Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Sonia Hansford, Ymddeoliad Dywedodd
Arweinydd y Cyngor y byddai Sonia Hansford, Cynorthwy-ydd Personol i Arweinydd
a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, yn ymddeol ar ddiwedd mis Rhagfyr 2016. Ar ran y cyngor, diolchodd i Sonia Hansford
am ei 42 mlynedd o wasanaeth gwych gyda’r awdurdod. 2)
Mike Hawes, Ymddeoliad Dywedodd
Arweinydd y Cyngor y byddai Mike Hawes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau
Corfforaethol, yn ymddeol ym mis Mai 2017.
Diolchodd i Mike Hawes am ei wasanaeth gwych i’r awdurdod. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Questions must relate to
matters on the open part of the Agenda of the meeting and will be dealt within
a 10 minute period. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau o ran Cofnod 129 "Cynigion Cyllidebol
Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol 2016-2017 i 2017-2018". Ymatebodd Arweinydd y Cyngor i’r holl
gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd M H Jones gwestiwn ynghylch Cofnod 96 “Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r
Dyfodol: Cynigion Cyllidebol 2016-2017 i 2017-2018”. Ymatebodd Arweinydd y Cyngor. |
|
Cynigion Cyllidebol Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol 2017/18 - 2019/20. PDF 323 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ystyried cynigion
cyllidebol ar gyfer 2017-2018 i 2019-2020 fel rhan o strategaeth gyllidebol y
cyngor Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol. PENDERFYNWYD:
1) Cymeradwyo cynigion cyllidebol a
grynhowyd yn yr adroddiad ac y manylwyd arnynt yn Atodiad A ac Atodiad C yr
adroddiad fel sail i ymgynghoriad a fydd yn cynnwys cynnydd gwerth £1.8m yng
Nghyllidebau Dirprwyedig Ysgolion; 2) Cytuno ar yr ymagwedd at ymgynghori ac
ymgysylltu â staff, undebau llafur, preswylwyr, partneriaid a phartïon eraill â
diddordeb a nodir yn Adran 7 yr adroddiad; 3) Cyflwyno adroddiad ar ganlyniad yr
ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol i'r Cabinet ar 9 Chwefror 2017; 4) Y dylai’r cynigion cyllidebol terfynol gynnwys ymrwymiad i ddileu ffïoedd claddu plant. |