Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

79.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr R Francis Davies a A S Lewis gysylltiad personol â Chofnod 87 “Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”;

 

2)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 87 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

80.

Cofnodion. pdf eicon PDF 334 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Medi 2019.

81.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Yr Henadur Anrhydeddus Alan Lloyd - Cydymdeimladau

 

Mynegodd yr Aelod Llywyddol ei dristwch wrth gyfeirio at farwolaeth ddiweddar yr Henadur Anrhydeddus Alan Lloyd. Roedd Alan yn cyn-Gynghorydd, ac yn gyn-Faer.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

82.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

83.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

84.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018/19. pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cyhoeddi Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018/19, a oedd yn adrodd am y cynnydd a wnaed i fodloni amcanion lles y cyngor ac i fodloni gofynion eraill a nodir yn y canllawiau statudol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2018-2019.

85.

Dyfarnu Contract ac awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer adeilad newydd i YGG Tan-y-lan. pdf eicon PDF 444 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio:

 

i)                Cymeradwyaeth ar gyfer cynllun yr adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan yn amodol ar gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru;

 

ii)              Awdurdod i ddyfarnu'r contract ar gyfer y gwaith i dendr rhif 1, yn amodol ar gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru;

 

iii)             Cymeradwyo'r hysbysiad ynghylch addasiad i'r cynnig i ehangu YGG Tan-y-lan i ddyddiad gweithredu diwygiedig yn unol â phenodiad y contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig y prosiect.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r contract ar gyfer gweddill y dyluniad ac er mwyn codi adeilad newydd ar gyfer YGG Tan-y-lan ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Heol Beaconsview, y Clâs i dendr rhif 1, yn amodol ar gadarnhad grant a chontract gyda Llywodraeth Cymru

 

2)              Cymeradwyo'r hysbysiad ynghylch addasiad i'r cynnig i ehangu YGG Tan-y-lan i ddyddiad gweithredu diwygiedig yn unol â phenodiad y contractwr arfaethedig ac amserlen ddiweddaredig y prosiect;

 

3)              Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd ynghyd â'r goblygiadau ariannol, yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb gyda Llywodraeth Cymru.

86.

Adfywio'n Dinas ar gyfer Lles a Bywyd Gwyllt - Strategaeth Isadeiledd Ardal Werdd Abertawe Ganolog ddrafft. pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Isadeiledd ddrafft Ardal Werdd Abertawe Ganolog.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r cais i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Isadeiledd ddrafft Ardal Werdd Abertawe Ganolog.

87.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 215 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd y Crwys

Linda Place

2)

Ysgol Gynradd Hendrefoelan

Y Cyng. Mary H Jones

3)

Ysgol Gynradd Pen-y-fro

Andrea Jones

4)

Ysgol Gynradd San Helen

Y Cyng. Erika T Kirchner

5)

Ysgol Gyfun Treforys

Paul Relf

6)

Ysgol Gyfun PenyrHeol

Graham Ashman