Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

113.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd M C Child fudd personol a rhagfarnol yng Nghofnod 123 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”, a gadawodd y cyfarfod cyn i’r mater gael ei ystyried;

 

2)            Datganodd y Cynghorwyr A S Lewis ac C Richards fudd personol yng Nghofnod 123 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”.

114.

Cofnodion. pdf eicon PDF 70 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)           Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2016;

 

2)            Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2016.

115.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

116.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Holwyd sawl cwestiwn gan aelodau’r cyhoedd. Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol. Rhestrir y cwestiynau hynny yr oedd angen ymateb ysgrifenedig ar eu cyfer isod:

 

1)            Gofynnodd Peter East gwestiwn a oedd yn ymwneud â Chofnod 58 “Y Diweddaraf am FPR7 - Caffael Llys Dewi Sant a Gwerthu Tir yng Nghae'r Vetch er mwyn Gwneud Lle Ar Gyfer Cyfleuster Newydd”:

 

i)             “Beth yw arwynebedd llawr y fflatiau newydd?"

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

117.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

118.

Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl (SPPG) Cynllun Comisiynu Lleol (LCP) ar gyfer 2017/18. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer crynodeb Blaenoriaethau Cynllun Strategol Lleol Cynllun Grant y Rhaglen Cefnogi Pobl (SPPG) ar gyfer 2017-2018 a gynhwysir yn y Cynllun Strategol Lleol. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyfres o Flaenoriaethau Strategol Rhanbarthol Drafft ar gyfer Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Bae'r Gorllewin.

 

Roedd yr adroddiad hwn hefyd yn crynhoi'r materion a'r heriau strategol allweddol o ran comisiynu'n lleol gyda'r SPPG, ac yn rhoi trosolwg ariannol lleol.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Cynnwys y Blaenoriaethau Comisiynu Strategol Pobl Leol yn y cynllun blynyddol, a'u cymeradwyo;

 

Nodi Blaenoriaethau Strategol Pwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Bae'r Gorllewin a'u cymeradwyo i'w cynnwys yn y Cynllun Strategol Rhanbarthol 3 blynedd.

119.

Cynllun Gweithredu Heneiddio'n Dda. pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach adroddiad a oedd yn cyflwyno Cynllun Gweithredu Heneiddio'n Dda 2016-2017.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

Cymeradwyo'r Cynllun Gweithredu a atodwyd i'r adroddiad fel 'Atodiad A'.

120.

Ymchwiliad Craffu Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy. pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach adroddiad a oedd yn amlinellu ymateb i'r argymhellion craffu, a chyflwynodd gynllun gweithredu i'w gytuno.

 

PENDERFYNWYD y dylid

 

1)            Cytuno ar yr ymateb fel y'i hamlinellwyd yn yr adroddiad a'r cynllun gweithredu cysylltiedig.

121.

Strategaeth Mannau Agored Abertawe. pdf eicon PDF 72 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu a gweithredu Strategaeth Mannau Agored Abertawe a datblygu Cynllun Gweithredu yn dilyn ymarfer ymgynghoriad helaeth.

 

PENDERFYNWYD y dylid

 

1)            Cymeradwyo'r Strategaeth Mannau Agored drafft a mynd ati i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus arni. Yn dilyn hyn cynigir fersiwn derfynol i'w mabwysiadu a bydd cynllun gweithredu'n cael ei ddatblygu.

122.

Adeilad newydd YGG Lôn-las - Ymateb y Pwyllgor Archwilio i'r Cabinet. pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pwyllgor Archwilio adroddiad a oedd yn rhoi ei ymateb i'r Cabinet yn dilyn adolygiad o Brosiect Adeilad Newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn-las ar ôl iddo gael ei gyfeirio gan y Cabinet fel y gellir dysgu gwersi a'u mabwysiadu o fewn prosiectau'r dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD y dylid

 

1)            Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Archwilio.

123.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 56 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)           Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymhellwyd gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:

 

1)

Ysgol Gynradd Gendros

Mr Peter Meehan

2)

Ysgol Gynradd Treforys

Y Cyng. Yvonne Jardine

3)

Ysgol Gynradd Pennard

Mrs Karen Penny

4)

Ysgol Gynradd Heol Teras

Miss Gemma Chapman

5)

Ysgol Gynradd Waunarlwydd

Mrs Rayna Soproniuk

6)

Ysgol y Cwm

Mrs Catrin Rowlands

7)

Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

Y Cyng. Mark Child

8)

Ysgol Gyfun Pen-yr-Heol

Mr Peter Wilcox

 

124.

Y Diweddaraf am FPR7 - Caffael Llys Dewi Sant a gwaredu tir yng Nghae'r Vetch er mwyn gwneud lle ar gyfer cyfleuster newydd. pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gynnwys y gyllideb ddiwygiedig o fewn y Rhaglen Gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD y dylid

 

1)           Cyflwyno'r gyllideb ddiwygiedig i'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2016-2017 a 2017-2018.