn unol â pharagraff 100B (4) (b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ei fod yn meddwl y dylid ystyried yr adroddiad "Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol ac FPR7 - Awdurdodiad i Newid ac Addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe" yn y cyfarfod hwn fel mater o frys.

 

Rhesymau dros y brys

Adeiladu ysbyty ar frys yn sgîl Covid-19 i'w drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn yr wythnos sy'n dechrau 27 Ebrill 2020.

Cofnodion:

Datganodd Arweinydd y Cyngor, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ei fod yn meddwl y dylid ystyried yr adroddiad "Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol a Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Awdurdodiad i Newid ac Addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe" yn y cyfarfod hwn fel mater o frys.

 

Rhesymau dros y brys:

Adeiladu ysbyty ar frys yn sgîl Covid-19 i'w drosglwyddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn yr wythnos sy'n dechrau 27 Ebrill 2020.

190.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol ac FPR7 - Awdurdodiad i newid ac addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Mary Jones lythyr a oedd yn cynnwys yr Adborth Craffu Cyn Penderfynu.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

191.

Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol ac FPR7 - Awdurdodiad i newid ac addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio awdurdodiad, ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, i addasu adeilad Elba, Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau a chymeradwyo'r prosiect yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol (RhGA) rhif 7 ac 19.1c.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r prosiect a arweinir gan y cyngor ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i addasu Adeilad Elba, Stiwdios y Bae, yn ysbyty cynnydd sydyn â 1000 o welyau ynghyd â'r goblygiadau ariannol cysylltiedig, a'u hychwanegu at y rhaglen gyfalaf (i gydymffurfio a RhGA 7 - ychwanegiad at y rhaglen gyfalaf)

 

2)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor, y Prif Swyddog Cyllid a'r Prif Swyddog Cyfreithiol gymeradwyo cost derfynol y prosiect ac ymrwymo i unrhyw gytundebau angenrheidiol (yn seiliedig ar y cytundeb cydweithio drafft a gynhwysir yn Atodiad A yr adroddiad) i sicrhau y cyflwynir y prosiect ac er mwyn diogelu buddiannau'r cyngor;

 

3)              Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i adennill yr holl wariant sy'n gysylltiedig a chyflwyno'r prosiect o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn y lle cyntaf ac os yw'n angenrheidiol, o Lywodraeth Cymru.