Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

52.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 62 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

 

2)              Datganodd y Cynghorwyr M C Child, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, A S Lewis, C E Lloyd, J A Raynor, M Sherwood, R C Stewart ac M Thomas gysylltiad personol â Chofnod 64 “Adolygiad o Lwfansau Band Eang a Ffôn, TGCh a Ffonau Symudol Cynghorwyr - Mai 2017 a’r Tu Hwnt”.

53.

Cofnodion. pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cynhaliwyd cyfarfod y Cabinet ar 16 Awst 2018.

54.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

55.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ynghylch Cofnod 58 “Canlyniad yr Ymgynghoriad ar yr Adolygiad Comisiynu Gofal Preswyl” a Chofnod  59 “Canlyniad yr Ymgynghoriad ar yr Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Dydd”.

 

Ymatebodd yr Aelod perthnasol o’r Cabinet.

56.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd A M Day nifer o gwestiynnau ynghylch Cofnod 58 “Canlyniad yr Ymgynghoriad ar yr Adolygiad Comisiynu Gofal Preswyl” a Chofnod  59Canlyniad yr Ymgynghoriad ar yr Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Dydd”.

 

Ymatebodd yr Aelod perthnasol o’r Cabinet.

57.

Craffu cyn penderfyniad - Canlyniad Ymgynghoriad ar Ofal Preswyl & Gwasanaethau Dydd i Bobl Hyn. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley yr adborth craffu cyn penderfynu.

58.

Canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r adolygiad comisiynu gofal preswyl. pdf eicon PDF 305 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn crynhoi canlyniadau'r ymgynghoriad diweddar ar yr opsiynau a ffefrir sy'n deillio o'r Adolygiad Comisiynu Gofal Preswyl.  Roedd hefyd yn darparu'r argymhellion terfynol ar sut i symud ymlaen, gan ystyried y canlyniadau a'r Asesiadau Effaith Cydraddoldeb.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ailganolbwyntio gofal preswyl mewnol y cyngor fel ei fod yn canolbwyntio ar anghenion cymhleth, ailalluogi preswyl a gofal seibiant yn unig;

 

2)              Wrth symud ymlaen, gomisiynu'r holl ofal preswyl ar gyfer anghenion nad ydynt yn gymhleth a gofal nyrsio o'r sector annibynnol;

 

3)              O ganlyniad i'r uchod, cau Cartref Preswyl Parkway gan sicrhau bod yr holl breswylwyr y byddai hyn yn effeithio arnynt yn cael eu cefnogi'n llawn;

 

4)              Cytuno ar dalu ffioedd ychwanegol o hyd at £105 y person yr wythnos i'r holl breswylwyr yn Parkway (gan gynnwys y rhai sy'n ariannu ein hunain), yn amodol ar amgylchiadau unigol ac asesiadau gwaith cymdeithasol, ar gyfer parhad eu lleoliad gofal preswyl os bydd Parkway yn cau yn dilyn y penderfyniad terfynol.

59.

Canlyniad yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r adolygiad comisiynu gwasanaethau dydd pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn crynhoi canlyniadau'r opsiynau a ffefrir sy'n deillio o'r Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Dydd.  Roedd hefyd yn cynnwys yr argymhellion terfynol ar sut i symud ymlaen, gan ystyried y canlyniadau a'r Asesiadau Effaith Cydraddoldeb.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ailfodelu Gwasanaethau Dydd i bobl hŷn fel eu bod yn canolbwyntio ar anghenion cymhleth wrth symud ymlaen;

 

2)              Cau Gwasanaethau Dydd Rose Cross a The Hollies o ganlyniad i'r uchod, gan sicrhau y caiff y bobl yr effeithir arnynt eu cefnogi'n llawn drwy gydol y broses.

60.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 1 2018/19 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1, 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

61.

