Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd E J
King gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 107
"Abertawe Gynaliadwy - yn Addas i'r Dyfodol: Cynigion Cyllidebol 2019/20 -
2022/23" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried. |
|
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o
gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 107 "Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas
i'r Dyfodol: Cynigion Cyllidebol 2019/20 – 2022/23”. Ymatebodd Arweinydd
y Cyngor. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Abertawe Gynaliadwy - yn addas i'r dyfodol: cynigion cyllidebol 2019/20 - 2022/23.* PDF 572 KB *Gweithdrefn Galw i Mewn - Brys: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y
Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n
debygol o gael ei achosi gan y weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor
neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys methu cydymffurfio â gofynion statudol". Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn -
Brys:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod
“naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog Monitro'n
ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y weithdrefn
galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys methu
cydymffurfio â gofynion statudol". Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer cynigion cyllidebol 2019/2020 a 2022/23 fel rhan o Strategaeth
Gyllidebol y Cyngor, Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
cynigion cyllidebol a grynhoir yn yr adroddiad ac y manylir arnynt yn Atodiad A
ac Atodiad C fel sail ymgynghori; 2)
Mabwysiadu
rhagolygon diweddaraf y gyllideb ar gyfer y dyfodol fel y sylfaen cynllunio ar
gyfer cynllun ariannol tymor canolig newydd, a fydd yn cael ei ystyried gan y
cyngor ar 28 Chwefror 2019; 3)
Cytuno
ar yr ymagwedd ymgynghori ac ymgysylltu â staff, undebau llafur, preswylwyr a
phartïon eraill â diddordeb, a amlinellir yn adran 7 yr adroddiad; 4) Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol i'r Cabinet yn ystod ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2019. |