Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd R C Stewart gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 170 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn iddo ddechrau; 2)
Datganodd y Cynghorwyr M C Child a R Francis-Davies gysylltiad
personol â Chofnod 174 "Adroddiad Blynyddol Parneriaethau
Hamdden 2018/19”; 3)
Datganodd y Prif Weithredwr, Phil Roberts gysylltiad
personol â Chofnod 179 "Gwella Ysgolion – Trefniadau Gweithio’r Dyfodol”. |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir,
gofnodion y cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
o'r Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2020; 2)
Cyfarfod
o'r Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2020. |
|||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Covid-19 Diolchodd Arweinydd y Cyngor i bawb sydd wedi, ac sy’n parhau i gynorthwyo
gyda’r trefniadau ar draws Abertawe mewn perthynas â phandemig
Covid-19. |
|||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion
ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 2019/20. PDF 367 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r
Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2019/2020. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Nodi
ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau
gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau
gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni
blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|||||||||||||||||||
Adolygiad Blynyddol o Amcanion Lles a Chynllun Corfforaethol 2020/22. PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn cyhoeddi Cynllun
Corfforaethol diwygiedig sy'n cynnwys Amcanion Lles y cyngor ar gyfer 2020/22
yn unol â'r gofynion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)
2015 a'r arweiniad statudol sy'n berthnasol i Gyrff Cyhoeddus. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r Cynllun Corfforaethol diwygiedig ar gyfer
2020/22. |
|||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 215 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg
ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||||||||||||||
Canolbwynt diwylliannol a digidol yn Theatr y Grand. PDF 274 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i roi prydles i Gyngor Hil Cymru a chreu Canolfan Ddiwylliannol a
Digidol yn Adain y Celfyddydau Theatr y Grand Abertawe at ddefnydd y gymuned. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo rhoi cytundeb rheoli a phrydles 5 mlynedd i
Gyngor Hil Cymru, gyda'r opsiwn i adnewyddu am 5 mlynedd arall yn ôl disgresiwn
y cyngor; 2)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif
Swyddog Cyfreithiol ar y cyd â'r Aelod Cabinet perthnasol i drafod y Penawdau
Telerau terfynol a llunio unrhyw ddogfennaeth sy'n angenrheidiol er mwyn
cwblhau'r weithrediad. |
|||||||||||||||||||
Rhaglen Grant Cyfleusterau I'r Anabl A Grant Gwella 2020/2021. PDF 336 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd
yn darparu manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella ac
yn ceisio cymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf 2020/21.
Cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau
Cyfalaf), i ymrwymo ac awdurdodi cynlluniau yn ôl y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl
a'r Grant Gwella, fel y'i nodwyd, gan gynnwys ei goblygiadau ariannol, ac y
dylid ei chynnwys yng Nghyllideb Gyfalaf 21/2020; 2)
Adolygu Polisi Adnewyddu ac Addasiadau i'r Anabl y Sector
Preifat yn 2020/21 er mwyn helpu i gyfeirio gofynion cyllido'r rhaglen yn y
dyfodol. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2020/2021. PDF 260 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar
y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf
arfaethedig a restrir yn Atodiad A i'r adroddiad; 2)
Cymeradwyo'r cynlluniau a'u goblygiadau ariannol fel a
nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad i'w cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad Blynyddol Partneriaethau Hamdden 18/19. PDF 275 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn darparu
gwybodaeth am weithdrefnau partneriaeth cyfleusterau allweddol ym mhortffolio'r
Gwasanaethau Diwylliannol. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Y dylid nodi'r adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2020-2021. PDF 272 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio
cadarnhad am y Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Dylid
cymeradwyo'r dyraniadau arfaethedig, ynghyd â'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn
Atodiad A yr adroddiad, a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf; 2)
Dirprwyo
awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant gyda chydsyniad Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i flaenoriaethu, cwblhau a
