Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Datganwyd y buddiannau canlynol, yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe:

 

Datganodd y Cynghorwyr M C Child, E J King ac M Thomas gysylltiadau personol a rhagfarnol â chofnod rhif 53 - Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol a gadawsant y cyfarfod cyn i’r eitem gael ei thrafod.

46.

Cofnodion. pdf eicon PDF 329 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)    Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf, 2019.

 

47.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Gweddarlledu'r cyfarfod

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod hwn yn cael ei recordio.

 

48.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

 

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

49.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

50.

Monitro Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19. pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad am y perfformiad corfforaethol ar gyfer 2018/19.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

51.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2019/20. pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth am fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2019/20 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain;

 

2)    Y bydd cyfarwyddwyr yn datblygu ac yn cyflwyno cynlluniau digon manwl, a hynny'n gyflym, i roi sicrwydd i'r Cabinet y gellir cysoni cyllidebau gwasanaethau'n gynaliadwy ar gyfer 2019-20 a'r tu hwnt;

 

3)    Os bydd gwasanaethau'n parhau i orwario, yna ni all unrhyw swyddog ystyried unrhyw ymrwymiadau gwario pellach o bwys nes bod y cynlluniau arbed hynny'n cael eu sicrhau.

52.

Sefydlu Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Cronfeydd Cyfun ar gyfer Cartrefi Gofal. pdf eicon PDF 263 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer ymrwymo i gytundeb partneriaeth o dan Adran 33 o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe at ddibenion creu cronfa gyfun ranbarthol ar gyfer cartrefi gofal.

 

Penderfynwyd: -

 

1)    Rhoi cymeradwyaeth ar gyfer cytundeb Adran 33, ac y bydd yr awdurdod yn amrywio neu'n diwygio unrhyw un o'r darpariaethau yn y cytundeb, yn ôl y galw, i sicrhau bod trefniadau'n aros yn addas at y diben ac i fodloni rhwymedigaethau o dan ran 9 y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

53.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 221 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)           Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1.    Ysgol Gynradd Clydach

Mrs Janice Jarman

2.    Ysgol Gymunedol y Gors

Y Cyng. Elliot King

3.    Ysgol Gynradd Grange

Y Cyng. Mark Child

4.    Ysgol Gynradd Penclawdd

Y Cyng. Mark Thomas

5.    Ysgol Gynradd Pennard

Mrs Karen Hopkins

6.    Ysgol Gynradd Pontybrenin

Mrs Sarah John

7.    Ysgol Gynradd San Helen

Dr Nilufar Ahmed

8.    YGG Llwynderw

Dr Katherine Fender

9.    YGG Tan-y-lan

Y Parchedig Ganon Hugh Lervy

10. YGG Tirdeunaw

Mrs Jodi Jones

11. YGG y Login Fach

Mrs Rebecca Sisto

12. Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Mrs Sybil Smith

13. Ysgol Tregŵyr

Mrs Carol Griffiths

14. Ysgol Gyfun Treforys

Mr Steven Minney

15. Ysgol Gyfun Bryn Tawe

Mrs Margaret Greenaway

 

54.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

55.

Penawdau'r Telerau a gytunwyd ar gyfer meddiannu'r Ganolfan Ddinesig gan drydydd parti.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu cynnig i roi 2 ardal wag yn y Ganolfan Ddinesig ar osod yn y tymor byr.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a gynhwyswyd yn yr adroddiad.