Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Datganodd
y Cynghorydd R Francis-Davies, C Richards a R S Stewart Fudd Personol a Rhagfarnol yng Nghofnod 129 “Cyfnewid Tir ym Mharc y Morfa,
Glandŵr, Abertawe” fel Cyfarwyddwyr Cwmni Rheoli Stadiwm Abertawe (CRhSA), a gadawsant y cyfarfod cyn ei ystyried. |
|
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 69 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Ethol Cadeirydd Dros Dro. Cofnodion: PENDERFYNWYD y byddai'r
Cynghorydd C E Lloyd yn cael ei ethol yn Gadeirydd dros dro. Bu’r Cynghorydd C E Lloyd, (cadeirydd dros dro), yn
llywyddu |
|
Cyfnewid tir ym Mharc y Morfa, Glandwr, Abertawe Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer cyfnewid tir ym Mharc Morfa, Glandŵr, Abertawe. PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO'R argymhellion
fel a nodwyd yn yr adroddiad. |