Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

125.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw datganwyd buddiannau.

126.

Cofnodion. pdf eicon PDF 319 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cabinet a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2020 yn amodol ar nodi bod y Cynghorydd M C Child yn bresennol.

127.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaeth Arweinydd y Cyngor unrhyw gyhoeddiadau.

128.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Questions must relate to matters on the open part of the Agenda of the meeting and will be dealt with in a 10 minute period.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

129.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

130.

Dyfarnu Contract ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer ymestyn ac ailfodelu Y G Gwyr. pdf eicon PDF 497 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynllun i ymestyn ac ailfodelu YG Gŵyr yn amodol ar gymeradwyaeth grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru. Ceisiwyd caniatâd hefyd i ddyfarnu'r contract i Dendr Rhif 2 yn amodol ar gadarnhau grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru.  Roedd yr adroddiad hefyd yn cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglenni ac Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r cynllun i ymestyn ac ailfodelu YG Gŵyr yn amodol ar gymeradwyaeth grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru;

 

2)              dyfarnu'r contract i Dendr Rhif 2, yn amodol ar gymeradwyaeth grant a chontract Llywodraeth Cymru;

 

3)              Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd yn yr adroddiad ynghyd â'r goblygiadau ariannol, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru.

131.

Dyfarnu Contract ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer adeilad newydd yn lle YGG Tirdeunaw. pdf eicon PDF 578 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynllun adeilad newydd yn YGG Tirdeunaw yn destun cymeradwyaeth grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru.  Ceisiwyd caniatâd hefyd i ddyfarnu'r contract adeiladu i Dendr Rhif 2 yn amodol ar gadarnhau grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru.

 

Nododd yr adroddiad hefyd y gofyniad i ddiwygio'r dyddiad gweithredu i ymestyn safle YGG Tirdeunaw yn unol â phenodiad y contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig y prosiect, ac y byddai adroddiad arall yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet cyn y dyddiad gweithredu gwreiddio ym mis Ionawr 2021, er mwyn ceisio cymeradwyaeth am yr oedi a diwygio'r dyddiad gweithredu.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Dyfarnu'r contract ar gyfer gweddill y dyluniad ac i godi adeilad newydd ar gyfer YGG Tirdeunaw ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Heol Gwyrosydd i Dendr Rhif 2 yn amodol ar gymeradwyaeth grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru;

 

2)              Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd yn yr adroddiad ynghyd â'r goblygiadau ariannol yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru.

132.

Adroddiad Blynyddol Cwynion 2018-19. pdf eicon PDF 256 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad er gwybodaeth a oedd yn adrodd am nifer, natur a chanlyniadau'r cwynion a wnaed yn erbyn yr awdurdod, ynghyd â manylion y gwersi a ddysgwyd a syniadau am wella gwasanaethau. 

 

Paratowyd yr adroddiadau canlynol ar wahân ac ar y cyd â'r adroddiad hwn, ac fe'u hadodwyd at ddibenion gwybodaeth:

 

·         Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion;

·         Cwynion y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

·         Deddf Rhyddid Gwybodaeth (Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth);

·         Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA).

133.

Y Diweddaraf am y Rhaglen Datblygu Mwy o Gartrefi. pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn nodi dyheadau'r cyngor i gyflwyno cartrefi fforddiadwy newydd dros 10 mlynedd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Bydd y cyngor yn gosod targed i gyflwyno 1,000 o gartrefi cyngor newydd trwy'r Cyfrif Refeniw Tai, a 4,000 o gartrefi fforddiadwy eraill fel rhan o'i nod o gyflwyno mwy na 5,000 o gartref fforddiadwy newydd dros y cyfnod rhwng 2021 a 2031;

 

2)              Yn unol â gofynion cyllido grantiau Llywodraeth Cymru, llunnir rhaglen dreigl 3 blynedd o gynlluniau datblygiadau, sy'n nodi lle caiff y cartrefi eu cyflwyno a nodir y bydd unrhyw newidiadau i'r rhagdybiaethau ariannol yn yr adroddiad hwn yn arwain at gynnydd neu leihad yn nifer yr unedau y gall y cyngor eu fforddio;

 

3)              Caiff unrhyw benderfyniadau pellach sy'n berthnasol i'r broses uchod eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau, a chaiff cynlluniau datblygu yn y dyfodol eu nodi a'u cymeradwyo trwy adroddiad blynyddol Cyllideb Cyfalaf y Refeniw Tai.

134.

Marchnata Safleoedd Cyfrif Refeniw Tai (CRT) a Chyfle Menter ar y Cyd pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn amlinellu bwriad y cyngor i gyflawni ymarfer caffael i benodi partner neu bartneriaid datblygu er mwyn cyflwyno cynlluniau tai daliadaeth gymysg ar amrywiaeth o safleoedd Cyfrif Refeniw Tai fel cytundeb menter ar y cyd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Bydd y cyngor yn parhau i gyflawni ymarfer caffael i benodi partner neu bartneriaid datblygu i ddatblygu rhai safleoedd Cyfrif Refeniw Tai;

 

2)              Cyn dechrau'r ymarfer caffael, bydd y cyngor yn ymgymryd â'r diwydrwydd dyladwy sy'n ofynnol;

 

3)              Caiff cefnogaeth gyfreithiol, ariannol a chynllunio addas ei chaffael i gefnogi'r broses yn ôl yr angen;

 

4)              Caiff unrhyw benderfyniadau pellach sy'n berthnasol i'r broses eu dirprwyo i Gyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau.

135.

Y Diweddaraf am gynnydd blaenoriaethau'r Cyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer 2018-2019. pdf eicon PDF 281 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau'r diweddaraf am gynnydd o ran bodloni'r blaenoriaethau amlinellol a nodwyd ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2018-2019 a'r blaenoriaethau amlinellol a nodwyd ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2019-2020.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Nodi'r cynnydd.

136.

Bwriad i gymryd meddiant o 70-72 Heol Alexandra, Gorseinon, Abertawe. pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ystyried a ddylid adfeddu 70-72 Heol Alexandra, Gorseinon o dan Adran 122 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 at ddibenion tai.  Mae'r tir y cynigir ei adfeddu ar hyn o bryd yn dir gwasanaethau cymdeithasol y cyngor ac ystyrir nad oes ei angen mwyach at y dibenion hyn.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Ystyried yr eiddo a nodwyd ar y cynllun yn Atodiad B yr adroddiad fel eiddo nad oes ei angen mwyach at ddibenion y gwasanaethau cymdeithasol;

 

2)              Adfeddu'r eiddo a nodir isod o dan Adran 122 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 at ddibenion tai, sef darparu dwy uned breswyl ar gyfer tai cyngor.

137.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

138.

Cynigion Datblygu Eiddo'r Cyngor.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad manwl ynghylch y prosiect peilot Datblygu Eiddo'n Uniongyrchol a Hysbysiad o Wybodaeth Flaenorol (HWF).

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.