Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

155.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Mynegodd y Cynghorydd C E Lloyd gysylltiad personol â chofnod 161 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol";

 

2)              Mynegodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol â chofnod 161 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros, siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol;

 

3)              Mynegodd Huw Evans a Deb Smith gysylltiad personol â chofnod 165 "Dyfarniad Cyflog y Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar Gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol - 2019/20”.

156.

Cofnodion. pdf eicon PDF 118 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Ionawr, 2019.

157.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu Cyfarfod y Cyngor

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod  yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein.

 

2)              Diwygiadau/Cywiriadau i Agenda'r Cabinet

 

a)              Eitem 9 "Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Adeilad Newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon".

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod gwall argraffu ar dudalen 90, paragraff 2.2. Gofynnodd i'r cyfeiriad at y "B4240" gael ei newid i’r "A4240".

158.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ynghylch Cofnod 162 "Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Adeilad Newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon".

 

Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau.

159.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

160.

FPR5 - Estyniad i'r prosiect Cynnydd a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn cydymffurfio â Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol "Rheoli'r Gyllideb" i fonitro a rheoli cyllidebau yn effeithiol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid derbyn y cynnig bod y Gronfa Gymdeithasol Ewrop (CGE) ychwanegol yn estyn y Prosiect Cynnydd hyd at Ragfyr 2022 (Cam 2).

161.

Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Ystumllwynarth

Helen Landers

2)

Ysgol Gynradd Pennard

Eleanor Treen

3)

Ysgol Gynradd St Thomas

Y Parch. Steven Bunting

4)

Ysgol Gynradd Talycopa

Y Cyng. Alyson Pugh

5)

Ysgol Gynradd Tre Uchaf

Rachel Rees

6)

YGG Gellionnen

Helen Jones

 

YGG Tan-y-lan

Gareth Huxtable

 

Ysgol Gyfun Bryn Tawe

David Williams

 

162.

Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - adeilad newydd i Ysgol Gynradd Gorseinon pdf eicon PDF 166 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad i ymrwymo i raglen gyfalaf y prosiect i godi adeilad newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gorseinon a hynny'n amodol ar ymrwymo i gontract â Llywodraeth Cymru, yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r prosiect cyfalaf fel y'i disgrifiwyd ynghyd â'r goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad A yr adroddiad, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru.

 

Nodyn: Gohiriwyd y cyfarfod am 5 munud yn ystod yr eitem hon, yn dilyn ffrwydradau llafar dro ar ôl tro o'r oriel gyhoeddus.

163.

FPR7 - Rhaglen Targedu Buddsoddiad Adfywio (TBA) Llywodraeth Cymru 2018-21. pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i ymrwymo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Grant Datblygu a Gwella Eiddo, Grant Byw Cynaliadwy a Phrosiectau Strategol dan Raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru a'r goblygiadau ariannol cysylltiedig â'r cynlluniau a ychwanegwyd at y Rhaglen Gyfalaf.

 

Nodyn: Gadawodd y Cynghorydd R C Stewart y cyfarfod yn dilyn yr eitem hon a chymerodd y Cynghorydd C E Lloyd y gadair.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd fu’n llywyddu

164.

Rhaglen Ddatblygu - Cyfrif Refeniw Tai - Rhan 1. pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn amlinellu'r Rhaglen Ddatblygu newydd ar gyfer cartrefi cyngor newydd a ariennir gan y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Mae'r Rhaglen Ddatblygu yn nodi'r cynlluniau a fydd yn cael eu darparu gan y cyngor, a'r cyfleoedd ar gyfer cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r cynlluniau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Rhaglen Ddatblygu'r Cyfrif Refeniw Tai (CRT);

 

2)              Cymeradwyo'r cynlluniau o fewn y Rhaglen Ddatblygu trwy broses adrodd flynyddol Cyllideb Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

165.

Dyfarniad Cyflog y Cyd-Gyngor Cenedlaethol ar Gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol - 2019/20. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol adroddiad a oedd yn cynghori ar Ddyfarniad Cyflog y Cyd-gyngor Cenedlaethol (CG) am flwyddyn gyflog 2019-2020 a cheisiodd gymeradwyaeth i roi dyfarniad cyflog y CG ar waith.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo a gweithredu dyfarniad cyflog arfaethedig y Cyd-gyngor Cenedlaethol (CG).