Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

82.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

  1. Datganodd y Cynghorydd M C Child gysylltiad personol â Chofnod 90, "Adolygiad Blynyddol o Daliadau (am Wasanaethau Cymdeithasol) 2018/19" – mae fy mam yn derbyn gofal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ond rwyf wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau.

 

  1. Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 92 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

 

3.     Datganodd y Cynghorwyr M C Child, R Francis-Davies, W Evans, A S Lewis, M S Sherwood, R C Stewart ac M Thomas gysylltiad personol â Chofnod 91, "Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2017 a'r tu hwnt”.

 

83.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)    Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2018.

 

84.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Arweinydd at faterion diweddar a oedd yn ymwneud â chyfathrebiadau'n cael eu hanfon at ddisgyblion a rheini yn ysgolion cyfun a chynradd Gellifedw. Nododd fod yr awdurdod yn ymchwilio i'r mater a chyhoeddir datganiad cyn bo hir.

 

Cyfeiriodd hefyd at yr adroddiadau diweddar yn y wasg a oedd yn ymwneud â cholli swyddi'n orfodol.  Datganodd y bydd yr awdurdod, fel yn y blynyddoedd blaenorol, yn ceisio archwilio pob opsiwn ar gyfer arbedion a byddai swyddi'n cael eu colli'n orfodol fel dewis olaf yn unig.

85.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

86.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Mewn perthynas â "Strategaeth Digartrefedd a Chynllun Gweithredu 2018-22", gofynnodd y Cynghorydd J E Burtonshaw i Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni a fyddai'n ystyried ychwanegu at y strategaeth a'r cynllun gweithredu "gweithio gydag aelodau Cymuned Cyfamod y Lluoedd Arfog i geisio cynorthwyo'r cyn-filwyr hynny sy'n cysgu allan".

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni y byddai'n hapus i gynorthwyo cyn-filwyr ac ychwanegu hyn at y strategaeth.

 

87.

Craffu Cyn Penderfyniad - Strategaeth a Chynllun Gweithredu Digartrefedd 2018-2022.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd y Cynghorydd TJ Hennegan yr adborth craffu cyn penderfynu.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni i'r tîm craffu am y llythyr a'r mewnbwn.

88.

Strategaeth a Chynllun Gweithredu Digartrefedd 2018-2022. pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth am Strategaeth Digartrefedd a Chynllun Gweithredu 2018-2022, sydd wedi ystyried adborth o'r ymarfer ymgynghori a gynhaliwyd.

 

Diolchodd am fewnbwn y tîm craffu, PDP Tlodi a'r cyhoedd wrth lunio'r ddogfen a thalodd deyrnged i swyddogion yr Adran Tai am eu mewnbwn.

 

Nododd y byddai'r cynllun gweithredu'n destun adolygiad a diweddariad blynyddol i'r Cabinet.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

 

1)    Cymeradwyo'r Strategaeth Digartrefedd a'r Cynllun Gweithredu gyda'r diwygiad y cyfeiriwyd ato yng Nghofnod 86 uchod i'w rhoi ar waith erbyn 31 Rhagfyr 2018.

 

89.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2018/19. pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Adran 151 a oedd yn adrodd am y broses o fonitro ariannol cyllidebau refeniw a chyfalaf 2018/19, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd:

 

1) Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad hwn a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

 

 

90.

Adolygiad Blynyddol o Daliadau (am Wasanaethau Cymdeithasol) 2016/17 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn amlinellu Adolygiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol o Daliadau (am Wasanaethau Cymdeithasol) 2018/19. Mae'r adroddiad yn nodi rhestr y cyngor o daliadau arfaethedig am wasanaethau cymdeithasol 2019/20 a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1) Nodi adroddiad yr Adolygiad Blynyddol o Daliadau (am Wasanaethau Cymdeithasol) 2018/19 gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

2) Cymeradwyo'r rhestr o daliadau arfaethedig ar gyfer 2019/20 a amlinellir yn yr adroddiad.

 

91.

Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt. pdf eicon PDF 189 KB

Cofnodion:

 

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a oedd yn cynnig ailfformatio Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2017 a thu hwnt sydd wedi'i ddiwygio a'i fabwysiadu'n ddiweddar, er mwyn sicrhau ei fod yn addas i'w gyhoeddi ar-lein.

 

Penderfynwyd:

 

1) Mabwysiadu Lwfansau TGCh Cynghorwyr - Mai 2017 a thu hwnt fel a amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad yn ei fformat newydd.

 

92.

Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 99 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes:

 

1.     Ysgol Gynradd y Glais

Y Cyng. Alyson Pugh

2.     Ysgol Gynradd Tre-gŵyr

Y Cyng. Susan Jones
Mr Lyndon Mably

3.     Ysgol Gynradd Llangyfelach

Mr Raymond Brown

4.     Ysgol Gynradd Pentrechwyth

Mr John Winchester

5.     Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

Dr Martin O’Neil

6.     Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

Mrs Ruth McNamara

7.     Ysgol Gyfun Pontarddulais

Mr Craig Wade

8.     Ysgol Gyfun Gŵyr

Y Parchedig Ddr Adrian Morgan

 

93.

FPR7 - Buddsoddiad Cyfalaf mewn Canolfannau Hamdden mewn Partneriaeth â Freedom Leisure pdf eicon PDF 170 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn cynnig cadarnhau lefel y cyllid ar gyfer cynigion datblygu cyfalaf canolfannau hamdden mewn partneriaeth â Freedom Leisure.

 

Roedd angen yr adroddiad er mwyn cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) i ymrwymo i'r cynlluniau, a'u hawdurdodi, fel a nodir yn y tendr gan Freedom Leisure, yn rhaglen gyfalaf y cyngor.

 

Penderfynwyd:

1) Cymeradwyo egwyddorion cyffredinol datblygu cyfalaf ynghyd â'u goblygiadau ariannol;

2) Rhoi awdurdod i ddefnyddio'r cyfalaf a fenthycir ac i awdurdodi'r cynlluniau a geir o fewn egwyddorion datblygu cyfalaf;

3) Datblygu Bwrdd Prosiect i reoli'r cynlluniau unigol gyda chynrychiolaeth addas gan swyddogion;

 

4) Archwilio cyfleoedd am arian grant mewn partneriaeth â Freedom Leisure er mwyn cynyddu lefel y cyfalaf sydd ar gael i wella'r cynigion datblygu ymhellach ac ehangu, os yw'n ymarferol, adnewyddiadau i gyfleusterau eraill.