Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J A
Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 37
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael
goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond
i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr
awdurdod lleol. 2)
Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd fudd
personol yng Nghofnod 43 "Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol i Hwyluso Gwelliannau
i'r Briffordd". |
||||||||||
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2019. |
||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu'r Cyfarfod Dywedodd Arweinydd y Cyngor, fel rhan o'r gwaith
cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y
cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y
cyfarfod yn cael ei recordio. |
||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y
Cynghorydd C A Holley gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 33 "Alldro
Ariannol Refeniw 2018/2019" a Chofnod 35 "Alldro ac Ariannu Cyfalaf
2018/2019". Ymatebodd
Arweinydd y Cyngor a Swyddog Adran 151. |
||||||||||
Adroddiad Craffu ar Dwristiaeth. PDF 127 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Gweithgor
Craffu ar Dwristiaeth adroddiad a oedd yn cyflwyno'r canlyniadau, y casgliadau
a'r argymhellion a gafwyd yn dilyn Gweithgor Craffu ar Dwristiaeth. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
adroddiad, a chafodd yr aelod perthnasol o'r Cabinet y dasg o baratoi ymateb ysgrifenedig
i'r adroddiad, yr argymhellion a'r gweithredoedd arfaethedig i'w gyflwyno i'r
Cabinet. |
||||||||||
Ymateb Aelod y Cabinet dros Ymchwiliad Craffu'r Amgylchedd Naturiol a Chynllun Gweithredu PDF 261 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gyflwyno adroddiad a oedd yn amlinellu ymateb i'r argymhellion
craffu ac yn cyflwyno cynllun gweithredu i gytuno arno. Penderfynwyd: 1)
Cytuno
ar yr ymateb fel y'i hamlinellwyd yn yr adroddiad a'r cynllun gweithredu
cysylltiedig. |
||||||||||
Alldro Ariannol Refeniw 2018/19. PDF 188 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar alldro refeniw 2018-2019. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad; 2)
Cymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig a
nodir yn Adran 7.3 yr adroddiad. |
||||||||||
Alldro Refeniw 2017/18 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT). PDF 106 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar alldro Cyfrif Refeniw Tai (CRT)
Dinas a Sir Abertawe o'i gymharu â'r gyllideb refeniw gymeradwy ar gyfer
2018-2019. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r amrywiadau a fanylwyd yn yr adroddiad. |
||||||||||
Alldro cyfalaf ac ariannu 2018/19. PDF 142 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar yr alldro cyfalaf a'r arian ar
gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019. Penderfynwyd: 1)
Cario
tanwariant net y gyllideb gymeradwy £27.979m ymlaen i 2019-2020. |
||||||||||
Ail-greu Stryd y Gwynt. PDF 173 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd ac
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn
ceisio rhoi cymeradwyaeth i swyddogion ddatblygu'r broses o roi'r astudiaeth dichonoldeb
ar waith o bosib trwy ddatblygu rhagor o gynlluniau arfaethedig i hwyluso'r
broses o'i chyflwyno, yn enwedig mewn perthynas â chyllideb. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo egwyddorion astudiaeth dichonoldeb Stryd y Gwynt fel y fframwaith trosgynnol ar gyfer adfywiad ffisegol Stryd y Gwynt, yn amodol ar gael proses dylunio a chymeradwyo fwy manwl; 2)
Cymeradwyo'r cynllun model arian a amlinellwyd yn yr adroddiad gyda'r
uchelgais o symud i'r cynllun model aur os daw'r arian ar gael, symud ymlaen
i'r cam dylunio manwl a chaniatáu i swyddogion gyflwyno ceisiadau am gyllid; 3) Llunio adroddiad arall sy'n nodi'r dyluniadau manwl, y costau, adroddiad Asesiad Effaith Cydraddoldeb manwl gan gynnwys cynllun gweithredu i gynnwys mwy o ymgynghori a chynnwys, a chadarnhau'r trefniadau ariannu cyn penderfynu'n derfynol ar y cynllun. |
||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar
gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg
ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
||||||||||
Adleoli Dysgu Gydol Oes o Dy Bryn. PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell ac Aelod y Cabinet dros
Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad ar y cyd a oedd yn amlinellu'r cynnig i
adleoli'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes o Ganolfan Addysg Gymunedol Tŷ Bryn. Penderfynwyd: 1)
Adleoli'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes o Dŷ Bryn, Heol
Walter, Uplands, SA1 4PS i'r Ganolfan Ddinesig a
chyflwyno'r addysg o leoliadau amgen ar draws y sir. |
||||||||||
Newidiadau i Bolisi Parcio Preswylwyr. PDF 729 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad
a oedd yn nodi'r newidiadau arfaethedig i Bolisi Parcio Preswylwyr y cyngor. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i Bolisi Parcio
Preswylwyr y cyngor a nodwyd yn yr adroddiad. |
||||||||||
Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2019. PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant adroddiad a oedd yn rhoi
diweddariad ar ofynion a chanfyddiadau Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd
Chwarae 2019. Penderfynwyd: 1)
Nodi canfyddiadau Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd
Chwarae 2019; 2)
Cytuno i ryddhau'r canfyddiadau fel crynodeb i'r cyhoedd. |
||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd C R Stewart y cyfarfod. Y Cynghorydd C E Lloyd (fu'n llywyddu) |
||||||||||
Adroddiad Dyfarnu Contract - Dyfarnu Cytundeb Fframwaith ar gyfer darparu Gwasanaethau Gofal Cartref a Seibiant yn y Cartref i Bobl H?n ac Oedolion Iau ag Anableddau Corfforol Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn nodi
canlyniad tendrau diweddar i benodi darparwyr i Gytundeb Fframwaith i Ddarparu
Gwasanaethau Gofal yn y Cartref a Seibiant yn y Cartref ar gyfer Pobl Hŷn ac
Oedolion Iau ag Anableddau Corfforol ac/neu Nam Synhwyraidd a cheisiodd
gymeradwyaeth i benodi 12 o ddarparwyr i'r Cytundeb Fframwaith. Gofynnodd i ddiwygio
paragraff 5.6 yr adroddiad.
Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ynghyd â'r diwygiad
arfaethedig i baragraff 5.6 yr adroddiad. |
||||||||||
Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol er mwyn hwyluso Gwelliannau Priffyrdd Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i baratoi Gorchmynion Pwrcasu Gorfodol. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |
||||||||||
Y Diweddaraf am y Rhaglen Waredu Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn cyflwyno
trosolwg o'r ffrydiau gwaith amrywiol sy'n rhan o'r Rhaglen Gwaredu Eiddo ac yn
amlygu rhai o'r ffrydiau gwaith parhaus cyfredol mewn perthynas â gwaredu
eiddo'r cyngor. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |