Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddion canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, M C Child, R
Francis-Davies, A S Lewis, C E Lloyd, J A Raynor ac M Thomas ddiddordeb
personol yng Nghofnod 44, “Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod
y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2017. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw
gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw
gwestiynau gan y cyhoedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau i gynghorwyr. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth o'r Cyfarfod Craffu cyn Penderfynu - Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas - Adolygiad Comisiynu Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd T J Hennegan, Is-gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, Adborth ar
Graffu Cyn Penderfynu. PENDERFYNWYD: 1)
Nodi'r cyflwyniad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas - Adolygiad Comisiynu PDF 592 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelodau'r Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr a Chyfleoedd
Masnachol ac Arloesedd adroddiad ar y cyd a oedd yn manylu proses a
chanfyddiadau Adolygiad Comisiynu Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, a'r modelau
cyflwyno arfaethedig newydd ar ei gyfer. PENDERFYNWYD: 1) Cyflwyno pob agwedd ar y gwasanaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas drwy fodel mewnol wedi'i drawsnewid; 2)
Nododd
y Cabinet y goblygiadau ariannol, AD a chyfreithiol sy'n gysylltiedig â phob opsiwn
fel y'i nodwyd ym mharagraffau 4 i 10 yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pre Decision Scrutiny Feedback - All Council Catering - Commissioning Review. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd T J Hennegan, Is-gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, Adborth ar
Graffu Cyn Penderfynu. PENDERFYNWYD: 1)
Nodi'r cyflwyniad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adolygiad Comisiynu Arlwyo'r Cyngor Cyfan. PDF 231 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelodau Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad
a oedd yn manylu cefndir yr Adolygiad Comisiynu "Holl Arlwyo'r
Cyngor" ac yn nodi'r canfyddiadau a'r argymhellion o'r Arfarniad Opsiynau. PENDERFYNWYD: 1) Cymeradwyo'r opsiwn a ffefrir; 2) Creu swydd Swyddog Datblygu Busnes; 3) Cymeradwyo cyfleoedd masnachol i'w rhoi ar waith; 4) Roedd y Cabinet yn cefnogi'r farn y dylai'r gwasanaeth arlwyo staff fod yn gost niwtral; 5) Cydnabu'r Cabinet y risg ariannol a oedd yn gysylltiedig â'r nifer sy'n gadael ysgolion uwchradd a phwysau cyllidebol hysbys; 6) Cydnabu'r cyngor y newid i'r sefyllfa ariannol o'r adolygiad hwn; 7)
Comisiynu
mwy o waith i adolygu'r mesurau rheoli sydd ar waith i gefnogi'r model busnes
hwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cytundeb Partneriaeth (S33) ar gyfer Isadeiledd Rhaglen Bae'r Gorllewin PDF 89 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
egwyddorion y Cytundeb Partneriaeth (A33) ar gyfer Isadeiledd Rhaglen Bae'r
Gorllewin a oedd yn cynnwys cronfa er mwyn rhannu costau staff ar gyfer Swyddfa
Rhaglen Bae'r Gorllewin. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo
egwyddorion y Cytundeb Partneriaeth ar
gyfer Isadeiledd Rhaglen Bae'r Gorllewin lle byddai Dinas a Sir Abertawe yn
awdurdod cynnal, gyda thri phartner statudol Cyngor Bwrdeistref Sirol
Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Bwrdd Iechyd
PABM; 2)
Rhoi
caniatâd i Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol gymeradwyo'r fersiwn
derfynol o'r Cytundeb Partneriaeth, a threfnu iddo gael ei gyflawni, mewn
ymgynghoriad â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a
Deallusrwydd Busnes a'r Swyddog Adran 151; 3)
Rhoi
caniatâd i Brif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol mewn ymgynghoriad â
Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes a'r
Swyddog Adran 151 i wneud unrhyw fân newidiadau yn y dyfodol i'r Cytundeb
Partneriaeth a gyflawnwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2017/18 PDF 157 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd
yn manylu ar fonitro ariannol cyllidebau refeniw a chyfalaf 2017/18, gan
gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol. PENDERFYNWYD: 1)
Nodi'r
sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill
er mwyn mynd i'r afael â'r rhain. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd
yn ceisio cytundeb ar bolisi Rheoli Risgiau diwygiedig y cyngor a
chymeradwyaeth i'w fabwysiadu. PENDERFYNWYD: 1)
Mabwysiadu'r
Polisi Rheoli Risgiau Corfforaethol diwygiedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 56 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymhellwyd
gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:
|