Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies, E J King, C E Lloyd and R C Stewart fudd personol yng
Nghofnod 76 "Cyfle Masnachol i Ddatblygu Cyfleuster Parcio Newydd ym Mro
Tawe”. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cynhaliwyd cyfarfod y Cabinet ar 15 Awst 2019. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion
ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Cyflwynwyd nifer o gwestiynau
o flaen llaw ynghylch Cofnod 66 “Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol 2018-2019”, Cofnod 70 “Polisi Trwyddedu HMO 2020” a Chofnod 73 “Caffael ac Ailddatblygu Eiddo FPR7 – Theatr y Palace”. Dywedodd Arweinydd y Cyngor
y darperir ymateb ysgrifenedig i’r: 1)
Cwestiynau gan Dereck Roberts mewn perthynas â Chofnod 66; 2)
Cwestiynau gan John Row mewn perthynas â Chofnod 70; 3)
Cwestiynau gan Nortridge
Perrot mewn perthynas â Chofnod 73. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiynau mewn
perthynas â Chofnod 62 “Uwchraddio’r System Cynllunio Adnoddau Menter (ERP)” a
Chofnod 73 “Caffael ac Ailddatblygu Eiddo FPR7 – Theatr y Palace”. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor. |
|
Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Diweddaru System Cynllunio Adnoddau Menter. PDF 160 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd M H Jones Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu mewn
perthynas ag "Uwchraddio System Cynllunio Adnoddau Menter (ERP)". Penderfynwyd: 1)
Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn
penderfynu. |
|
Diweddaru System Cynllunio Adnoddau Menter. PDF 882 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer gwaith i uwchraddio'r system Cynllunio Adnoddau Menter a
neilltuo ac awdurdodi'r prosiect i'r Rhaglen Gyfalaf gan na fydd y system
bresennol yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd 2020. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r prosiect a'r goblygiadau ariannol a'i
ychwanegu at y Rhaglen Gyfalaf er mwyn uwchraddio'r system Cynllunio Adnoddau
Menter erbyn mis Tachwedd 2020. |
|
Rhaglen Gweithio Ystwyth a Gweithio Symudol Ddiwygiedig 2018-2022. PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
diwygio'r Rhaglen Gyfalaf o ran cyflwyno offer TGCH ar gyfer gweithio ystwyth a
gweithio symudol. Roedd yr adroddiad
hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu
ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen
Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r adroddiad a'r cyllidebau
Cyfalaf a'u neilltuo i'r Rhaglen Gyfalaf. |
|
Ymchwiliad Craffu i Waith Cydraddoldebau. PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd L S Gibbard
ganfyddiadau, casgliadau ac argymhellion y Panel Ymchwiliad Craffu Cydraddoldebau yn ei ymchwiliad cydraddoldebau. Penderfynwyd: 1)
Y dylid nodi'r adroddiad: 2)
Y caiff Aelod y Cabinet perthnasol y dasg o
adrodd yn ôl i'r Cabinet drwy lunio ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion craffu
a'r cam(au) gweithredu arfaethedig. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2019/20. PDF 351 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r
Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1, 2019-2020. Penderfynwyd: 1)
Nodi ac adolygu'r canlyniadau
perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu
adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad
ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|
Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol 2018/19. PDF 233 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad
a oedd yn cyhoeddi Adolygiad Cydraddoldeb Blynyddol y cyngor ar gyfer 2018-19
yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a rheoliadau adrodd ar
gyfer Cymru. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo cynnwys yr
adroddiad i'w gyhoeddi. |
|
Tendr ar gyfer System Brynu Ddynamig er mwyn darparu gwasanaethau tacsi PDF 277 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn darparu
manylion canlyniad y broses dendro ac a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddyfarnu
contractau i'r ymgeiswyr llwyddiannus. Penderfynwyd: 1)
Rhoi'r System Brynu Ddynamig
ar gyfer gwasanaethau tacsis ar waith ar gyfer y cyfnod rhwng 28 Hydref 2019 a 30
Mehefin 2021 gydag opsiwn o'i hestyn am 36 mis ychwanegol; 2)
Derbyn a rhoi lle i dendrau'r gweithredwyr yn Atodiad A
yr adroddiad ar y System Brynu Ddynamig ar gyfer gwasanaethau tacsis. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth am wariant cyfalaf ar y rhaglen Newid Cerbydau arfaethedig ar
gyfer priffyrdd a chludiant 2019-2020. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf
Newid Cerbydau Priffyrdd a Chludiant 2019-2020. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn cadarnhau
canlyniad y cais am arian o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Rhwydwaith
