Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

141.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 148 “Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2020/21 - 2022/23” a 149 “Cyllideb Refeniw 2019-2020” a dywedodd ei fod wedi derbyn goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i Aros, Siarad (ond nid mewn perthynas â chyflogaeth ei ŵr) ond nid Pleidleisio wrth ystyried cyllideb yr awdurdod.

142.

Cofnodion. pdf eicon PDF 118 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2019.

143.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu Cyfarfod y Cyngor

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach fel podlediad.

144.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas â'r gyllideb.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau.

145.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan gynghorwyr ynghylch y gyllideb.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau.

146.

Adborth ar graffu cyn penderfynu ar y gyllideb flynyddol. (llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. C A Holley yr adborth craffu cyn penderfynu.

147.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3ydd 2018/19. pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu monitro ariannol cyllidebau refeniw a chyfalaf 2018/2019, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

148.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2020/21 - 2022/23. pdf eicon PDF 303 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a manylodd ar y tybiaethau ariannu mawr ar gyfer y cyfnod, gan gynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

Penderfynwyd:  

 

1)              Argymell Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2020-2021 hyd at 2022-2023 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y dyfodol.

149.

Cyllideb Refeniw 2019/20. pdf eicon PDF 594 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2019-2020.  Roedd yn manylu ar y canlynol:

 

·                 Monitro ariannol 2018-2019;

·                 Setliad cyllid llywodraeth leol 2019-2020;

·                 Rhagolwg cyllidebol 2019-2020;

·                 Cynigion arbed penodol;

·                 Canlyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb;

·                 Goblygiadau staffio;

·                 Gofynion y cronfeydd wrth gefn;

·                 Gofyniad y gyllideb a Threth y Cyngor 2019-2020;

·                 Crynodeb o gynigion ariannu;

·                 Risgiau ac ansicrwydd.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad ac Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd y diwygiadau canlynol.

 

 

£

£

Newidiadau pellach i gynigion o ganlyniad i ymatebion i’r ymgynghoriad

 

 

 

 

 

Tynnu’n ôl - Gwasanaeth Cymunedol y Llyfrgell

67,000

 

Tynnu’n ôl - Ffïoedd Proffesiynol

49,000

 

Tynnu’n ôl - Codi tâl am feysydd parcio am ddim

23,000

 

 

139,000

 

Ariennir fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

Lleihau Praesept Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru

-60,000

 

Lleihau’r gronfa wrth gefn £79,000 i £7.072M

 

79,000

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw newidiadau i'r cynigion cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad fel y'u diwygiwyd uchod, ynghyd â'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel a nodwyd yn Adran 4.10 a 4.11 yr adroddiad;

 

2)       Nodi'r bwlch presennol mewn adnoddau a grybwyllwyd yn Adran 4.5 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb Refeniw  gytbwys ar gyfer 2019-2020;

 

3)              Yn ogystal ag adolygiad o gynigion arbed presennol, bydd angen i'r Cabinet:

 

a)              Adolygu a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn a argymhellir yn yr adroddiad hwn;

 

b)              Cytuno ar lefel treth y cyngor ar gyfer 2019/2020 i'w hargymell i'r cyngor.

 

4)              Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd ac a restrwyd uchod, mae'r Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

a)       Cyllideb Refeniw ar gyfer 2019-2020;

 

b)       Gofyniad y gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2019-2020.

150.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - Cyllideb Refeniw 2019/20. pdf eicon PDF 224 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2019-2020 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

Penderfynwyd argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)       Cynyddu rhenti'n unol â pholisi rhent dros dro Llywodraeth Cymru fel a fanylwyd yn Adran 3 yr adroddiad;

 

2)       Cymeradwyo ffïoedd, taliadau a lwfansau fel a amlinellir yn Adran 3 yr adroddiad;

 

3)       Cynigion y gyllideb refeniw fel a nodwyd yn Adran 3 yr adroddiad.

151.

Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2019/20-2022/23. pdf eicon PDF 179 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2018-2019 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2019-2020 - 2022-2023.

 

Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

 

1)         Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2018-2019;

 

2)         Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2019-2020 a 2020-2023;

 

3)         Lle caiff cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B yr adroddiad eu rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y blynyddoedd dilynol.

152.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2018/19- 2024/25. pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2018-2019 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2019-2020 i 2022-2023 (2023-2025 ar gyfer ysgolion Band B).

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Gyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2018-2019 a Chyllideb Gyfalaf 2019-2020 - 2023-2025 fel a fanylir yn Atodiadau A, B, C, D, E ac F yr adroddiad.

153.

Strategaeth Gyfalaf 2019/20- 2024/25. pdf eicon PDF 279 KB

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Strategaeth Gyfalaf sy'n cyfeirio'r Rhaglen Gyfalaf 4 blynedd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Strategaeth Gyfalaf.

154.

Premiymau Treth y Cyngor yng Nghymru pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151) adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac yn gofyn i aelodau ystyried a ddylid parhau i ganiatáu gostyngiadau Treth y Cyngor 50% ar eiddo gwag a heb eu dodrefnu ar ôl i unrhyw gyfnod eithrio statudol ddod i ben.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi manylion y pwerau disgresiwn sy'n gysylltiedig â phremiymau Treth y Cyngor, gostyngiadau dewisol ar gyfer anheddau gwag a heb eu dodrefnu a'r materion cysylltiedig a amlinellir yn yr adroddiad hwn;

 

2)              Cynnal ymarfer ymgynghori mewn perthynas â'r canlynol:

 

i)            A ddylid rhoi'r gorau i ganiatáu gostyngiad Trech y Cyngor o 50% ar anheddau sy'n aros yn wag a heb eu dodrefnu wedi i unrhyw gyfnod  eithrio statudol ddod i ben.

 

ii)           A ddylid codi Premiwm Treth y Cyngor o hyd at 100% ar anheddau sydd wedi bod yn wag a heb eu dodrefnu am fwy na 12 mis (eiddo gwag tymor hir);

 

iii)         A ddylid codi Premiwm Treth y Cyngor o hyd at 100% ar anheddau y mae pobl yn byw ynddynt bob hyn a hyn, y'u gelwir yn gyffredin yn "ail gartrefi".