Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

45.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

46.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

47.

Prynu arfaethedig eiddo preswyl er mwyn hwyluso'r broses ail-leoli o'r cyfleuster presennol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes ac Iechyd a Lles adroddiad ar y cyd yn gofyn am ystyried caffael eiddo preswyl er mwyn hwyluso ail-leoli Cartref Plant presennol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Nant-y-felin, Blaen-y-maes.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r argymhelliad fel a nodwyd yn yr adroddiad.

48.

Adolygiad Depo.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelodau Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes a Gwasanaethau’r Amgylchedd adroddiad ar y cyd a oedd yn gofyn am awdurdod i swyddogion "brynu'n ôl" y brydles tir hir sy'n weddill ar safle 4x4 Bro Tawe yng Nghlôs Ferryboat fel rhan o ail-leoli parhaus Cei Pipehouse dan yr adolygiad depo.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r argymhelliad fel a nodwyd yn yr adroddiad.