Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 87 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb
gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion
yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. |
||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2019. |
||||||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Llongyfarchodd Arweinydd y Cyngor Tonia Antoniazzi (Etholaeth
Gŵyr), Carolyn Harris (Etholaeth Dwyrain
Abertawe) a Geraint Davies (Etholaeth Gorllewin
Abertawe) am lwyddo i ddychwelyd fel Aelodau Seneddol yn dilyn yr Etholiad
Seneddol ar 12 Rhagfyr 2019. |
||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol
(ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg
ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
||||||||||||||||
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grant Ychwanegol ar gyfer Cronfa Teithio Llesol 2019/20 PDF 512 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn cadarnhau
canlyniad y cais ychwanegol am arian gan y Grant Teithio Llesol, ac a oedd yn
ceisio caniatâd i'w wario ar y prosiectau cysylltiedig. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r cynlluniau GTLl
ychwanegol ynghyd â'r goblygiadau ariannol. |
||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
||||||||||||||||
Penawdau'r Telerau a gytunwyd ar gyfer meddiannu'r Ganolfan Ddinesig gan drydydd parti. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer y cynnig arfaethedig i brydlesu lleoedd gwag yn y Ganolfan Ddinesig yn
y tymor byr. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir
yn yr adroddiad. |