Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad(au) canlynol: 1)
Datganodd
y Cynghorydd M C Child gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 172, “Adborth
Craffu Cyn Penderfynu ar Ganlyniad Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal
Preswyl a Dydd i Bobl Hŷn”, a 173, “Canlyniad Adolygiadau Comisiynu
Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hŷn”, ond arhosodd, siaradodd a
phleidleisiodd o ganlyniad i'w ollyngiad gan y Pwyllgor Safonau; 2) Datganodd
y Cynghorwyr M C Child, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, A S Lewis, C E
Lloyd ac M Thomas gysylltiad personol a rhagfarnol â
Chofnod 178, "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol"; 3) Datganodd y Cynghorydd J A Raynor ac M Sherwood
gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 178,
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a gadawodd y cyfarfod
cyn ei ystyried. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2018; 2)
Cyfarfod o'r Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 22 Mawrth
2018. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Nododd Arweinydd y Cyngor y caiff system
e-bleidleisio'r awdurdod ei phrofi; fodd bynnag, nid hon fyddai'r bleidlais
ffurfiol. Byddai'r weithdrefn bleidleisio draddodiadol sef codi llaw yn cael ei defnyddio i
gofnodi'r bleidlais ffurfiol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd A M Day nifer o gwestiynau
ynghylch Cofnod 172, “Adborth Craffu Cyn Penderfynu ar Ganlyniad Adolygiadau
Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hŷn”, a Chofnod 173,
“Canlyniad Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl
Hŷn”. Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth craffu cyn penderfyniad - Canlyniad Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hyn. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd P M Black yr adborth craffu cyn penderfynu gan Banel Craffu
Perfformiad y Gwasanaethau i Oedolion. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Canlyniad Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hyn PDF 201 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn amlinellu'r opsiynau a ffefrir ar gyfer
Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau Gofal Preswyl a Dydd i Bobl Hŷn, er
mwyn bwrw ymlaen ag ymgynghoriad staff a chyhoeddus ar yr opsiynau a ffefrir. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Caiff ailalluogi gofal cymhleth a phreswyl ei gomisiynu
drwy wasanaeth preswyl mewnol yr awdurdod a chrynhoir seibiant preswyl yn y
gwasanaeth mewnol, oni bai fod defnyddwyr gwasanaeth yn dewis gofal seibiant
neu gymhleth yn y sector annibynnol. 2)
Y
bydd yr awdurdod yn bwrw ymlaen i gynnal ymgynghoriad staff a chyhoeddus 12
wythnos ar y cynnig i gynnal model cyflwyno cymysg o wasanaethau mewnol ac
allanol a defnyddio mwy o arbenigedd o ran gwelyau mewnol; 3)
Y
bydd yr awdurdod yn bwrw ymlaen ag ymgynghoriad staff a chyhoeddus 12 wythnos
ar y cynnig i drawsnewid y gwasanaeth dydd fel ei fod yn canolbwyntio ar
ddibyniaeth uwch a gofal cymhleth/dementia. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o
gynnydd hyd yn hyn gyda'r Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau i Oedolion o ran y
ddarpariaeth llety a thai a gwasanaethau dydd i oedolion ag anabledd dysgu a
nam synhwyraidd, ac iechyd meddwl, gyda golwg ar geisio cytundeb ar y
strategaethau hynny. Penderfynwyd cymeradwyo'r strategaethau
canlynol: 1)
Strategaeth Comisiynu Iechyd Meddwl; 2)
Strategaeth Comisiynu Gwasanaethau Anableddau Dysgu; 3)
Strategaeth Comisiynu Anableddau Corfforol a Namau Synhwyraidd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
FPR 7 - Rhaglen Grant Cyfleusterau ir Anabl a Grant Gwella 2018/19. PDF 59 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau adroddiad a oedd yn
darparu manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'u Gwella ac yn ceisio
cymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf 2018-2019. Mae'r adroddiad yn cydymffurfio â Rheol
Gweithdrefn Ariannol 7 "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" - i ymrwymo
ac awdurdodi cynlluniau yn ôl y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'u Gwella,
fel y'i nodwyd, gan gynnwys ei goblygiadau ariannol, ac y dylid ei chynnwys yng
Nghyllideb Gyfalaf 2019-2017. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Papur am Gronfa Gyfun Bae'r Gorllewin ar gyfer Opsiynau Cartrefi Gofal. PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn amlygu'r
ddyletswydd gyfreithiol i gyflawni trefniadau cronfa a rennir ar gyfer
cartrefi gofal ac yn gwneud argymhellion i'w rhoi ar waith. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Rhoi opsiwn 1, fel y'i hamlinellir yn yr adroddiad, ar waith. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd yn cadarnhau'r
grant (cyfalaf) Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd gan Lywodraeth Cymru ac
yn cynnwys gwariant yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2018-2019. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Y dylid cadarnhau'r grant (cyfalaf) Rheoli Perygl Llifogydd ac
Arfordiroedd sef £682,500 ac y dylid cynnwys 25% o arian cyfatebol ar gyfer y
cynllun yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y blynyddoedd 2018 i 2020. Cyfanswm cost cam cychwynnol y cynllun yw
£910,000. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 100 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Y dylid cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog
Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes:
|