Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

139.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 154 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)              Datganodd y Cynghorydd M Thomas gysylltiad personol â Chofnod 154"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol";

 

3)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol â Chofnod 155 a 157 “Gwerthu tir dros ben yn Ysgol yr Olchfa”;

 

4)              Datganodd Huw Evans gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 154 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo ddechrau.

140.

Cofnodion. pdf eicon PDF 336 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020.

141.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaeth Arweinydd y Cyngor unrhyw gyhoeddiadau.

142.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas â'r gyllideb.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau.

143.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan gynghorwyr ynghylch y gyllideb.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau.

144.

Adborth ar graffu cyn penderfynu ar y gyllideb flynyddol. (llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. C A Holley yr adborth craffu cyn penderfynu.

145.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3ydd 2019/20. pdf eicon PDF 478 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2019-2020 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain;

 

2)              Nodi'r gwelliannau sylweddol a wnaed hyd yn hyn a chynlluniau eraill y cyfarwyddwyr i sicrhau'r Cabinet y gellir cydbwyso'r cyllidebau gwasanaeth ar gyfer 2019-2020 ac ar ôl hynny er mwyn cael eu rhoi ar waith erbyn 1 Ebrill 2020, ac yn cynharach lle bo'n bosib;

 

3)              Ni all unrhyw swyddog ystyried unrhyw ymrwymiadau gwario pellach o bwys nes bod y cynlluniau arbed hynny'n cael eu sicrhau a'u rhoi ar waith, fel y manylir yn yr adroddiad i fynd i'r afael â gorwario ar wasanaethau.

146.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2021/22 - 2023/24. pdf eicon PDF 809 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan gynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd:    

 

1)       Argymell Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2021-2022 hyd at 2023-2024 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y dyfodol.

147.

Cyllideb Refeniw 2020/2021. pdf eicon PDF 946 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2020-2021.  Roedd yn manylu ar y canlynol:

 

·                Monitro ariannol 2019-2020;

·                Setliad cyllid llywodraeth leol 2020-2021;

·                Rhagolwg cyllidebol 2020-2021;

·                Cynigion arbed penodol;

·                Canlyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb;

·                Goblygiadau staffio;

·                Gofynion y cronfeydd wrth gefn;

·                Gofyniad y gyllideb a Threth y Cyngor 2020-2021;

·                Crynodeb o gynigion ariannu;

·                Risgiau ac ansicrwydd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)      Ystyried canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw newidiadau i'r cynigion cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad yn ogystal â'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel a nodwyd yn Adran 4.10 a 4.11 yr adroddiad;

 

2)        Nodi'r bwlch presennol mewn adnoddau a grybwyllwyd yn Adran 4.5 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb Refeniw gytbwys ar gyfer 2020-2021;

 

3)     Yn ogystal ag adolygiad o gynigion arbed presennol, bydd angen i'r Cabinet:

 

a) Adolygu a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn a argymhellir yn yr adroddiad hwn;

 

b) Cytuno ar lefel treth y cyngor ar gyfer 2020/2021 i'w hargymell i'r cyngor.

 

4)     Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd ac a restrwyd uchod, mae'r Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

a)        Cyllideb Refeniw ar gyfer 2020-2021;

 

b)        Gofyniad y gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2020-2021.

148.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2019/20- 2024/25. pdf eicon PDF 202 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-2020 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020-2021 i 2024-2025

 

Penderfynwyd:

 

1)        Cymeradwyo'r Gyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-2020 a Chyllideb Gyfalaf 2020-2021 - 2024-2025 fel a fanylir yn Atodiadau A, B, C, D, E ac F yr adroddiad.

 

149.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb refeniw 2020/21. pdf eicon PDF 573 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2020-2021 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

Penderfynwyd argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)        Cynyddu rhenti'n unol â pholisi rhent dros dro Llywodraeth Cymru fel a fanylwyd yn Adran 3 yr adroddiad;

 

2)        Cymeradwyo ffïoedd, taliadau a lwfansau fel a amlinellir yn Adran 4 yr adroddiad;

 

3)        Cynigion y gyllideb refeniw fel a nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad.

150.

