Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

156.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd R Francis-Davies, C Richards a R C Stewart fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 160 "Stadiwm Liberty” a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

157.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Holwyd nifer o gwestiynau gan aelodau’r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol. Mae’r cwestiynau hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig arnynt wedi’u rhestru isod:

 

1)            Holodd Tony Beddow gwestiynau i Arweinydd y Cyngor ynghylch Cofnod 160, “Stadiwm Liberty”.

 

a)           “Mae’r adroddiad yn nodi nad yw’r trefniadau presennol yn werth gorau am arian. All Arweinydd y Cyngor gadarnhau nad oedd unrhyw swyddog neu gynghorydd sydd mewn sefyllfa i ddylanwadu ar drafodaethau ar hyn o bryd yn rhan o gytundeb gwerth gwael 2006?”

 

Nododd Arweinydd y Cyngor y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

158.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

159.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

160.

Stadiwm Liberty pdf eicon PDF 55 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio caniatâd i swyddogion ymrwymo i drafodaethau manwl o ran cytundeb prydlesu diwygiedig ar gyfer Stadiwm Liberty.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Awdurdodi swyddogion i gychwyn trafodaethau ac adrodd yn ôl gyda'r amodau y cytunwyd arnynt.

 

2)            Os gellir cytuno ar amodau, bydd angen adroddiad pellach i'r Cabinet er mwyn ei awdurdodi.