Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

190.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorwr J A Raynor fudd personol yng Nghofnod 199 "Cynnig ar Gyfer Gosod y Canolfan Ddinesig am Dymor Byr".

191.

Cofnodion. pdf eicon PDF 82 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2017.

192.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)            Mike Hawes – Ymddeoliad

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i Mike Hawes, Cyfarwyddwr Adnoddau a Swyddog Adran 151 am ei waith caled a’i ymroddiad i’r awdurdod dros y blynyddoedd. Nododd mai hwn oedd cyfarfod Cabinet olaf Mr Hawes, ac y byddai’n ymddeol ar ddiwedd mis Mai 2017.

 

Ar ran y Cabinet, dymunodd ymddeoliad hapus iddo.

 

2)            Y Cynghorydd Christine Richards – Yn Ymddiswyddo fel Aelod o’r Cabinet

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i’r Cynghorydd Christine Richards, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc am ei gwaith caled a’i hymroddiad i’r awdurdod dros y blynyddoedd. Nododd mai hwn oedd cyfarfod Cabinet olaf y Cynghorydd Richards fel Aelod o’r Cabinet yn dilyn ei phenderfyniad i ymddiswyddo o wleidyddiaeth mainc flaen.

 

Nododd y byddai’n cael ei chofio am ei mantra, “We need to get joined up around kids”.

193.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

194.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

195.

Pa mor barod yw plant i ddechrau'r ysgol pdf eicon PDF 16 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd H M Morris, o’r Panel Ymchwilio Craffu Pa mor Barod yw Plant i Ddechrau’r Ysgol, adroddiad a oedd yn cyflwyno canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion ymchwiliad y Panel i ba mor barod yw plant i ddechrau’r ysgol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Y dylid nodi'r adroddiad:

 

2)            Y dylid rhoi'r dasg o ddarparu adroddiad i'r Cabinet i Aelod Cabinet perthnasol gydag ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion craffu a'r cam(au) gweithredu arfaethedig.

 

196.

Sefydlu cyfleusterau addysgu arbenigol ar gyfer disgyblion ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig (ASA). pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad am ganlyniad yr ymgynghoriad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyhoeddi hysbysiadau statudol am gynigion i sefydlu tri chyfleuster addysgu arbenigol (CAA) newydd mewn ysgolion o fis Ionawr 2018 yn Ysgol Gynradd Dynfant, Ysgol Gynradd Portmead ac Ysgol Gyfun Gellifedw.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cyhoeddi'r hysbysiadau statudol i sefydlu tri chyfleuster addysgu arbenigol (CAA) mewn ysgolion o fis Ionawr 2018 yn Ysgol Gynradd Dyfnant, Ysgol Gynradd Portmead ac Ysgol Gyfun Gellifedw.

197.

Strategaeth Gomisiynu Gwasanaethau Cymunedol Bae'r Gorllewin ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hyn 2016-2025. pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn adroddiad i gymeradwyo Strategaeth Gomisiynu Bae'r Gorllewin ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Cymeradwyo'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y strategaeth;

 

2)            Cymeradwyo fersiwn ôl-ymgynghoriad Strategaeth Gomisiynu Bae'r Gorllewin ar gyfer Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn;

 

3)            Cymeradwyo'r cynllun gweithredu ar gyfer Abertawe.

198.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

199.

Cynnig ar gyfer gosod y Ganolfan Ddinesig yn y tymor byr.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad er mwyn ystyried cynnig i osod 3ydd llawr y Ganolfan Ddinesig am dymor byr.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r argymhelliad fel y nodwyd yn yr adroddiad yn amodol ar ddiwygio argymhelliad rhif 3.