Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

64.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd fudd personol yng Nghofnod 74 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”.

 

65.

Cofnodion. pdf eicon PDF 62 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)           Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Medi 2016.

 

66.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)   Eitem 18 "FPR7  – Diweddariad  – Cydosodiad Tir Adfywio Canol

      y Ddinas  – Dymchwel Adeilad Oceana"

 

Soniodd Arweinydd y Cyngor am y ffaith fod y rhan fwyaf o gynnwys yr adroddiad yn hysbys i'r cyhoedd, wedi iddo gael ei ddatgelu gan y wasg. Dywedodd ei fod wedi trafod y mater gyda'r Swyddog Monitro Dros Dro, ac y byddai cyngor cyfreithiol yn cael ei roi o ran prawf budd y cyngor ac ymdrin â'r adroddiad mewn sesiwn agored. Ymdrinnir â'r adroddiad ar ôl y sesiwn holi cynghorwyr gan y cyhoedd. 

 

 

67.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

68.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

69.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Wedi derbyn cyngor gan y Swyddog Monitro Dros Dro ynglŷn â'r wybodaeth sydd eisoes ar gael i'r cyhoedd, a'r cais ar gyfer prawf budd y cyhoedd, bu'r Cabinet yn ystyried prawf budd y cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD y dylid trafod yr eitem ganlynol yn ystod rhan agored y cyfarfod.</AI17>

 

70.

FPR7 – Diweddariad - Cydesodiad Tir Adfywio Canol Y Ddinas - Dymchwel Adeilad Oceana. pdf eicon PDF 28 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a oedd yn cynnig y diweddaraf am y sefyllfa bresennol ynglŷn â dymchwel hen adeilad Oceana, gan amlinellu'r angen i neilltuo mwy o arian er mwyn cwblhau'r gwaith dymchwel.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gyllideb a ddarparwyd i adlewyrchu gwerth terfynol y cyfrif a drafodwyd sef £3.7 miliwn ynghyd â thelerau diwygiedig i daliadau prisio deufisol a symiau cadw wedi’u capio i 3% o'r gwerth contract gwreiddiol.

 

71.

Ymchwiliad Craffu i Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy. pdf eicon PDF 59 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu'r canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion a oedd yn deillio o ymchwiliad y Panel i Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc gan y Cynghorydd M H Jones, o'r Panel Ymchwiliad Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Y dylid derbyn yr adroddiad;

 

2)            Y dylid rhoi'r dasg o ddarparu adroddiad i'r Cabinet ar 15 Rhagfyr 2016 i Aelod y Cabinet perthnasol, gan gynnwys ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion craffu a'r cam(au) gweithredu arfaethedig i'r Cabinet benderfynu arnynt.

 

72.

Ymchwiliad craffu i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc. pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu'r canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion a oedd yn deillio o ymchwiliad y Panel i Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy drwy Weithredu yn y Gymuned gan y Cynghorydd T J Hennegan, o'r Panel Ymchwiliad Craffu Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)    Y dylid derbyn yr adroddiad;

 

2)    Y dylid rhoi'r dasg o ddarparu adroddiad i'r Cabinet ar 15 Rhagfyr 2016 i Aelod y Cabinet perthnasol, gan gynnwys ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion craffu a'r cam(au) gweithredu arfaethedig i'r Cabinet benderfynu arnynt.

 

73.

Dyfarnu contract ac awdurdodi rhaglen gyfalaf ar gyfer adnewyddu adeiladau ysgol presennol Ysgol Gyfun Pentrehafod.. pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i neilltuo costau diwygiedig adnewyddu Ysgol Gyfun Pentrehafod i'r Rhaglen Gyfalaf, yn amodol ar gadarnhau'r grant ac ymrwymo i gontract gyda Llywodraeth Cymru (yn amodol ar ganiatâd cynllunio).

 

Ceisiodd yr adroddiad hefyd awdurdod i ddyfarnu contract cam dau i Morgan Sindall, yn unol â'r cytundeb sy'n nodi bod yn rhaid i'r contractwr gael caniatâd cynllunio a bod yr holl risgiau sy'n gysylltiedig â pheidio â chael caniatâd cynllunio yn perthyn i'r contractwr, ac yn amodol ar gadarnhau'r grant ac ymrwymo i gontract gyda Llywodraeth Cymru (yn amodol ar ganiatâd cynllunio).

