Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Mynegodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 8 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros, siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol;

 

2)              Mynegodd Jack Straw gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 13 "Gwerthu Tir Priffordd yn y Mwmbwls, Abertawe” a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2019;

 

2)              Cyfarfod Arbennig o'r Cabinet a gynhaliwyd ar 2 Mai 2019.

3.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu Cyfarfod

 

Dywedodd y Dirpwry Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod yn cael ei recordio.

4.

Cwestiynau Gan y Cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Hawl i Holi Cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

6.

Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl - Byw â Chymorth. pdf eicon PDF 224 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl adroddiad yn crynhoi gwaith y pwyllgor ar Fyw â Chymorth.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r broses rhannu cyfathrebiadau ynghylch datblygiadau byw â chymorth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu ac Aelodau'r Cyngor fel a nodir o fewn Paragraffau 4.3, 4.4 ac Atodiad 1 yr adroddiad.

7.

Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Addysg a Sgiliau - Grant Datblygu Disgyblion. pdf eicon PDF 137 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Polisi Addysg a Sgiliau adroddiad yn crynhoi awgrymiadau'r pwyllgor ynghylch y Grant Datblygu Disgyblion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r awgrymiadau yn yr adroddiad er mwyn sefydlu polisi ar ddefnydd o'r Grant Datblygu Disgyblion.

8.

Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Parklands

Christopher O’Brien

2)

Ysgol Gynradd Pengelli

Elaine Thomas

3)

Ysgol Gyfun yr Olchfa

James Ellis

 

9.

Adroddiad Dyfarnu'r Contract - Tendr ar Gyfer Darparu Gwasanaethau Bws Lleol. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn nodi canlyniad y tendrau diweddar ar gyfer gwasanaethau bws lleol a gofynnodd am ganiatâd i ddyfarnu contractau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Derbyn prisiau tendro a argymhellwyd gan y Panel Gwerthuso Tendrau ac a nodir yn Atodlen B yr adroddiad fel y tendrau mwyaf manteisiol yn economaidd;

 

2)              Dyfarnu contractau i'r cwmnïau a nodir yn Atodlen B yr adroddiad.

10.

Adroddiad Dyfarnu'r Contract - Tendr ar gyfer Darparu Gwasanaethau Bws Parcio a Theithio. pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn nodi canlyniad y tendrau diweddar ar gyfer darpariaeth gwasanaethau bysus parcio a theithio a gofynnodd am ganiatâd i ddyfarnu contractau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Derbyn prisiau tendro a argymhellwyd gan y Panel Gwerthuso Tendrau ac a nodir yn Atodlen B yr adroddiad fel y tendrau mwyaf manteisiol yn economaidd;

 

2)              Dyfarnu contract i dendrwr 1 fel a amlinellir yn Atodlen A yr adroddiad.

11.

Gwahardd y Cyhoedd: - pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

12.

Cael gwared ar elfen breswyl Cam 1 Abertawe Ganolog.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio caniatâd i waredu asedau yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

13.

Gwerthu Tir Priffordd yn y Mwmbwls, Abertawe.

Cofnodion:

Penderfynwyd gohirio’r eitem tan gyfarfod yn y dyfodol.