Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 15 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

 

2)              Datganodd y Cynghorydd M Thomas gysylltiad personol â Chofnod 16 "Rheol 7 Gweithdrefn Ariannol Grantiau Cyfalaf Trafnidiaeth Leol 2018-2019”;

 

3)              Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd gysylltiad personol â Chofnod 27 "Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Cyfnewidfa Pont Baldwin 2018-2019”.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 105 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Mai 2018.

3.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ynghylch Cofnod 13 “Trefniadaeth Ysgolion sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg”, Cofnod 14 “Adolygiad o Ysgolion Bach” a Chofnod 20 “Y Diweddaraf am Brosiectau Adfywio Abertawe a Rheolau Gweithdrefnau Ariannol 7”.

 

Ymatebodd yr aelod perthnasol o’r Cabinet.

5.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ynghylch Cofnod 13 “Trefniadaeth Ysgolion sy’n gysylltiedig â’r Cynllun Strategol Addysg Gymraeg”, Cofnod 14 “Adolygiad o Ysgolion Bach” a Chofnod 21 “Bargen Ddinesig Bae Abertawe”.

6.

Ymchwiliad Craffu i Waith Ranbarthol pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd L R Jones, Cynullydd y Panel Ymchwiliad Craffu Gweithio Rhanbarthol, gasgliadau, canlyniadau ac argymhellion ymchwiliad y panel i weithio rhanbarthol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r adroddiad, a chafodd yr aelod perthnasol o'r Cabinet y dasg o gyflwyno ymateb ysgrifenedig i'r Cabinet.

7.

Craffu cyn penderfyniad - Arfarniad o opsiynau ar gyfer mwy o gartrefi ar safle Parc yr Helyg.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd T J Hennegan yr adborth craffu cyn penderfynu.

8.

Arfarniad o opsiynau ar gyfer mwy o gartrefi ar safle Parc yr Helyg pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn darparu'r diweddaraf ar ba opsiwn y dylid bwrw ymlaen ag ef ym Mharc yr Helyg, ynghyd â'r goblygiadau ariannol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cadarnhau'r fanyleb a ffefrir fel Safon Abertawe (gyda pheirianneg gwerth) ar ôl ystyried yr opsiynau fel y'u hamlinellwyd yn yr adroddiad;

 

2)              Nodi'r rhaglen ddatblygu tymor hwy a chymeradwyo'r swm o £500,000 a glustnodwyd i'r cynllun ar gyfer y gwaith paratoi cyn bwrw ati â Cham 2 Colliers Way, y dirprwywyd y manylion ar ei gyfer i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, yn unol â gofynion Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol.

9.

Adroddiad y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau - Sgiliau'r Fargen Ddinesig. pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Addysg a Sgiliau adroddiad a oedd yn amlinellu'r cynnydd o ran datblygu polisi ar addysg a sgiliau i ateb heriau'r Fargen Ddinesig.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r camau gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad ar ôl ystyried yr adroddiad am ddatblygu polisi ar addysg a sgiliau i elwa ar y cyfleoedd a ddarperir gan y Fargen Ddinesig;

 

2)              Y bydd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn gweithio gyda swyddogion i sicrhau bod trefniadau lleol yn gadarn er mwyn ateb yr heriau ac elwa o'r cyfleoedd a gyflwynir gan y Fargen Ddinesig, gan gynnwys sefydlu trefniadau partneriaeth lleol i'w bwydo i'r partneriaethau rhanbarthol.

10.

Cymorth Dewisol Treth y Cyngor - i'r rheiny sy'n gadael gofal. (rhwng 18 a 25 oed) pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor (Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth) adroddiad a oedd yn ceisio dyfarnu Cymorth Dewisol Treth y Cyngor i bobl ifanc sy'n gadael gofal sy'n byw yn ardal Dinas a Sir Abertawe fel rhan o gyflawni dyletswydd yr awdurdod fel rhiant corfforaethol a chefnogi'r bobl ifanc hynny sy'n gadael gofal.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Bydd y Cabinet yn arfer ei bwerau dewisol i ddyfarnu 100% o Gymorth Dewisol Treth y Cyngor i atebolrwydd net Treth y Cyngor yr holl bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy'n gadael gofal.

11.

Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2018/19 pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac yn ystyried mabwysiadu Cynllun Cymorth Ardrethi newydd ar gyfer y Stryd Fawr, sy'n ymwneud ag ardrethi busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi manylion y cynllun fel y'u nodir yn yr adroddiad;

 

2)              Mabwysiadu'r Cynllun Cymorth Ardrethi a'r broses ymgeisio fel y'u nodir yn yr adroddiad, ar gyfer 2018-2019.

