Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â Chôd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y
buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd M Thomas fudd personol yng nghofnod rhif 8,
“Adborth Craffu Cyn Penderfynu – Canlyniad Ymgynghoriad ar Adolygiad
Comisiynu’r Gwasanaethau i Oedolion”; 2)
Datganodd y Cynghorydd M Thomas fudd personol yng nghofnod rhif 8,
“Adborth Craffu Cyn Penderfynu – Canlyniad Ymgynghoriad ar Adolygiad
Comisiynu’r Gwasanaethau i Oedolion”; 3)
Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw fudd personol yng nghofnod rhif 9,
“Ymateb i Adroddiad Craffu ar y Strategaeth Trechu Tlodi” ac ni chymerodd ran
yn yr eitem; 4)
Datganodd y Cynghorwyr J E Burtonshaw, M C Child, W Evans, R
Francis-Davies, D H Hopkins, A S Lewis, J A Raynor, R C Stewart ac M Thomas
fudd personol yng nghofnod rhif 11, “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol”. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod
cywir: 1)
Y Cabinet a gynhaliwyd ar 20
Ebrill 2017. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau
gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored
agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni
ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni
ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth craffu cyn penderfynu - Canlyniad yr Ymgynghoriad ar Adolygiad Comisiynu Model Gwasanaeth a Gofal Cartref y Gwasanaethau i Oedolion. (Llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd P M Black adroddiad ar adborth craffu cyn
penderfynu. PENDERFYNWYD: 1)
Y dylid nodi'r adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn
ceisio cytundeb i fabwysiadu'r Model Gwasanaeth trosgynnol terfynol ar gyfer y
Gwasanaethau i Oedolion a rhoi'r argymhellion terfynol a gafwyd o'r Adolygiad
Comisiynu Gofal Cartref ar waith. PENDERFYNWYD: 1)
Y dylid mabwysiadu'r Model Gwasanaeth trosgynnol
terfynol ar gyfer y Gwasanaethau i Oedolion fel y cyfeiriad a ffefrir ar gyfer Gwasanaethau i Oedolion yn Abertawe, yn
amodol ar drafodaeth bellach ar gyfeiriad gofal preswyl a gwasanaethau i bobl
hŷn yn y dyfodol; 2)
Dylai argymhellion yr Adolygiad Comisiynu Gofal
Cartref sydd yn y broses o gael eu rhoi ar waith fel 'busnes fel arfer' gael eu
nodi; 3)
Dylai penderfyniadau ynghylch opsiynau'r broses
gaffael o ran yr opsiynau y cytunwyd arnynt ar gyfer gofal cartref gael eu
dirprwyo i'r Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyd â'r Aelod Cabinet
perthnasol gyda chefnogaeth y Gwasanaethau Masnachol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Ymateb i'r Adroddiad Craffu ar y Strategaeth Trechu Tlodi. PDF 142 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach adroddiad a oedd yn
amlinellu ymateb i'r argymhellion craffu gan gyflwyno cynllun gweithredu ar
gyfer cael cytundeb. PENDERFYNWYD: 1)
Y dylid cytuno ar yr ymateb a amlinellwyd yn yr
adroddiad a'r cynllun gweithredu cysylltiedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Ymateb i'r Panel Ymchwiliad Pa mor Barod yw Plant i Fynd i'r Ysgol PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn
amlinellu ymateb i'r argymhellion craffu ac yn cyflwyno cynllun gweithredu ar
gyfer cael cytundeb. PENDERFYNWYD: 1)
Y dylid cytuno ar yr ymateb a amlinellwyd yn yr
adroddiad a'r cynllun gweithredu cysylltiedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 56 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. PENDERFYNWYD: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymellwyd
gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||
Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) PDF 76 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau
Busnes adroddiad a oedd yn cyflwyno gwybodaeth i ystyried mabwysiadu Cynllun
Cymorth Ardrethi Busnes y Stryd Fawr newydd dros dro, a gyflwynwyd gan
Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol. PENDERFYNWYD: 1)
Y dylid nodi manylion y cynllun a nodwyd yn yr
adroddiad; 2)
Y dylai'r cynllun cymorth ardrethi a'r broses
ymgeisio a nodwyd yn yr adroddiad gael eu mabwysiadu ar gyfer 2017-2018. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 69 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Sgwâr Digidol, penodi Gweithredwr Arena Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer penodi gweithredwr ar gyfer
yr Arena Ddigidol ac yna benodi contractwr ar gyfer Cam 1 Sgwâr Digidol
Abertawe Ganolog. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
argymhelliad/argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Contract i ddarparu gwasanaethau trin gwastraff bwyd hir dymor ar gyfer Hwb De-Orllewin Cymru (Yr Hwb). Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau’r Amgylchedd adroddiad a oedd yn gofyn
am gymeradwyaeth dyfarnu
contract i gaffael cyfleuster trin gwastraff bwyd rhanbarthol tymor hir. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo’r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad Dyfarnu Contract - Contract I gyflenwi hyd at 36 o gerbydau casglu sbwriel Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd
yn ceisio cymeradwyaeth i ddyfarnu contract ar gyfer hyd at 36 o gerbydau
casglu sbwriel y mae cyfanswm amcangyfrifedig y
contract yn dod dan Rheol Gweithdrefn Contract Band D. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
argymhelliad/argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad. |