Mwy o leoedd wedi'u cynllunio yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymgynghoriad ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig i gynyddu'r lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn o fis Ebrill 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn o fis Ebrill 2019;

 

2)              Mae'r arian refeniw dirprwyedig ychwanegol i gefnogi sefydlu'r lleoedd cynlluniedig ychwanegol yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn a'r costau cludiant ychwanegol posib sy'n gysylltiedig â hyn wedi'u cynnwys yn y cyllidebau refeniw addysg cyffredinol presennol a rhai'r dyfodol;

 

3)              Ystyried unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir yn ystod cyfnod yr hysbysiad statudol a phenderfynu ar ganlyniad y cynnig yn eu cyfarfod ar 20 Rhagfyr 2018.

62.

Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes:

 

1)

Ysgol Gynradd Brynmill

Richard Blakeley

2)

Ysgol Gynradd Dyfnant

Kathryn Jones

3)

Ysgol Gynradd Pontarddulais

Michelle Broadley

4)

YGG Felindre

Y Cyng. Brigitte Rowlands

5)

Ysgol Gyfun Pentrehafod

Y Cyng. Chris Holley

 

63.

Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb 2017-18. pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell adroddiad a oedd yn amlinellu Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb 2017-2018 fel sy'n ofynnol gan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi.

64.

Adolygu Lwfansau Band Eang, Ffonau, TGCh a Ffonau Symudol Cynghorwyr - mis Mai 2017 a'r tu hwnt. pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn ystyried mabwysiadau argymhelliad Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â'i adolygiad o "Lwfansau Band Eang a Ffôn, TGCh a Ffonau Symudol Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt".

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ailenwi'r polisi yn "Bolisi Lwfansau Gwybodaeth, Cyfathrebu a Thechnoleg (TGCh) Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt" neu "Polisi TGCh Cynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt" yn fyr;

 

2)              Ychwanegu'r nodyn canlynol at Baragraff 5.3 y polisi:

 

“1) Cyfanswm Lwfansau TGCh Cynghorwyr dros gyfnod o 1 mlynedd yw £1,808.  Gellir gwario'r swm hwn ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod 5 mlynedd ar yr amod bod lwfansau'n cael eu hawlio gan ddefnyddio Ffurflen Hawlio Lwfans TGCh Cynghorwyr/Aelodau Cyfetholedig, a chyda derbynebau perthnasol.

 

2)              Rhaid i unrhyw wariant dros £200 yn ystod blwyddyn derfynol y cyfnod yn y swydd gael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd â'r Prif Swyddog Trawsnewid.  Mae'n bosib y byddant yn edrych ar atebion dros dro megis darparu dyfeisiau TGCh sy'n eiddo i'r awdurdod.”

 

3)              Ychwanegu'r amod canlynol at Baragraff 6.1 y polisi:

 

“c)      Rhaid i gynghorwyr sy'n derbyn elfen ffôn Lwfans Band Eang a Ffonau'r Cynghorwyr ganiatáu i'w rhif ffôn gael; ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo yn ôl yr angen, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

 

4)              Ailddrafftio paragraff 6.4 y polisi er mwyn caniatáu i bob cynghorwr yn yr un aelwyd dderbyn y Taliad Lwfans Data ond bod yr aelwyd honno'n cael ei chyfyngu i un lwfans band eang;

 

5)              Ailenwi'r "Lwfans Band Eang a Ffôn" yn "Lwfans Data a Ffôn";

 

6)              Diwygio paragraff 7.1 y polisi fel a ganlyn, gydag ail amod yn cael ei ychwanegu hefyd;

 

"7.1    Ar hyn o bryd mae'r awdurdod yn talu Lwfans Ffôn Symudol Cynghorwyr misol i gynghorwyr sy'n gymwys er mwyn cyfrannu at eu biliau ffôn symudol oherwydd y cynnydd yn y defnydd ohonynt ar gyfer busnes y cyngor, ar yr amod bod:

 

a)              Cynghorwyr yn darparu prawf blynyddol o'u contract ffôn symudol i Swyddfa’r Cabinet/Dîm y Gwasanaethau Democrataidd.