12.

Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2017-2018 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad yn llawn gwybodaeth a oedd yn rhoi trosolwg o waith yr awdurdod o ran y Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd penodol.

13.

Trefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg pdf eicon PDF 380 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a oedd yn ceisio ystyriaeth o'r camau nesaf y mae eu hangen i fwrw ymlaen â'r ymrwymiadau a geir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP), fel y'i hadlewyrchir yn Rhaglen Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif, a lle y bo'n briodol, gymeradwyo dechrau prosesau ymgynghori statudol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r camau nesaf y mae eu hangen i gyflwyno'r ymrwymiadau yn y WESP, a chymeradwyo dechrau ymgynghoriad statudol fel y bo'n briodol, yn benodol:

 

a)              Y cynnig i adleoli YGG Tan-y-lan, gwella cyfleusterau a'i hehangu;

 

b)              Y cynnig i adleoli YGG Tirdeunaw, gwella cyfleusterau a'i hehangu (os oes angen);

 

c)              Ymgynghori ar y cynnig i gau YGG Felindre;

 

ch)     Y bwriad i adolygu dalgylchoedd ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg yn ôl yr angen i adlewyrchu'r newidiadau arfaethedig uchod.

14.

Adolygiad ysgol bach. pdf eicon PDF 216 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau a oedd yn nodi'r ysgolion bach yn Abertawe ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynnig i gau un o'r ysgolion hyn, sef Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc ar 31 Awst 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r ymgynghoriad ar gynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc ar 31 Awst 2019.

 

2)              Ystyried yr ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori;

 

3)              Parhau â'r adolygiad o ysgolion bach gan y Cabinet fel a amlinellwyd yn yr adroddiad.

15.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 95 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes:

 

1)

Ysgol Gynradd Gellifedw

Y Cyng. Alyson Pugh

2)

Ysgol Gynradd Sgeti

Y Cyng. David Helliwell

3)

Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

Y Cyng. Cheryl Philpott

 

16.

Rheol 7 Gweithdrefn Ariannol Grantiau Cyfalaf Trafnidiaeth Leol 2018/19 pdf eicon PDF 781 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn cadarnhau'r cais am grant gan y Gronfa Drafnidiaeth Leol a grant gan Gronfa'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol ac yn ceisio cymeradwyaeth i wario ar y cynlluniau a'r prosiectau arfaethedig yn 2018-2019.

 

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cynlluniau grant y Gronfa Trafnidiaeth Leol a Chronfa'r Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol, ynghyd a'u goblygiadau ariannol.

17.

Hysbysiadau o gosb benodol am dipio'n anghyfreithlon pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a oedd yn nodi bod Hysbysiadau o Gosb Benodol yn darparu cyfle i dramgwyddwyr sy'n troseddu am y tro cyntaf osgoi mynd i'r llys a chael cofnod troseddol posib.  Maen nhw'n cynnig ymateb mwy effeithlon a chymesur i fynd i'r afael â  mân achosion o dipio anghyfreithlon a fydd hefyd yn helpu i ysgafnhau'r baich ar system y llysoedd.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Pennu swm o £400 ar gyfer y ffi cosb benodol, a swm o £250  os caiff ei thalu'n gynnar o fewn 10 niwrnod gwaith;

 

2)              Y bydd Aelod y Cabinet/Swyddog Arweiniol yn adolygu hyn mewn blwyddyn.

18.

Cytundeb Compact y Trydydd Sector. pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell a oedd yn ceisio cytundeb ar gyfer Cytundeb Compact diweddaredig y Trydydd Sector Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Compact y Trydydd Sector cyn ei fabwysiadu'n ffurfiol gan bartneriaid ar 27 Mehefin 2018.

19.

Cynllun Benthyciadau Canol y Ddinas FPR7. pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" er mwyn ymrwymo i gynnwys y Cynllun Benthyciadau ar gyfer Canol Trefi yn y rhaglen gyfalaf a'i awdurdodi.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cynllun arfaethedig y Gronfa Benthyciadau Canol Trefi a'i holl oblygiadau ariannol a chyfreithiol, a'i ychwanegu at y Rhaglen Gyfalaf;

 

2)              Cymeradwyo lansio'r Gronfa Benthyciadau Canol Trefi a bwrw ymlaen i gynnig benthyciadau ar gyfer canol trefi.