Cyfrif Refeniw Tai - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2019/20 - 2023/24. pdf eicon PDF 731 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2019-2020 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2020-2021 - 2023-2024.

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)          Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2019-2020;

 

2)          Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2020-2021 a 2023-2024;

 

3)          Lle caiff cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B yr adroddiad eu rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y 4 blynedd.

151.

Strategaeth Gyfalaf 2020/21- 2025/26. pdf eicon PDF 845 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Strategaeth Gyfalaf sy'n cyfeirio'r Rhaglen Gyfalaf 4 blynedd.

 

Penderfynwyd:

 

1)        Cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf.

152.

Cynnig Cyllidebol Canolfannau Gweithgareddau Gwyr ar gyfer 2020/2021. pdf eicon PDF 418 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad a oedd yn ceisio ymgynghori ar gynyddu prisiau ar gyfer Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr trwy amrywiaeth o opsiynau i'w hystyried ar gyfer model gweithredu ar gyfer dyfodol Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr gyda chyllideb ar sail sero'n unol â'r cynnig cyllidebol ar gyfer 2020-21.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r cynigion a amlinellwyd i ymgynghori arnynt fel isod:

 

2)              Cynnig 1 - Cael gwared ar BOB cymhorthdal ar gyfer ysgolion Abertawe a disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim (PYDd) a sefydlu pris mwy masnachol sy'n seiliedig ar brisiau'r farchnad bresennol, a chyflwyno'r cynnig yn ehangach nag ysgolion Abertawe'n unig (ymgynghoriad cyhoeddus);

 

3)              Cynnig 2 - ailstrwythuro staff ymhellach i gyfuno swyddi a defnyddio staff tymhorol/cymorth pan fo angen (ymgynghoriad mewnol).

153.

Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2020/2021. pdf eicon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac yn ystyried mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi’r Stryd Fawr ac Ardrethi Manwerthu newydd dros dro sy'n berthnasol i Ardrethi busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-2021.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi manylion y cynllun yn yr adroddiad;

 

2)        Mabwysiadu'r Cynllun Cymorth Ardrethi a'r broses ymgeisio fel y'u nodir yn yr adroddiad, ar gyfer 2020-2021.

154.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Brynhyfryd

Debbie Whyte

2)

Ysgol Gynradd Brynhyfryd

Y Cyng. Mike White

3)

Ysgol Gynradd Newton

George Butterfield

4)

Ysgol Gynradd Penclawdd

Lynwen Tregembo

5)

Ysgol Gynradd Penllergaer

Alan Hussey

6)

Ysgol Gynradd Portmead

Paul Phillips

7)

Ysgol Gynradd Seaview

Y Cyng. Cyril Anderson

8)

Ysgol Gynradd Ynystawe

Jenifer James

9)

YGG Bryniago

Elen Jones

10)

YGG Pontybrenin

Huw Evans

11)

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

Joanne Meller

12)

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

Sarah Cole

13)

Ysgol Gyfun yr Olchfa

Y Cyng. Mary Jones

14)

Ysgol Gyfun Penyrheol

Y Cyng. Kelly Roberts

15)

YG Bryntawe

Parch. Eirian Wyn

 

155.

Gwerthu tir dros ben yn Ysgol yr Olchfa. pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio caniatâd i gael gwared ar dir dros ben yn Ysgol yr Olchfa, am y pris gorau, am swm sy'n fwy na chyfyngiadau'r awdurdod dirprwyedig.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi argymhellion asiantiaid gwerthu tir penodedig y cyngor a chymeradwyo gwerthu'r tir i Gynigiwr 2;

 

2)              Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr Lleoedd ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad i drafod y Penawdau Telerau terfynol a chymryd pob cam gweithredu angenrheidiol i drefnu gwaredu'r tir;

 

3)              Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gael mynediad at unrhyw ddogfennaeth y mae ei hangen i gyflawni'r gweithrediad.

156.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

157.

Gwerthu tir dros ben yn Ysgol yr Olchfa.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth gefndir ychwanegol sy'n berthnasol i Adroddiad Arfaethedig "Gwerthu Tir Addysg Dros Ben yn Ysgol yr Olchfa".

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.