 

b)              Cynghorwyr sy'n derbyn Lwfans Ffôn Symudol Cynghorwyr yn gorfod caniatáu i'w rhif ffôn symudol gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo fel y bo'r angen ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

 

7)              Dileu paragraff 7.5 y polisi ac ail-rifo’r adran yn unol â hyn;

 

8)              Ychwanegu'r nodyn canlynol at Baragraff 9.4 y polisi:

 

“Nodyn:

1)              Cyfanswm lwfansau TGCh Aelodau Cyfetholedig dros gyfnod o 4 blynedd a 6 blynedd yw £6 a £441.60 yn eu tro.  Gellir gwario'r swm hwn ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod 4 i 6 blynedd ar yr amod yr hawlir lwfansau gan ddefnyddio Ffurflen Gais Lwfans TGCh Aelodau Cyfetholedig a chyda derbynebau perthnasol;

 

2)              Rhaid i unrhyw wariant dros £40 yn ystod blwyddyn olaf cyfnod yn y swydd gael ei gymeradwyo ymlaen llaw gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cyd â'r Prif Swyddog Trawsnewid.  Mae'n bosib y byddant yn edrych ar atebion dros dro megis darparu dyfeisiau TGCh sy'n eiddo i'r awdurdod.”

 

9)              Ychwanegu paragraff 9.7 at y polisi fel a ganlyn:

 

"9.7    Rhaid i Aelodau Cyfetholedig sy'n derbyn elfen ffôn y Lwfans Band Eang a Ffôn i Aelodau Cyfetholedig ganiatáu i'w rhif ffôn gael ei gyhoeddi ar wefan yr awdurdod a'i hyrwyddo yn ôl yr angen ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.

 

65.

Adolygiad o'r Polisi Gamblo pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar gyfer fersiwn ddrafft y Polisi Gamblo diwygiedig, ar gyfer y cyfnod Ionawr 2019 tan Ionawr 2022, i'w gyflwyno at ddiben ymgynghori.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno ar y newidiadau arfaethedig i Bolisi Gamblo'r cyngor;

 

2)              Cytuno ar y polisi diwygiedig a'i gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad cyn adrodd yn ôl i'r cyngor er mwyn ei fabwysiadu.

66.

Adroddiad Dyfarniad Contract ar gyfer y Fframwaith Adnewyddu Ceginau ac Ystafelloedd Ymolchi. pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i sefydlu cytundeb fframwaith ar gyfer adnewyddu ceginau ac ystafelloedd ymolchi.  Dilynwyd proses dendro a oedd yn cydymffurfio â'r OJEU er mwyn cyflogi pedwar contractwr i'w penodi i'r fframwaith, gydag eiddo'n cael ei ddyrannu yn y gymhareb  40%:20%:20%:20%.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Awdurdodi dyfarnu'r contractau, fel a argymhellwyd yn yr adroddiad hwn;

 

2)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Prif Swyddog Cyllid i ymrwymo i gontractau cynhwysfawr dan y fframwaith gyda chynigwyr llwyddiannus, heb yr angen am gymeradwyaeth bellach gan y Cabinet.

67.

Dyfarnu Contract: Fframwaith Contractwyr ar gyfer gwaith adnewyddu ac addasu tai. pdf eicon PDF 29 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn darparu manylion caffael Fframwaith o Gontractwyr ar gyfer Gwaith Adnewyddu ac Addasu Tai a cheisiodd gymeradwyaeth i benodi cyflenwyr dethol ar gyfer Cytundeb Fframwaith.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Penodi'r cyflenwyr a restrwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad i'r Fframwaith ar gyfer y tair cyfran a restrwyd.

68.

Rheol 7 Gweithdrefn Ariannol - Grant Cronfa Teithio Llesol 2018/19. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a oedd yn cadarnhau canlyniad y cais am grant o'r Gronfa Teithio Llesol ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer gwariant ar y cynlluniau a'r prosiectau arfaethedig yn 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r prosiectau, ynghyd â'u goblygiadau ariannol, a'u cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf 2018-2019.

69.

Fframwaith Deunyddiau Adeiladu Cyffredinol. pdf eicon PDF 217 KB

Cofnodion:

1)              Penodi'r cyflenwyr a restrwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad i'r Fframwaith;

 

2)              Dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyfreithiol i benderfynu ar sawl contract cynhwysfawr y dylai'r cyngor ymrwymo iddynt a'u cyflawni.