20.

Diweddariad prosiectau adfywio Abertawe a FPR7. pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn nodi'r penderfyniadau brys y mae angen eu gwneud a gofynion y gyllideb bresennol yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Ariannol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo gofynion y gyllideb gyfalaf er mwyn bwrw ymlaen â'r prosiectau canlynol:

 

Prosiect

Y cyfalaf sy'n angenrheidiol

Abertawe Ganolog - Cam 1

£5,385,393

Abertawe Ganolog - Cam 2

£850,000

Nenlinell (cam cychwynnol)

£90,000

Penderyn

£1,500,000

Gerddi'r Castell

£50,000

Ffordd y Brenin

£2,408,000

CYFANSWM

£10,283,393

 

21.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe. pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth a'r Prif Weithredwr a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r ffrydiau cyllido cysylltiedig.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r strwythur llywodraethu cysylltiedig;

 

2)              Cymeradwyo cytundeb drafft y Cyd-bwyllgor a dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, i wneud y fath fân ddiwygiadau i'r cytundeb ag y mae eu hangen, a sicrhau bod yr awdurdodau partner a llywodraethau Cymru a'r DU yn cytuno â'r rhain, er mwyn cwblhau'r cytundeb;

 

3)             Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

 

4)             Cymeradwyo'r cynnig i'r cyngor gyfrannu £50 mil y flwyddyn dros 5 mlynedd i dalu ar y cyd am gostau gweithredu'r Cyd-bwyllgor, y Bwrdd Strategaeth Economaidd, Bwrdd y Rhaglen a'r Cyd-bwyllgor Craffu, a swyddogaethau'r Corff Atebol a'r Swyddfa Ranbarthol, a chytuno ar yr egwyddor y caiff mwy o gyllid ei darparu sy'n gyfwerth â'r 1.5% o'r cyllid a neilltuir yn benodol ar gyfer y Fargen Ddinesig.  Dirprwyo'r cytundeb ar sail darparu'r cyllid hwn i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau (Swyddog Adran 151) mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor;

 

5)             Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau (Swyddog Adran 151) i archwilio'r benthyciad cymesur mwyaf priodol a'i roi ar waith i ariannu prosiectau rhanbarthol a gyflwynir yn ardaloedd gwahanol y Cyngor;

 

6)             Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol a'r Ganolfan Gwasanaethau (Swyddog Adran 151) i gyd-drafod â Chyd-gyfarwyddwyr y sail ddyrannu fwyaf priodol ar gyfer cadw trethi annomestig rhanbarthol o ran yr 11 o brosiectau.

22.

Craffu cyn penderfyniad - Adolygiad Comisiynu-Gwasanaethau Diwylliannol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley yr adborth craffu cyn penderfynu.

 

Gadawodd y Cynghorydd R C Stewart (Cadeirydd) y cyfarfod.

 

Bu’r Cynghorydd C E Lloyd (Is-gadeirydd) yn llywyddu.

23.

Adolygiad Comisiynu-Gwasanaethau Diwylliannol. pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a oedd yn darparu diweddariad am gynnydd yr ymarfer caffael a wnaed ar gyfer cyfleusterau hamdden a diwylliannol, yn dilyn Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau 2015, ac yn cyflwyno opsiynau cymharol ar gyfer cyflwyno yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi cynnydd yr ymarfer caffael a wneir ar gyfer y cyfleusterau hamdden a diwylliannol, yn dilyn Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau 2015, a chyflwyno'r opsiynau cymharol ar gyfer cyflwyno yn y dyfodol.

24.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

25.

Adolygiad comisiynu-gwasanaethau diwylliannol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a oedd yn darparu diweddariad am gynnydd yr ymarfer caffael a wneir ar gyfer cyfleusterau hamdden a diwylliannol, yn dilyn Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau 2015, ac yn cyflwyno opsiynau cymharol ar gyfer cyflwyno yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

26.

Gwaredu'r hen ganolfan ddinesig a thir cyfagos , Penllergaer.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad a oedd yn ystyried opsiynau ar gyfer gwerthu'r hen Ganolfan Ddinesig a'r tir cyfagos ym Mhenllergaer.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

27.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Cyfnewidfa Pont Baldwin 2018/19

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd a oedd yn cadarnhau'r cyllid er mwyn prynu'r tir angenrheidiol ar gyfer Prosiect Cyfnewidfa Pont Baldwin ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer gwariant yn 2018-19.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.