Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

88.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

89.

Cofnodion. pdf eicon PDF 314 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2019.

90.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

91.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

92.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd J W Jones nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod Rhif 94 "Adroddiad Cyflwyno Terfynol Abertawe Ganolog - Cam 1".

 

Ymatebodd Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd R C Stewart.

93.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Cam 1 Abertawe Ganolog - Adroddiad Cyflwyno Terfynol. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley yr Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu ynghylch "Cam 1 Abertawe Ganolog - Adroddiad Cyflwyno Terfynol".

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

94.

Cam 1 Abertawe Ganolog - Adroddiad Cyflwyno Terfynol. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn disgrifio'r achos busnes manwl i gyfeirio'r broses benderfynu ar a ddylid bwrw ymlaen â'r datblygiad, a dyfarnu contract cam 2 yn unol â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol a'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r cynllun a'i oblygiadau ariannol, yn benodol ychwanegu £100,720m at y rhaglen gyfalaf dan Reol 7 y Weithdrefn Ariannol;

 

2)              Cymeradwyo dyfarnu contract y prif waith adeiladu i Buckingham Group Contracting Ltd er mwyn iddo gyflwyno'r prosiect;

 

3)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i Arweinydd y Cyngor, y Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyllid a'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gymeradwyo unrhyw ddogfennaeth ac ymrwymo iddi a chymeradwyo unrhyw gyllid perthnasol sy'n hanfodol i gyflawni'r cynllun gan gynnwys y Penawdau Telerau ac unrhyw ddogfennaeth sy'n angenrheidiol er mwyn hwyluso datblygiad gwesty ar y safle;

 

4)              Cymeradwyo sefydlu cyllidebau cronfa cynnal a chadw ac ad-dalu a chaiff y gwariant ei gymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid;

 

5)              Cymeradwyo cyfalafu amser y swyddogion sy'n gweithio ar y cynllun i gefnogi darparu'r prosiect ymhellach, fel yr awdurdodir gan y Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid;

 

6)              Sefydlu rhagdaliad bond i Buckingham gan ddirprwyo'r telerau a'r swm terfynol i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid.

95.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Canfyddiadau Adolygiad Comisiynu Tai. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu ynghylch "Canfyddiadau'r Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau".

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

96.

Canfyddiadau Adolygiad Comisiynu Tai. pdf eicon PDF 1006 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i roi canfyddiadau'r Adolygiad Comisiynu Tai ar waith ac i gynnal ymgynghoriad tenantiaid ffurfiol ynghylch model Gwasanaeth Swyddfeydd Tai Rhanbarthol y dyfodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo canfyddiadau allweddol yr adolygiad i'w rhoi ar waith;

 

2)              Y bydd y newid arfaethedig i fodel Gwasanaeth Swyddfeydd Tai Rhanbarthol y dyfodol yn destun i ymarfer ymgynghori ffurfiol â thenantiaid a chaiff y canlyniadau eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet cyn ei roi ar waith.

97.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2019/20 pdf eicon PDF 476 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2019/20 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain;

 

2)              Nodi cynlluniau'r Cyfarwyddwr i sicrhau'r Cabinet y gellir cysoni cyllidebau'r gwasanaeth yn gynaliadwy ar gyfer 2019-20 a'r dyfodol, a'u rhoi ar waith erbyn 1 Ebrill 2020, ac yn gynharach lle y bo'n bosib;

 

3)              Na all unrhyw swyddog ystyried unrhyw ymrwymiadau gwario pellach o bwys nes bod y cynlluniau arbed hynny'n cael eu sicrhau a'u rhoi ar waith, fel y manylir yn yr adroddiad i fynd i'r afael â gorwario ar wasanaethau.

98.

Marchnata Safleoedd Strategol - Cyfle am Fenter ar y Cyd yng nghanol y ddinas & FPR7. pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn amlinellu opsiynau adfywio ar gyfer y dyfodol gan adeiladu ar effaith gatalytig y prosiectau datblygu presennol yng nghanol y ddinas gan gynnwys marchnata safleoedd strategol i sicrhau partner menter ar y cyd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo gofynion y cyllid refeniw fel y'u hamlinellir ym Mharagraff 5.3 yr adroddiad;

 

2)              Datblygu opsiwn 3 fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad a marchnata a hysbysebu'r Cyfle ar gyfer Menter ar y Cyd ar GwerthwchiGymru;

 

3)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i gymeradwyo'r ddogfennaeth farchnata a thendro gan gynnwys Memorandwm Gwybodaeth a chytundeb cyfreithiol drafft/yr offeryn cyflwyno.

99.

Strategaeth Cydymffurfio Statudol. pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu'r Strategaeth Cydymffurfio Statudol ar gyfer adeiladau dan reolaeth Cyngor Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Strategaeth Cydymffurfio Statudol ddrafft;

 

2)              Nodi'r gweithredoedd a nodwyd yn y strategaeth a'u dirprwyo i Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad ac Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau.

100.

Eitem Frys

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod, yn unol â pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, yn ystyried  y dylai adroddiad "Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, Grant Cyfalaf Trafnidiaeth Lleol 2019/2020 Cyfnewidfa Broadway" gael ei ystyried yn y cyfarfod fel mater brys.

101.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, Grant Cyfalaf Trafnidiaeth Lleol 2019/2020 Cyfnewidfa Broadway pdf eicon PDF 256 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Brys: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys methu cydymffurfio â gofynion statudol".

 

Rheswm dros y Brys: Ariennir y cynllun drwy grant, a diben ailbroffilio'r cyllid ar frys yw sicrhau y gellir cyflwyno'r prosiect o fewn y rhaglen diwedd blwyddyn.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad ar gyfer trefniadau i ddefnyddio cyfraniad refeniw i ategu costau tendro uwch, fel rhan o gynllun Cyfnewidfa Broadway, sy'n cael ei ddatblygu fel rhan o Gronfa Trafnidiaeth Leol (CTL) Llywodraeth Cymru 2019/2020.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Bydd y cyllid refeniw a gynhyrchir gan y ffi ddylunio ychwanegol yn cael ei ddefnyddio fel arian cyfatebol.

102.

Ymchwiliad Craffu ar Dwristiaeth - Ymateb a Chynllun Gweithredu Aelod y Cabinet. pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn amlinellu ymateb i'r argymhellion craffu ac yn cyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer cael cytundeb.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno ar yr ymateb a amlinellwyd yn yr adroddiad a'r cynllun gweithredu cysylltiedig.

103.

Ymchwiliad Craffu ar Waith Cydraddoldeb - Ymateb Aelodau ' r Cabinet. pdf eicon PDF 502 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gydnerthedd a Chydweithio Strategol adroddiad a oedd yn amlinellu ymateb i'r argymhellion craffu a chyflwynodd gynllun gweithredu ar gyfer cael cytundeb.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno ar yr ymateb a amlinellwyd yn yr adroddiad a'r cynllun gweithredu cysylltiedig.

104.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

105.

Cam 1 Abertawe Ganolog - Adroddiad Cyflwyno Terfynol.

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn disgrifio'r achos busnes manwl i gyfeirio'r broses benderfynu ar a ddylid bwrw ymlaen â'r datblygiad, a dyfarnu contract cam 2 yn unol â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol a'r Rheolau Gweithdrefnau Contractau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.