Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw gysylltiadau. |
|
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion
ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y
Cynghorydd M B Lewis gwestiwn ynglŷn â Chofnod 99 "Diweddariad ar Gam
1 Cynllun Abertawe Ganolog a'r FPR7". Ymatebodd yr
Arweinydd yn briodol. |
|
Craffu Cyn Penderfyniad - Diweddariad ar Gam 1 Cynllun Abertawe Ganolog a'r FPR7. Cofnodion: Cyflwynodd y Cyng.
J W Jones yr adborth craffu cyn penderfynu. Diolchodd yr
Arweinydd i’r swyddogion craffu am y llythyr a'u mewnbwn. |
|
Diweddariad ar Gam 1 Cynllun Abertawe Ganolog a'r FPR7. PDF 6 MB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn darparu diweddariad
am Gam 1 Cynllun Abertawe Ganolog ac yn gofyn am awdurdodiad cyllideb er mwyn
mynd ati i gyflwyno'r cynllun yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol. Penderfynwyd: 1)
Awdurdodi
cyllideb ychwanegol gwerth £3m er mwyn caniatáu i'r dyluniadau manwl symud
ymlaen er mwyn i'r prosiect allu cyflawni sicrwydd cost; 2)
Nodi
ffigur cyffredinol presennol y gyllideb, sef £130m; 3)
Rhoi
pwerau dirprwyedig i Arweinydd y Cyngor, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Swyddog
Adran 151 ar gyfer £6.9m pellach i barhau gyda'r gwaith galluogi cyn cychwyn y
prif gontract, unwaith bydd sicrwydd pellach o ran cyllid a fforddadwyedd.
4)
Cymeradwyo
a chadarnhau'r adnoddau cyllid ychwanegol y mae eu hangen i ddatblygu'r cynllun
a chadarnhau cyfalafu swyddogion priodol sy'n gweithio ar y cynllun lle bo'n bosib
er mwyn ariannu cyflwyniad. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 111 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar
gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Diweddariad ar Gam 1 Cynllun Abertawe Ganolog a'r FPR7. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn darparu manylion
ariannol am Gam 1 Cynllun Abertawe Ganolog yn unol â Rheolau Gweithdrefnau
Ariannol. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |