Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd Robert Francis-Davies fudd
personol a rhagfarnol yng Nghofnod 86 "Adborth o’r Cyfarfod Craffu cyn
Penderfynu - Stadiwm Liberty" ac yng Nghofnod 87 "Stadiwm
Liberty" a gadawodd y cyfarfod cyn trafod yr eitem; 2)
Datganodd y Cynghorwyr M C Child ac M Thomas fudd
personol yng Nghofnod 68 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”; 3)
Datganodd Phil Roberts, y Prif Weithredwr fudd personol
yng Nghofnod 86 "Adborth o’r Cyfarfod Craffu cyn Penderfynu - Stadiwm
Liberty" ac yng Nghofnod 87 "Stadiwm Liberty". |
|||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2017. |
|||||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni
wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Dirprwy Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau ynglŷn â chofnod 87 "Stadiwm
Liberty". Ymatebodd Dirprwy
Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni
ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||
Adborth o'r Cyfarfod Craffu cyn Penderfynu - Cynllun Peilot Mwy o Gartrefi Safleoedd Ffordd Milford a Pharc yr Helyg. (Llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
T J Hennegan yr adborth ar graffu cyn penderfynu. Penderfynwyd: 1)
Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn
penderfynu. |
|||||||||||||||||||
Cynllun Peilot Mwy o Gartrefi Safleoedd Ffordd Milford a Pharc yr Helyg. PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddwyd gan Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Tai, Ynni ac Adeiladau, a roddodd y diweddaraf am y broses o gwblhau cynllun peilot cyntaf Mwy o Gartrefi ar Ffordd Milford ac a oedd yn ceisio cymeradwyaeth am yr ail safle peilot ym Mharc yr Helyg i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (FPR). Symudodd y
diwygiadau canlynol i'r adroddiad: a)
Disodli'r
holl gyfeiriadau at "Ffordd Milford" yn yr
adroddiad â "Ffordd Colliers"; b)
Rhoddir
"Parc yr Helyg" fel enw ar safle Cynllun Peilot Mwy o Gartrefi. Penderfynwyd: 1)
Y
dylid cymeradwyo'r diwygiadau uchod; 2)
Nodi
cynnydd a chostau terfynol y cynllun peilot cyntaf ar Ffordd Colliers; 3) Cymeradwyo'r goblygiadau ariannol yn unol ag FPR 7; 4) Cymeradwyo dyrannu £500,000 i gynllun Parc yr Helyg ar gyfer y gwaith galluogi, y caiff y manylion eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, yn unol â gofyniad FPR 7; 5) Cyflwyno adroddiad arall i'r Cabinet er mwyn cadarnhau pa opsiynau y dylid eu datblygu ym Mharc yr Helyg ynghyd â'r costau disgwyliedig terfynol yn unol ag FPR 7. |
|||||||||||||||||||
Adborth o'r Cyfarfod Craffu cyn Penderfynu – Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Cymorth I Deuluoedd - Adroddiad Arfarnu Opsiynau (Porth 2) ar gyfer clwstwr Anableddau Plant yr Adolygiad Comisiynu. (Llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
P R Hood-Williams yr adborth ar graffu cyn penderfynu. Penderfynwyd: 1)
Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn
penderfynu. |
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu adroddiad ar y cyd gan Aelodau'r Cabinet dros Iechyd a Lles a thros
Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, a gyflwynodd yr opsiynau arfaethedig ar gyfer
newidiadau i'r gwasanaethau sydd ar gael i blant ag anghenion ychwanegol ac
anableddau, a nodwyd drwy broses gomisiynu ehangach Adolygiad Comisiynu
Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r argymhellion a gyflwynwyd yn Adran 2 yr
adroddiad, ar ôl ymgynghori. |
|||||||||||||||||||
Adborth o'r Cyfarfod Craffu cyn Penderfynu - Stadiwm Liberty. (Llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd
T J Hennegan yr adborth ar graffu cyn penderfynu. Penderfynwyd: 1)
Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn
penderfynu. |
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad ar y cyd gan Arweiniad y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes, a roddodd y diweddaraf am y trafodaethau
masnachol rhwng Clwb Pêl-droed Abertawe a Chyngor Abertawe am drefniadau'r
brydles bresennol. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
Penawdau'r Telerau fel y'u nodir yn yr adroddiad hwn; 2)
Awdurdodi'r
Cyfarwyddwr Lleoedd, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes i drafod a chytuno ar unrhyw delerau
eraill neu derfynol fel y bo angen; 3)
Awdurdodi
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes i baratoi
unrhyw ddogfennaeth gyfreithiol angenrheidiol i gwblhau'r cytundeb a
chyflwyno'r ddogfennaeth ar ran y cyngor; 4)
Awdurdodi'r
Cyfarwyddwr Lleoedd, ar ôl cytuno ar y telerau terfynol, i adrodd i'r Comisiwn
Ewropeaidd am y sefyllfa ddiweddaraf, yn unol â rhwymedigaethau parhaus y
cyngor. |
|||||||||||||||||||
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2017/18. PDF 192 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes a oedd yn amlinellu'r broses o fonitro ariannol cyllidebau refeniw a
chyfalaf 2017/2018, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau
gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain. |
|||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 98 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymhellwyd
gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:
|
|||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu cyflwyniad ar y
cyd gan Aelodau’r Cabinet dros Gymunedau Cryfach a thros Gyfleoedd Masnachol ac
Arloesedd, a gyflwynodd gynllun busnes ar gyfer model
Menter Bwyd Abertawe cyn ei hallanoli fel cwmni budd cymunedol. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo cynllun busnes y Fenter Bwyd; 2)
Allanoli'r Fenter Bwyd fel cwmni budd cymunedol o 1
Ebrill 2018 (yn ddibynnol ar geisiadau buddsoddi llwyddiannus). |
|||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 69 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr
eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||||||||
Diweddariad ar gyfnewid tir ym Mharc Morfa, Glandwr, Abertawe. Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i amrywio argymhelliad i gyfnewid tir y
cytunwyd arno'n flaenorol er mwyn hwyluso'r
trefniadau trafod terfynol i alluogi Stadiwm Liberty
i gael ei ehangu. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
argymhelliad fel a nodwyd yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||
Pryniant arfaethedig eiddo buddsoddi ym Mro Abertawe. PDF 42 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a
Gweithrediadau Busnes, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gaffael yr eiddo uchod
fel rhan o'r Gronfa Fuddsoddi mewn Eiddo. Cafodd y gronfa ei chreu ar ôl
penderfyniad gan y Cabinet ar 21 Gorffennaf 2016. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
argymhelliad fel a nodwyd yn yr adroddiad. |