Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a
Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr C
Richards a R C Stewart fudd personol yng Nghofnod 153 "Penodiadau
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”; 2)
Datganodd y Cynghorydd A S
Lewis a C E Lloyd fudd personol a rhagfarnol yng
Nghofnod 153 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol” a gadawodd y cyfarfod
cyn ei ystyried. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
a restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Ionawr, 2017; 2)
Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2017. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni
ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni
ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Adborth craffu cyn penderfynu - Clwstwr Cam-drin yn y Cartref yr Adolygiad Comisiynu. (llafar) Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd P R Hood-Williams adborth craffu cyn penderfynu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Blant a Phobl Ifanc
adroddiad a oedd yn amlinellu'r broses a’r canfyddiadau gan nodi modelau
cyflwyno newydd ar gyfer Clwstwr Cam-drin yn y Cartref Adolygiad Comisiynu
Cymorth i Deuluoedd. PENDERFYNWYD: 1)
Bod yr opsiwn a ffefrir
(2) fel a nodir yn adran 3 yr adroddiad fel mesur i wella perfformiad, gwneud y
gwasanaeth yn fwy cadarn, a gwneud pethau'n fwy effeithlon, yn briodol i'w
gyflwyno ar gyfer gweithredu. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bargen Ddinesig Bae Abertawe. PDF 143 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio awdurdod
dirprwyedig iddo ef a'r Prif Weithredwr lofnodi cytundeb mewn egwyddor ar
Fargen Ddinesig Bae Abertawe. PENDERFYNWYD y dylid: 1)
Dirprwyo awdurdod ar y cyd i Arweinydd y Cyngor
a'r Prif Weithredwr i lofnodi cytundeb y Fargen Ddinesig mewn egwyddor ar y
sail a ddisgrifir yn yr adroddiad; 2)
Gofyn i swyddogion ddod ag adroddiad llawn
ychwanegol i'r Cabinet a'r cyngor am unrhyw ymrwymiadau penodol yn dilyn yr
Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017 os caiff y cytundeb Bargen Ddinesig
ei lofnodi mewn egwyddor. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymateb Aelodau'r Cabinet i'r Ymchwiliad CAMHS. PDF 183 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf
adroddiad a oedd yn amlinellu ymateb i'r argymhellion craffu ac yn cyflwyno
cynllun gweithredu ar gyfer cael cytundeb. PENDERFYNWYD y dylid: 1) Cytuno ar yr ymateb a amlinellwyd yn yr
adroddiad a'r cynllun gweithredu cysylltiedig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfathrebu Unedig (Ffonau) PDF 96 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a
oedd yn argymell y ffordd ymlaen ar gyfathrebu unedig gan gynnwys gweithio mewn
partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (PABM). PENDERFYNWYD: 1)
Y bydd yr awdurdod yn cydweithio â PABM drwy uno
eu llwyfan teleffoni hynod hydwyth. 2)
Y bydd yr awdurdod yn trawsnewid y ffordd y mae
staff yn gweithio drwy leihau nifer y ffonau ar ddesgau
a lleihau costau teleffoni; 3)
Cyflwyno technoleg newydd megis Skype ar gyfer
busnesau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Blant a Phobl ifanc ac Aelod y Cabinet dros
Les a Dinas Iach adroddiad a oedd yn cyflwyno'r opsiynau arfaethedig ar gyfer
newidiadau i'r gwasanaethau sydd ar gael i blant ag anghenion ychwanegol ac
anableddau sydd wedi'u nodi drwy broses gomisiynu ehangach Adolygiad
Comisiynu'r Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd. PENDERFYNWYD
y dylid: 1)
Cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar y dewisiadau a gyflwynwyd yn yr
adroddiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 57 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r
enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. PENDERFYNWYD
y dylid: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymellwyd
gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr
eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwerthu Safle 16, Heol y Clâs, Parc Menter, Abertawe SA6 8DS. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd
yn gofyn am ystyried yr opsiynau ar gyfer gwerthu safle 16, Heol y Clâs, Parc Menter Abertawe. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
argymhelliad fel y nodwyd yn yr adroddiad. |