Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

179.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad(au) canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 187 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

180.

Cofnodion. pdf eicon PDF 113 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)       Y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2018.

181.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

182.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

183.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

184.

Adroddiad ar Ddiogelu PD&BC - Gwasanaethau Cydweithio dros Blant. pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Diogelu adroddiad a oedd yn amlinellu cynnydd y pwyllgor mewn perthynas ag ymrwymiad y cyngor i barhau i ddatblygu gwasanaethau sy'n cydweithio dros blant.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r adborth gan y pwyllgor.

185.

Adolygiad o'r Datganiad Polisi ar gyfer Trwyddedu pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar gyfer y drafft o'r Polisi Trwyddedu diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno ar y newidiadau arfaethedig i Ddatganiad Polisi'r cyngor ar gyfer Trwyddedu;

 

2)              Cyflwyno'r polisi diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad cyn adrodd yn ôl a mabwysiadu.

186.

Adolygu'r Polisi ar Drwyddedu Sefydliadau Rhyw pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyfleoedd Masnachol ac Arloesedd adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar gyfer y drafft o'r Polisi Trwyddedu Sefydliadau Rhyw diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno ar y newidiadau arfaethedig i Bolisi'r cyngor ar Drwyddedu Sefydliadau Rhyw;

 

2)              Cadw'r “ardaloedd perthnasol” at ddibenion penderfynu ar geisiadau am sefydliadau rhyw a'r “nifer priodol” o sefydliadau rhyw ar gyfer pob ardal;

 

3)              Cyflwyno'r polisi diwygiedig ar gyfer ymgynghoriad cyn adrodd yn ôl a mabwysiadu.

187.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes:

 

1)

Ysgol Gynradd Brynhyfryd

Margaret Greenaway

2)

Ysgol Gynradd y Crwys

Donna Woods

3)

Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw

Barbara Miller

4)

Ysgol Gynradd Hendrefoelan

Pamela Cole

5)

Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant

Laura Northey

 

188.

Mwy o leoedd wedi'u cynllunio yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn. pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar gynnig i gynyddu'r lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig Penybryn o fis Ebrill 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r cais i ymgynghori ar gynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig Penybryn o fis Ebrill 2019;

 

2)              Cytuno i geisio cyllid refeniw corfforaethol ychwanegol i gefnogi sefydlu'r nifer cynyddol hwn o leoedd cynlluniedig;

 

3)              Y dylai'r Cabinet ystyried yr ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

189.

Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru 2018-2021. pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Adfywio Rhanbarthol De-orllewin Cymru.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Cynllun Adfywio Rhanbarthol De-orllewin Cymru i gyflawni Rhaglen Buddsoddi mewn Adfywio a Dargedir 2018-2021 Llywodraeth Cymru.