Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas
a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J A
Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 76 "Penodiadau Llywodraethwyr
yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried. |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod
cywir: 1)
Cynhaliwyd cyfarfod y Cabinet ar 20 Medi 2018. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2017/18. PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad, a oedd yn ceisio cyhoeddi
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2017-2018. Mae'r adroddiad yn amlinellu'r
cynnydd a wnaed i gwrdd ag Amcanion Lles y cyngor fel y'u disgrifir yn y Cynllun Corfforaethol ac i
gwrdd â gofynion eraill a nodir mewn canllawiau statudol ynghylch Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru)
2009. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol
2017-2018. |
|||||||||||||||||||
Penodiadau LlywodraethwyrAwdurdod Lleol. PDF 98 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog
Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes:
|
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn ceisio cymeradwyo'r
cynllun i godi adeilad newydd ar gyfer Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS) yn y Cocyd yn amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â
Llywodraeth Cymru. Ceisiodd
yr adroddiad hefyd awdurdod i ddyfarnu contract y gwaith i Dendr Rhif 2, yn
amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru. Penderfynwyd: 1)
Bod y
Contract ar gyfer dylunio a chodi adeilad newydd i Addysg Heblaw yn yr Ysgol
(EOTAS) ar dir sy'n perthyn i'r cyngor ar Heol y Cocyd
i'w ddyfarnu i Dendr Rhif 2, yn amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â
Llywodraeth Cymru; 2)
Y
dylid cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y’i disgrifiwyd ynghyd â'r goblygiadau
ariannol, a hynny’n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru. |
|||||||||||||||||||
Adolygiad FPR7 o Strategaeth Datblygu Bro Tawe. PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod
y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, oedd yn ceisio cytundeb ar
raglen o waith mewn perthynas ag Adolygiad Strategaeth Datblygu Bro Abertawe yn
unol â Rheol 7 Gweithdrefn Ariannol y cyngor "Rhaglennu ac Arfarniadau
Cyfalaf". Penderfynwyd: 1)
Y dylid
cytuno ar y FPR7 newydd a'i oblygiadau ariannol, yn unol ag Adolygiad o Strategaeth Datblygu Bro Abertawe
(2013) a bod y gwariant arfaethedig hwn yn cael ei adlewyrchu yn Rhaglen
Gyfalaf y cyngor ar gyfer 2018-2019, 2019-2020 a 2020-2021. 2) Y
dylid awdurdodi unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno am ganiatâd statudol sydd ei
angen i gyflawni'r prosiect. |
|||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||||||||
FPR7 - Prosiect Ailddatblygu Pwerdy Gwaith Copr yr Hafod - Cais am Grant Cam 2 Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, a oedd yn
ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac
Arfarniadau Cyfalaf", i ymrwymo ac awdurdodi amrywiad i gynllun cyfalaf
presennol yn y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Gwaredu tir ym Mharc Felindre, Llangyfelach, Abertawe. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth i waredu tir ym Mharc Felindre i hwyluso datblygiad
cyfleuster dosbarthu newydd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor ar gyfer gwaredu. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |