Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir
isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018. |
|
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni
wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw
gwestiynau. |
|
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3ydd 2017/18. PDF 213 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes a oedd yn nodi'r broses o fonitro ariannol cyllidebau refeniw a chyfalaf
2017/2018, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol. Penderfynwyd: 1) Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 69 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Cyfle Buddsoddi Canol Dinas Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gaffael yr eiddo uchod fel rhan o'r
Gronfa Fuddsoddi mewn Eiddo. Cafodd y gronfa ei chreu ar ôl penderfyniad gan y
Cabinet ar 21 Gorffennaf 2016. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r
argymhellion fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |