Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

28.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 39 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

29.

Cofnodion. pdf eicon PDF 129 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir yn ddibynnol ar y Cynghorydd G D Walker yn cael ei ychwanegu at y rhestr o gynghorwyr a oedd yn bresennol:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2018.

30.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

31.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 34 “Darpariaeth a Strwythyr yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn y Dyfodol”.

 

Ymatebodd yr aelod perthnasol o'r Cabinet.

32.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

33.

Craffu cyn penderfyniad - Darpariaeth a Strwythyr yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn y Dyfodol. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C E Lloyd, yr adborth craffu cyn penderfynu.

34.

Darpariaeth a Strwythyr yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn y Dyfodol pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn argymell camau gweithredu yn dilyn yr ymgynghoriad ar newidiadau arwyddocaol i strwythur a chyflwyniad yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAU).

 

Penderfynwyd:

 

1)              Yn dilyn yr ymgynghoriadau ehangach â staff a rhanddeiliaid a gynhaliwyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2018, y dylid cymeradwyo Opsiwn 2 fel y'i nodwyd yn yr adroddiad i'w roi ar waith ar 1 Ionawr 2019.

35.

Adroddiad monitro perfformiad diwedd blwyddyn 2017/18. pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu Perfformiad Corfforaethol 2017-2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

36.

Alldro Refeniw ac Olrhain Arbedion 2017/18 pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar yr alldro cyllidebol refeniw ar gyfer 2017-2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig a fanylwyd yn Adran 7.3 yr adroddiad.

37.

Alldro Refeniw 2017/18 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT) pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar alldro Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Dinas a Sir Abertawe yn 2017-2018 o'i gymharu â'r gyllideb refeniw gymeradwy ar gyfer 2017-2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r amrywiadau a fanylwyd yn yr adroddiad.

38.

Alldro cyfalaf ac ariannu 2017/18. pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar yr alldro a'r cyllidebu cyfalaf am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cario tanwariant net y gyllideb gymeradwy £26.019m ymlaen i 2018-2019;

 

2)              Nodi'r prif resymau dros y tanwario a amlinellwyd yn Atodiad C yr adroddiad.

39.

Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes:

 

1)

Ysgol Gynradd Gellifedw

Y Cyng. Ryland Doyle

2)

Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt

Lisa Boat

Melissa Canning

3)

Ysgol Gynradd Penyrheol

Alison Seabourne

4)

Ysgol Crug Glas

Dominic Nutt

5)

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

Freya Davies

 

40.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

41.

Bwriad i brynu dau gyfle i fuddsoddi yng nghanol y ddinas

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer prynu dau eiddo fel rhan o'r Gronfa Buddsoddi mewn Eiddo. Crëwyd y Gronfa yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet a wnaed ar 21 Gorffennaf 2016.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.