Trafnidiaeth Leol a'r Gronfa Teithio Llesol ac a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer gwariant ar y prosiectau cysylltiedig yn 2019-2020. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo cynlluniau'r Gronfa
Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol a'r Gronfa Teithio
Llesol, ynghyd â'u goblygiadau ariannol. |
|
Polisi Trwyddedu HMO 2020. PDF 273 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno adroddiad a oedd yn ceisio adolygiad o drwyddedu Tai
Amlfeddiannaeth (HMO) yn Abertawe, gan gynnwys ceisiadau am drwyddedu
ychwanegol. Penderfynwyd: 1)
Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus
ar Bolisi Drafft Trwyddedu HMO ar gyfer 2020, gan gynnwys Cynllun Trwyddedu HMO
Ychwanegol yn wardiau etholiadol y Castell, Uplands a
St Thomas; 2)
Yn dilyn hyn, caiff canlyniadau'r ymgynghoriad hwn eu
hadrodd yn ôl i'r cyngor er mwyn mabwysiadu Polisi Trwyddedu newydd ar gyfer
2020. |
|
Rhaglen Hunan-Adeiladu Llywodraeth Cymru yn Nghyngor Abertawe. PDF 253 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn amlinellu lansio'r cynllun
newydd ym mis Hydref 2019 gan Lywodraeth Cymru a sut roedd Cyngor Abertawe'n credu y gall gyfrannu at ei lwyddiant. Penderfynwyd: 1)
Y bydd yr awdurdod yn gweithio
gyda'r Adran Tai yn Llywodraeth Cymru i dreialu prosiect peilot hunanadeiladu yn y sir trwy ei fenter Siop Plotiau a chaiff
ei lansio ym mis Hydref 2019; 2)
Bydd yr awdurdod yn ystyried cael benthyciad gan
Lywodraeth Cymru o ran ariannu'r prosiect. |
|
Dinas-ranbarth Bae Abertawe - Diwygiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor PDF 156 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y
diwygiadau yng Nghytundeb Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cytuno ar y diwygiadau yng Nghytundeb
Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe fel a amlinellir yn Atodiad B yr
adroddiad; 2)
Awdurdodi'r Prif Swyddog
Cyfreithiol/Swyddog Monitro i ymrwymo i weithred amrywio i gyflawni'r
newidiadau i Gytundeb y Cyd-bwyllgor a rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif
Weithredwr mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor i wneud unrhyw fân
ddiwygiadau i'r cytundeb yn ôl yr angen ac fel a gytunwyd rhwng yr Awdurdodau
Partner. |
|
Caffael ac ailddatblygu eiddo FPR7 - Theatr y Palace. PDF 254 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a oedd yn
ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol er mwyn cyflwyno ac
awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r bwriad i gaffael ac ailddatblygu
Theatr y Palace fel rhan o raglen Adeiladu ar gyfer y
Dyfodol Llywodraeth Cymru a'r goblygiadau ariannol cysylltiedig a'u hychwanegu
at y Rhaglen Gyfalaf; 2)
Awdurdodi'r cynnig i gaffael Theatr y Palace yn
ôl y telerau a nodir yn yr adroddiad hwn yn amodol ar gymeradwyo cynnig am
arian grant gan Lywodraeth Cymru. Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lleoedd, mewn
ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyllid a'r Prif Swyddog Cyfreithiol, i drafod a
chytuno ar yr holl amodau terfynol y mae eu hangen i symud y gweithrediad hwn
yn ei flaen a chaiff y Prif Swyddog Cyfreithiol ei awdurdodi i gyflwyno'r
prosiect hwn a diogelu buddiannau'r cyngor; 3)
Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lleoedd i ymgymryd
â'r broses diwydrwydd dyladwy briodol fel rhan o'r pryniant arfaethedig er mwyn
sicrhau bod y cyflwr a'r pris prynu a delir yn cynrychioli'r gwerth gorau. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 238 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y
dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Caffael ac ailddatblygu eiddo FPR7 - Theatr y Palace. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a oedd yn
ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol er mwyn neilltuo ac
awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |
|
Cyfle masnachol i ddatblygu cyfleuster parcio newydd ym Mro Tawe. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
neilltuo cynllun arall i'r Rhaglen Gyfalaf yn unol â'r Rheolau Gweithdrefnau
Ariannol er mwyn cael refeniw ychwanegol i'r awdurdod trwy osodiadau trydydd
parti ac i alluogi swyddogion i gytuno ar yr amodau a thelerau terfynol. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |
|
Bwriad i brynu eiddo yng nghanol y ddinas i fuddsoddi ynddo. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer prynu eiddo fel rhan o'r Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo.
Crëwyd y Gronfa yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet a wnaed ar 21 Gorffennaf
2016. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |
|
Prosiect Rhesymoli Depos. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn rhoi
diweddariad ar y prosiect Rhesymoli Depos ac a oedd yn ceisio awdurdod i
gaffael buddiant prydles er mwyn gallu symud o Lanfa Pipehouse
i fan arall. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |