Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

131.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

132.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

133.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd ynghylch y gyllideb.  Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.  Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar y cwestiynau atodol.

134.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

135.

Adborth ar graffu cyn penderfynu ar y gyllideb flynyddol (llafar).

Cofnodion:

Cyflwynodd Y Cynghorydd C A Holley, Cynullydd y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau a Chyllid, barn y panel ynglŷn â'r cynigion cyllidebol.

136.

Monitro Cyllid a Chyllideb Cyfalaf 3ydd Chwarter 2016/17. pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyllid a Chyflwyno adroddiad a oedd yn nodi sefyllfa ariannol y cyngor o ran cyllidebau Refeniw a Chyfalaf 2016/17, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd wrth gefn er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

137.

Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2018/19 - 2020/21. pdf eicon PDF 333 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymwaith a phwrpas o'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig a manylir ar y prif ragdybiaethau cyllid ar gyfer y cyfnod a chynigodd strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Argymell Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2018/19 i 2020/21 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaeth yn y dyfodol.  

138.

Cyllideb Refeniw 2017/18. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017-2018.  Roedd yn manylu ar y canlynol:

 

·                    Monitro Ariannol 2016-2017;

·                    Ardrefniant Cyllid Llywodraeth Leol 2017/2018;

·                    Rhagolwg o gyllideb 2017-2018;

·                    Cynigion penodol ar gyfer arbedion;

·                    Canlyniad yr ymgynghoriad ar y gyllideb

·                    Goblygiadau staffio;

·                    Gofynion cronfeydd a'r gronfa wrth gefn;

·                    Gofynion y Gyllideb a Threth y Cyngor 2017-2018;

·                    Crynodeb o gynigion ariannu;

·                    Risgiau ac ansicrwydd. 

 

Cynigiwyd yr addasiadau canlynol gan Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad.

 

Newidiadau statudol - ar gyngor y swyddog A151

 

 

£

£

Ailystyried ardoll derfynol yr Awdurdod Tân (dros dro)

29,000

 

 

 

29,000

 

 

 

Newidiadau eraill i gynigion o ganlyniad i ymatebion i'r ymgynghoriad

 

 

 

 

 

Dileu taliadau parcio ar ddydd Sul yng nghanol y ddinas a dileu cynyddu taliadau parcio ceir

100,000

 

Arafu'r cynnydd ym mhrisiau prydau ysgol o 10c ychwanegol i 5c ychwanegol

40,000

 

Dileu'r gostyngiad arfaethedig i gymhorthdal y Gwasanaeth Cerdd

97,000

 

 

 

237,000

 

 

 

Cyhoeddiadau newydd

 

 

Digwyddiadau'r Ddinas (Gorymdaith y Nadolig/ digwyddiadau chwaraeon/parthau cefnogwyr/balchder/ cydlyniant)

200,000

 

Ariannu Tai/Y Fargen Ddinesig

250,000

 

Astudiaeth Dichonoldeb Beiciau Trydanol

20,000

 

Tasgluoedd lleoedd - tîm tipio'n anghyfreithlon

100,000

 

Tasgluoedd lleoedd - parhau i ariannu gwaith y tîm trwsio tyllau yn y ffyrdd

150,000

 

Ehangu Cydlynu Ardaloedd Lleol ymhellach

80,000

 

Digwyddiadau i hen filwyr am ddim

10,000

 

Parcio am ddim mewn ardaloedd dinesig

20,000

 

 

 

830,000

 

 

 

Ac yn olaf, newid i lefel argymelledig Treth y Cyngor

 

 

 

 

 

Gostwng y cynnydd argymelledig yn Nhreth y Cyngor o 3.0% i 2.75%

 

 

Lleihau cynnyrch cyffredinol Treth y Cyngor (incwm)

262,000

 

Lleihau cost leol y cynllun CGTC ar gynnydd is Treth y Cyngor

-50,000

 

 

 

212,000

 

 

 

Cyfanswm cost y cynigion

 

1,308,000

 

 

 

Ariennir fel a ganlyn:

 

 

 

 

 

Lleihau'r gronfa wrth gefn i £5.4m, yn unol â'r blynyddoedd blaenorol

 

1,000,000

Lleihau'r cyllid sydd ar gael i gefnogi costau cynlluniau cyfalaf yn y dyfodol (cydbwyso)

 

308,000

 

 

 

 

 

1,308,000

 

 

 

Mwy o gyhoeddiadau lle na ragwelir costau ychwanegol i'r cyngor:

 

 

Cadarnhau bod y tîm masnachol yn cael ei ariannu

 

 

Adolygu lleoedd i'r anabl

 

 

Cadw incwm ar gyfer cronfa ad-dalu'r farchnad i ariannu moderneiddio ac adfer toiledau – lefel a dull i'w cadarnhau

 

 

Cais cynllunio ar gyfer safle dinesig - angen cyllid Llywodraeth Cymru

 

 

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus a chytuno ar y newidiadau i'r cynigion cyllidebol yn Atodiad D o'r adroddiad, fel y’u diwygiwyd, ynghyd â'r sefyllfa ynglŷn â'r cyllidebau dirprwyedig fel y nodir yn adran 4.10 yr adroddiad.

 

2)            Nodi'r bwlch adnoddau presennol, a nodwyd yn adran 4.5 yr adroddiad yn unol â'r camau gweithredu posib a nodir yn adrannau 9 a 10 yr adroddiad y cytunwyd arnynt fel cam gweithredu i gyflawni Cyllideb Refeniw gytbwys ar gyfer 2016-2017;

 

3)            Yn ogystal ag adolygu'r cynigion arbed presennol, mae’r Cabinet:

 

a)            Wedi adolygu a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn a argymhellir yn yr adroddiad;

 

b)            Wedi cytuno ar lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2017-2018 i'w hargymell i'r Cyngor.

 

4)            Yn amodol ar y newidiadau hyn, fel a nodir ac a restrir uchod, mae'r Cabinet yn argymell y canlynol i'r Cyngor i'w cymeradwyo:

 

a)            Cyllideb Refeniw ar gyfer 2017-2018;

 

b)            Gofyniad y Gyllideb ac ardoll Treth y Cyngor ar gyfer 2017-2018.

139.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2017/18 - 2020/21. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Awgrymwyd yr addasiadau canlynol i Raglen Gyfalaf 2017-18  gan Arweinydd y Cyngor.

 

Cyfalaf

£

Darparu 2 x Gae 3G arall

500,000

Goleuo Adeiladau Cyhoeddus

100,000

Gwaith ar y Plasdy er mwyn galluogi hygyrchedd cyhoeddus

200,000

 

800,000

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)        Argymell y Gyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2016-2017 a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2017-2018 - 2020-2021, fel y'i manylir yn Atodiadau A, B, C, CH a D yr adroddiad, fel y'u diwygiwyd, i'r Cyngor i'w cymeradwyo.

140.

Cyllideb Refeniw Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2017/18. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd, a argymhellodd Gyllideb Refeniw ar gyfer 2017-2018 a chynnydd rhent ar gyfer eiddo yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT).

 

PENDERFYNWYD y dylid argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r Cyngor i'w cymeradwyo;

 

1)            Cynyddu rhenti yn unol â pholisi gosod rhenti Llywodraeth Cymru, fel y manylir yn Adran 3 yr adroddiad;

 

2)            Cymeradwyo ffioedd, taliadau a lwfansau fel yr amlinellir yn Adran 3 yr adroddiad;

 

3)            Cynigion y Gyllideb Refeniw fel y manylir yn Adran 3 o'r adroddiad.

141.

Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf Cyfrif Refeniw Tai 2017/18 - 2020/21. pdf eicon PDF 125 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd, a argymhellodd Gyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2016-2017 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2017-2018 - 2020-2021.

 

PENDERFYNWYD y dylid argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r Cyngor i'w cymeradwyo;

 

1)            Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau ar gyfer 2016-2017;

 

2)            Cymeradwyo'r cynigion cyllidebol ar gyfer 2017-2018 i 2020-2021;

 

3)            Lle mae cynlluniau unigol, fel y'i nodir yn Atodiad B yr adroddiad, wedi'u rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd, bod ymrwymiad iddynt ac y cânt eu cymeradwyo, a bod eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y blynyddoedd dilynol hefyd yn cael eu cymeradwyo.