Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Gwerthu tir yn Heol Gower View - Fferm Gwyn Faen. PDF 245 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Gyflwyniad a Pherfformiad a Chartrefi,
Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i waredu tir dros ben yn Fferm Gwyn Faen, am y pris gorau, am swm
sy'n fwy na chyfyngiadau'r awdurdod dirprwyedig. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Ar ôl ystyried yr adroddiad llafar a oedd yn amlinellu'r
ymateb i'r broses ymgynghori statudol ar fannau agored cyhoeddus, y dylid cymeradwyo’r
cais i waredu’r tir; 2)
Yn amodol ar gymeradwyo argymhelliad 1, dirprwyir
awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, mewn cydweithrediad ag Aelod y Cabinet dros
Gyflwyno a Pherfformiad ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid
Gwasanaethau, i gyd-drafod y Penawdau Telerau terfynol a chymryd y camau
gweithredu angenrheidiol i drefnu gwaredu’r tir; 3)
Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gael
mynediad at unrhyw ddogfennaeth y mae ei hangen i gyflawni'r gweithrediad. |