dyrannu'r arian i'r cynlluniau priodol yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a
nodwyd yn yr adroddiad; 3)
Cymeradwyo'r
Blaenraglen Waith Priffyrdd 5 mlynedd. |
|||||||||||||||||||
Cyllideb Gymunedol yr Aelodau - Arweiniad Diweddaredig. PDF 276 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Gymunedau Gwell adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ac yn
diwygio'r meini prawf ar gyfer cyflwyno'r cynllun Cyllideb Gymunedol i
adlewyrchu'r gallu i wneud cais am ddyraniad cyfalaf ychwanegol. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r arweiniad diwygiedig sy'n ymwneud â
Chyllidebau Cymunedol (Refeniw a Chyfalaf). |
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i drafod Penawdau Telerau, cytuno arnynt ac ymrwymo i brydles
gyda Chyngor Cymuned Clydach ar gyfer Parc Coed Gwilym, gan gynnwys rheoli
defnydd cymunedol a llogi a gosod eilaidd yn ddi-oed. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Ar ôl ystyried yr adroddiad llafar a oedd yn amlinellu'r
ymateb i broses ymgynghori statudol mannau agored cyhoeddus, cymeradwywyd y
cynigion i waredu'r tir a nodwyd y goblygiadau ariannol a gweithredol; 2)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd drafod a
phenderfynu ar delerau'r brydles arfaethedig (ac unrhyw Weithredoedd Amrywiad
wedi hynny) a dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol er mwyn cwblhau'r
ddogfennaeth gyfreithiol; 3)
Cymeradwyo'r uchelgeisiau tymor hir a'r rhaglen
welliannau fesul cam a gynigwyd gan Gyngor Cyngor
Cymuned Clydach mewn egwyddor; 4)
Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lleoedd i gytuno ar y rhaglen
fesul cam, ar yr amod y bodlonir yr adolygiadau agoriadol a cherrig milltir, y
cyllid, mynediad, contractau ac unrhyw
gymeradwyaethau a gweithdrefnau gofynnol eraill. |
|||||||||||||||||||
FPR7 - Cymeradwyo Cyfalaf Cronfa Gofal Integredig 2019/2020. PDF 358 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn ceisio arian
cyfalaf cymeradwyaeth ar gyfer y Gronfa Gofal Integredig (GGI) ar gyfer Cyngor
Abertawe ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac
Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac awdurdodi cynllun i’r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Nodi'r
cynlluniau sy'n cael eu hamlinellu yn yr adroddiad a'u goblygiadau ariannol a'u
hychwanegu at Raglen Gyfalaf y cyngor. |
|||||||||||||||||||
Gwella Ysgolion - Trefniadau Gweithio'r Dyfodol. PDF 321 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn -
Brys:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod
“naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog
Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y
weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys
methu cydymffurfio â gofynion statudol". Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn rhoi hysbysiad i
adael y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol, ERW. Penderfynwyd
ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo
model newydd ar gyfer gwella ysgolion yn seiliedig ar strwythur y Fargen
Ddinesig mewn egwyddor; 2)
Bydd
yr awdurdod yn gadael y trefniant consortiwm presennol trwy ERW erbyn 1 Ebrill
2021 ac yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i bob un o'r awdurdodau eraill erbyn
31 Mawrth 2020; 3)
Cynnal
trafodaethau â Chynghorau Partner Dinas-ranbarth Bae Abertawe a Llywodraeth
Cymru i gytuno ar drefniadau cydweithio yn y dyfodol er mwyn gwella ysgolion. |
|||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd. PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y
dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||||||||
Diweddariad ar Reoli ac Adroddiad Opsiynau ar gyfer Maes Awyr Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am
y gweithgareddau rheoli ystadau presennol ym Maes Awyr Abertawe, gan gynnwys
atal trwydded weithredu'r Awdurdod Hedfan Sifil (AHS) dros dro. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
FPR7 - Y diweddaraf am Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru 2018-21. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a oedd yn
ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau
Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen
Gyfalaf. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Cronfa Gyfalaf Ysgogi Economaidd. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio
â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn neilltuo
ac awdurdodi cynnwys y Gronfa Gyfalaf Ysgogi Economaidd. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
FPR7 - Caffael The Lamb, 105 Y Stryd Fawr, Abertawe Cofnodion: Cyflwynodd
Aelodau'r Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau, Cydnerthedd a Chydweithio Strategol a Buddsoddi, Adfywio a
Thwristiaeth adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac
awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |