Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

144.

Cofnodion. pdf eicon PDF 101 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)    Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2018; a

2)    Chyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2018.

145.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorwyr M C Child, W Evans, R Francis-Davies, M Sherwood, R Stewart ac M Thomas - Personol - Cofnod Rhif 156 - "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”.

 

Y Cynghorwyr A S Lewis a J A Raynor - Personol a rhagfarnol - Cofnod Rhif 156 - "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

Y Cynghorydd J A Raynor - Personol - Cofnod Rhif 159 a 161 - "Gwerthu Tir Dros Ben yn Ysgol Gyfun yr Olchfa”.

146.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

 

147.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Questions must relate to matters on the open part of the Agenda of the meeting and will be dealt within a 10 minute period.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

148.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

149.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu a Phlismona 2014 Ddeddf pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Gymunedau Cryfach a Thai, Ynni a'r Gwasanaethau Adeiladau adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o'r ddeddf newydd sef Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Bod gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol ar gyfer Pobl, Lleoedd ac Adnoddau awdurdod dirprwyedig i arfer, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach, y pwerau newydd sydd ar gael i'r cyngor fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad;

2)    Bod gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol ar gyfer Pobl, Lleoedd ac Adnoddau awdurdod dirprwyedig, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach, i gychwyn achosion ar gyfer gwaharddebau dinesig, rhoi Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned, creu Gwarchodebau Mannau Cyhoeddus a rhoi gorchmynion cau am 24 awr ynghyd ag awdurdod i roi Hysbysiadau o Gosb Benodol o dan Ran 4, Pennod 1 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014; ac

3)     Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes i gyflwyno ceisiadau am unrhyw estyniad angenrheidiol i orchymyn cau am 24 awr neu gyflwyno ceisiadau ar gyfer rhoi gorchymyn am gyfnod o 48 awr.

150.

Gwaith Archwilio'r Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi ar y cynnig gofal plant i blant 3 a 4 oed. pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr argymhelliad i gryfhau'r Cynnig Gofal Plant.

 

Penderfynwyd y dylid:

 

1)    Ysgrifennu llythyr i Lywodraeth Cymru i: (i) Ofyn am hyblygrwydd i feini prawf cymhwysedd y cynnig (ii) Ceisio sicrhad y bydd y cynnig yn un tymor hir a

2)    Datblygu ymagwedd gydlynol at gyflogadwyedd (drwy'r Fforwm Partneriaeth Tlodi) fel bod rhieni plant ifanc yn cael eu blaenoriaethu er mwyn bod mewn sefyllfa i elwa o'r Cynnig Gofal Plant.

151.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 2017-18. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn amlinellu'r perfformiad corfforaethol ar gyfer 3ydd Chwarter  2017-18.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

152.

Cynllun Ardal Rhanbarthol Bae'r Gorllewin. pdf eicon PDF 55 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Ardal Bae'r Gorllewin (2018-2023) a'r Cynllun Gweithredu (2018/19).

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo Cynllun Ardal a Chynllun Gweithredu Bae'r Gorllewin;

2)    Awdurdodi Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi dolen â'r Cynllun Ardal a'r Cynllun Gweithredu ar wefan y cyngor; ac

3)    Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Pobl i gyflwyno Cynllun Ardal a Chynllun Gweithredu i Weinidogion Cymru ar ran y tri awdurdod lleol a bwrdd iechyd rhanbarth Bae'r Gorllewin, wedi'u cydlofnodi gan arweinydd y Cyngor ac arweinwyr CBS Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot a Chadeirydd Bwrdd Iechyd PABM.

153.

Strategaeth Atal ar gyfer Abertawe 2018 - 2021 pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn amlinellu'r Strategaeth Atal a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig i'w cymeradwyo'n dilyn ymgynghoriad estynedig.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r Strategaeth Atal a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig.

154.

Gwahardd y cyhoedd.

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeedig)

155.

System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (SWGCC)

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles achos busnes er mwyn rhoi System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (CCISC) ar waith yng Nghyngor Abertawe. 

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

156.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor ar ran Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd er mwyn llenwi swyddi gwag Llywodraethwyr Awdurdod Lleol mewn cyrff llywodraethu.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r enwebiadau a restrir isod:

 

1.

Ysgol Gynradd Gellifedw

Mrs Dawn Knight

2.

Ysgol Gynradd Dyfnant

Y Cyng. Louise Gibbard

3.

Ysgol Gynradd Gwyrosydd

Y Tad David Jones

Y Cyng. Michael Lewis

4.

Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

Y Cyng. Peter Jones

5.

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

Y Cyng. Lynda James

 

157.

Rhaglen Cynnal Cyfalaf Adeiladau 2018/19. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Dai, Ynni a Gwasanaethau Adeiladau adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf arfaethedig a restrir yn Atodiad A (i'r adroddiad); a

2)    Chynnwys y goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad B ac C (i'r adroddiad) yn y rhaglen gyfalaf.

158.

FPR7 Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2018-2019. pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad am y Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r dyraniadau arfaethedig, ynghyd â'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A (yr adroddiad), ac y dylid eu cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf; a

2)    Dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant, ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, flaenoriaethu, cwblhau a dyrannu cyllid i'r cynlluniau hynny na chyfeirir yn benodol atynt yn yr adroddiad.

159.

Gwaredu tir dros ben yn ysgol gyfun yr Olchfa. pdf eicon PDF 256 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn manylu ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol â Rheoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 mewn perthynas â'r bwriad i'w werthu fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Nododd Aelod y Cabinet fod ffeil sy'n cynnwys yr holl ohebiaeth o ran yr ymgynghoriad a gynhaliwyd wedi'i roi yn Swyddfa’r Cabinet i holl aelodau'r Cabinet ei weld.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Ystyried a nodi'r ymatebion/gwrthwynebiadau i'r gwerthu arfaethedig;

2)    Datgan nad oes angen y safle sydd oddeutu 7.8 erw (31,566m2) fel y'i dangosir ar y cynlluniau, yn amodol ar ddefnyddio elw o'r gwerthiant i ddarparu arwyneb gemau artiffisial; a

3)    Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd i fwrw ymlaen â'r gwerthu trwy farchnata'r tir a nodwyd ac adrodd yn ôl i'r Cabinet maes o law wedi iddo wneud hynny.

160.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeedig)

161.

Gwaredu tir dros ben yn ysgol gyfun yr Olchfa.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad 'er gwybodaeth' ynghylch prisio'r safle a gwybodaeth ariannol o ran gwerthu'r tir dros ben yn Ysgol Gyfun yr Olchfa (Cofnod 159 uchod).

 

Nodwyd bod Atodiad B, y cyfeirir ato yn yr adroddiad, wedi'i gynnwys yng Nghofnod Rhif 159 (Cynllun diwygiedig gan gynnwys maes chwarae 3G newydd maint llawn).