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Gymeradwyo'r prosiect cyfalaf gyda'i gostau diwygiedig fel a fanylwyd, ynghyd â'r goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad A, yn amodol ar gadarnhau'r grant ac ymrwymo i gontract (sy'n amodol ar ganiatâd cynllunio) gyda Llywodraeth Cymru; ac

 

2)            Y dylid dyfarnu Contract Cam Dau ar gyfer y gwaith adnewyddu, ail-lunio ac estyn Ysgol Pentrehafod i Dendr Rhif 1 (Morgan Sindell), yn amodol ar gadarnhau'r grant ac ymrwymo i gontract (sy'n amodol ar ganiatâd cynllunio) gyda Llywodraeth Cymru.

 

74.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 53 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)           Y dylid cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymhellwyd gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:

 

1)

Ysgol Gyfun yr Esgob Gore

Mrs Margaret (Peggy) George

2)

Ysgol Gyfun Bryn Tawe

Mr David Meirion Howells

 

 

75.

Ymgynghoriad Ar Adolygiadau Comisiynu Gwasanaethau I Oedolion. pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb i fynd ati i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch Model Gwasanaeth y Gwasanaethau i Oedolion a'r opsiynau a ffefrir sy'n deillio o'r Adolygiad Comisiynu Gofal Cartref.

 

PENDERFYNWYD y byddai'r mater yn symud ymlaen i ymgynghoriad cyhoeddus.

 

76.

Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2015-16. pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiadau oedd yn amlinellu adolygiad o'r cynnydd a wnaed gan y cyngor o ran cyflawni'r blaenoriaethau, y camau gweithredu a'r targedau a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol Cyflawni dros Abertawe ar gyfer 2015-2017, yn unol â gofyniad gan Rhan 1 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2015-16.

 

77.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2012-2016. pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Adroddiad Adolygiad Cydraddoldeb ar gyfer 2015-2016 fel sy'n ofynnol gan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys yr adroddiad i'w gyhoeddi a'i gyflwyno i'r rheolydd.

 

78.

Perygl Llifogydd Strategol Canol Dinas Abertawe. pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb i roi Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ar waith er mwyn amddiffyn Ardal Ganolog Abertawe a sicrhau ei photensial ar gyfer datblygiad a buddsoddiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Y byddai'r Cabinet ymrwymo'n ffurfiol i ddatblygu cynigion tymor hir ar gyfer Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd yn Ardal Ganolog Abertawe;

 

2)            Y byddai Asesiad Canlyniad Llifogydd y Vetch yn cael ei gyflwyno'n ffurfiol i Gyfoeth Naturiol Cymru ac yn cynnwys datganiad y bydd Dinas a Sir Abertawe yn y tymor hir i roi Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ar waith ar gyfer Ardal Ganolog Abertawe.

 

79.

Ail-leoli Gwasanaeth Dydd Dwys Whitethorns (Treforys) i Heol Acacia, West Cross, Abertawe. pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn  adroddiad a oedd yn ceisio sicrhau cytundeb i ail-leoli Gwasanaeth Dydd Dwys Whitethorns (WIDS), Treforys i Heol Acacia, West Cross (Gwasanaeth Seibiant Anableddau Dysgu gynt).

 

PENDERFYNWYD:

 

1)            Bydd Gwasanaeth Dydd Dwys Whitethorns yn aros yn ei leoliad presennol.

 

80.

Adroddiad Blynyddol Cwynion 2015-16. pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu gweithrediad y Tîm Cwynion Corfforaethol, gan amlygu nifer, nature a chanlyniad cwynion yn erbyn yr Awdurdod, yn ogystal â manylion y gwersi a ddysgwyd a gwelliannau i'r gwasanaeth.

 

Cyflwynwyd yr adroddiadau canlynol hefyd fel rhan o adroddiad eangach:

 

Ø    Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion - Dywedodd fod angen cywiro paragraff 5.2 yr adroddiad blynyddol hwn i ddarllen fel a ganlyn:

 

"5.2  Nodwyd un methiant gan yr Ombwdsmon mewn perthynas ag Abertawe eleni.  Mae crynodeb o'r gŵyn hon ac argymhellion yr Ombwdsmon ar gael yng Nghyhoeddiad 23 llyfr achosion yr Ombwdsmon yn:

 

https://www.ombudsman-wales.org.uk/en/publications/The-Ombudsmans-Casebook.aspx

 

Derbyniwyd holl argymhellion yr Ombwdsmon ac ymgymerwyd â’r camau gweithredu cywirol yn unol â hynny."

 

Ø    Cwynion y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

Ø    Deddf Rhyddid Gwybodaeth;

Ø    Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio.