Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

97.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â darpariaethau'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

98.

Cofnodion. pdf eicon PDF 71 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)           Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2016.

99.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan yr Arweinydd.

100.

Cwestiynau gan y Cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

101.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

102.

Craffu Cyn Penderfynu - Adborth ar yr Adolygiad Comisiynu - Parciau a Glanhau.

Bydd y Cynghorydd C A Holley, Cynullydd y Panel Perfformiad Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid, yn cyflwyno adborth ar graffu cyn penderfynu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley, Cynullydd y Panel Perfformiad Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid, adborth ar y craffu cyn penderfynu.

103.

Adroddiad am yr Adolygiad Comisiynu Parciau a Glanhau. pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan aelodau'r Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant a Lles a Dinas Iach a oedd yn amlinellu cefndir yr Adolygiad Comisiynu Rheoli Parciau a Glanhau, gan nodi'i ganfyddiadon a'r argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)        Ei bod hi’n briodol mynd ymlaen i weithredu argymhellion 1 i 5 (y’u nodir yn Adran 8 yr adroddiad, fel mesurau i wella perfformiad, gwneud y gwasanaeth yn fwy cadarn a gwneud arbedion) yn amodol ar ymgynghori perthnasol ac yn amodol ar y diwygiadau canlynol:

 

a)         Tudalen 26 yr adroddiad:

 

i)          Dileu argymhelliad 8.1 a);

ii)         Dileu pwyntiau bwled argymhelliad 8b) 3 a 4.

 

b)         Tudalen 28 yr adroddiad:

 

i)          Paragraff 9.1 dileu argymhelliad 1a;

ii)         Paragraff 9.2 newid y targed arfaethedig y cyfeirir ato yn argymhelliad 1f i £140K.

104.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 2016-17. pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan aelodau'r Cabinet dros Gyllid a Strategaeth a Thrawsnewid a Pherfformiad a oedd yn amlinellu'r perfformiad corfforaethol a gwasanaeth yn ystod Chwarter 2 2016-2017.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

            Adolygu'r perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

105.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)           Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymellwyd gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:

 

1)

Ysgol Gynradd Cilâ

Mrs Helen Richards

2)

Ysgol Gynradd Clwyd

Y Cyng. Terry Hennegan

3)

Ysgol Gynradd y Glais

Mrs Claire Abraham

4)

YGG Tan-y-lan

Mr Gari Lewis

5)

Ysgol Tregŵyr

Mr Gerald Frances Keating

 

106.

Polisi Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol - Adolygiad taliadau yn ystod y flwyddyn. pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan aelodau'r Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn a Gwasanaethau'r Genhedlaeth Nesaf a oedd yn rhoi diweddariad ar ganfyddiadau a chynnydd adolygiad codi tâl yn ystod y flwyddyn y Grŵp Tasg a Gorffen.  Amlinellwyd hefyd yn yr adroddiad yr achos busnes dros y tâl cefnogi cyn-ddirprwyaeth.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Cydnabod canlyniadau a chynnydd y grŵp.

 

2)            Cymeradwyo'r tâl cefnogi cyn-ddirprwyaeth.

107.

Contractau ar gyfer Gwasanaethau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad tendrau diweddar ar gyfer gwasanaethau o ran cludiant o'r cartref i'r ysgol i ddisgyblion prif ffrwd, gan geisio cymeradwyaeth i ddyfarnu contractau.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Derbyn prisiau tendro a argymhellwyd gan y Panel Gwerthuso Tendrau ac a nodir yn Atodlen B yr adroddiad fel y tendrau mwyaf manteisiol yn economaidd;

 

2)            Dyfarnu contractau i'r cwmnïau a nodir yn Atodlen B yr adroddiad.

108.

Cynllun Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc adroddiad a oedd yn cynnig ymateb partneriaeth strategol at gyflawni blaenoriaethau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn Abertawe.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Cymeradwyo'r Cynllun Partneriaeth Strategol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc.

109.

Sefydlu cyfleusterau addysgu arbenigol ar gyfer c ynradd ac uwchradd disgyblion ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig (ASA). pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer ymgynghori ar gynnig i sefydlu tri chyfleuster addysgu arbenigol (CAA) newydd mewn ysgolion o fis Ionawr 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Cymeradwyo ymgynghoriad ar sefydlu y cyfleusterau addysgu arbenigol (CAA) mewn tair ysgol (Ysgol Gyfun Gellifedw, Ysgol Gynradd Portmead ac Ysgol Gynradd Dynfant) ym mis Ionawr 2018 i ddysgwyr ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig (ASA);

 

2)            Cytuno i geisio cyllid corfforaethol ychwanegol i gefnogi sefydlu'r CAA hyn (cyfalaf a refeniw);

 

3)            Y dylai'r Cabinet ystyried ymatebion yn dilyn cyfnod o ymgynghoriad.

110.

Papur i archwilio'r gwasanaeth addysg mewn lleoliad heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn Abertawe i sicrhau bod darpariaeth ar gyfer y dyfodol yn diwallu anghenion pobl ifanc ddiamddiffyn yn y ffordd orau pdf eicon PDF 510 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn ystyried dyfodol arfaethedig darpariaeth addysg mewn lleoliad heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn Abertawe.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Ailwampio holl ddarpariaeth gwasanaeth EOTAS Dinas a Sir Abertawe yn sylweddol er mwyn darparu gwasanaeth blaenllaw yn y maes fel yr argymhellwyd gan Swyddogion;

 

2)            Lleihau nifer y lleoedd yn Uned Cyfeirio Disgyblion Abertawe (UCD) yn sylweddol er mwyn cydnabod datganoli ariannol a chyfrifoldeb cynyddol i ysgolion.  Caiff anghenion y mwyafrif o'r dysgwyr ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiad (ACEY) eu diwallu mewn addysg brif ffrwd, gyda darpariaeth ganolog ar gael i'r dysgwyr hynny â'r anghenion ACEY mwyaf difrifol yn unig;

 

3)            Datblygu tîm cefnogi amlasiantaeth i ddarparu cefnogaeth i bobl ifanc, eu hysgolion a'u teuluoedd;

 

4)            Addasu Strategaeth Ymddygiad a Lles Abertawe er mwyn diwallu anghenion y mwyafrif o ddysgwyr ag ACEY drwy addysg brif ffrwd;

 

5)            Ailstrwythuro UCD Abertawe yn dri llinyn, gan gynnwys 'tŷ hanner ffordd', fel bod y disgyblion yn cael eu haddysgu mewn amgylchiadau dysgu sy'n addas at y diben;

 

6)            Sicrhau swyddi arweinyddiaeth uwch parhaol ar gyfer Pennaeth UCD Abertawe, Dirprwy Bennaeth UCD a rheolwyr dwy o'r canolfannau a'r tîm cefnogi;

 

7)            Cynnwys protocol 'symudiad cynnar' newydd wrth ddiwygio'r protocol 'symudiad wedi'i reoli' presennol;

 

8)            Cymeradwyo cyllid ychwanegol o oddeutu £100k er mwyn cyflawni astudiaeth dichonoldeb lawn ar safle'r Cocyd;

 

9)            Cymeradwyo cyllid cyfalaf corfforaethol ychwanegol (yn amodol ar astudiaeth dichonoldeb lawn) mewn perthynas â'r llety posib;

 

10)         Cymeradwyo cyllid refeniw corfforaethol ychwanegol (ar gyfer y deng mlynedd nesaf o leiaf) i gefnogi staff ychwanegol, cyllid datganoledig i ysgolion a chostau teithio "symudiad wedi'i reoli".

111.

Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol i Blant a Phobl Ifanc 2013 - Y diweddaraf am y cynnydd wrth fynd i'r afael â'r pum argymhelliad, Tachwedd 2016. pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y cynnydd o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad Arolygiad Estyn.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Nodi'r cynnydd o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad Arolygiad Estyn.

112.

Lwfansau Band Eang, Ffonau, TGCh a Ffonau Symudol i
Gynghorwyr - Mai 2017 a'r Tu Hwnt. pdf eicon PDF 143 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a'r Prif Swyddog Trawsnewid adroddiad ar y cyd a oedd yn adolygu'r polisi "TGCh Cynghorwyr - Mai 2012 a'r tu hwnt", gan sicrhau felly bod pob Cynghorydd yn derbyn darpariaeth TGCh sy'n addas ar gyfer ei anghenion, ac sy'n cydymffurfio â phenderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid newid y gair “nodi” yn argymhellion 3), 4) a 5) i “fabwysiadu”.

 

PENDERFYNWYD y dylid:

 

1)            Parhau â'r trefniadau presennol lle mae Cynghorwyr yn prynu eu hoffer TGCh eu hunain;

 

2)            Nodi bod angen mynediad i Office 365 i alluogi technoleg y cwmwl er mwyn creu system rhannu gwybodaeth fwy diogel a gwydn, yn amodol ar gyfnod prawf llwyddiannus;

 

3)            Mabwysiadu'r lwfans TGCh y Cynghorwyr fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;

 

4)            Mabwysiadu'r lwfans band eang a ffôn y Cynghorwyr fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;

 

5)            Mabwysiadu'r lwfans ffôn symudol y Cynghorwyr fel y nodwyd yn yr adroddiad;

 

6)            Nodi cynnwys yr adran sy'n ymwneud â Hunanwasanaeth i Gynghorwyr;

 

7)            Mabwysiadu'r lwfans TGCh a'r lwfans band eang a ffôn i aelodau cyfetholedig

 

8)            Nodi penderfyniad y cyngor i sicrhau bod yr holl agendâu ac adroddiadau craffu etc. yn defnyddio meddalwedd Modern.gov erbyn mis Mai 2017.