Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd R V
Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 38
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi
cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â
phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 2)
Datganodd y Cynghorwyr L S Gibbard, A S Lewis a R C
Stewart gysylltiad personol â Chofnod 42 "Trefniant
Pensiwn Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) cost a rennir ar gyfer aelodau’r
CPLIL”. 3)
Datganodd B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol
â Chofnod 42 "Trefniant Pensiwn Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) cost
a rennir ar gyfer aelodau’r CPLIL” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei
ystyried. |
|||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod
fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2023. |
|||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y
Cyngor. |
|||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn
cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol
i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw
gwestiynau. |
|||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw
gwestiynau. |
|||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Addysg a Dysgu:
|
|||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1 2023/24. PDF 161 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad
adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1
2023/24. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi perfformiad y cyngor wrth gyflawni amcanion lles y
cyngor yn chwarter 1/2023. 2)
Cymeradwyo defnyddio'r wybodaeth hon i lywio
penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n
berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac
effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|||||||||
Alldro ac Chyllido Cyfalaf 2022/23. PDF 373 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
cynnwys manylion alldro cyfalaf a'r arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar
31 Mawrth 2023. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cario tanwariant net y gyllideb gyfalaf gynyddol gwerth
£28.8m ymlaen i 2023/2024. |
|||||||||
Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella 2023/24 - trosglwyddo'r gyllideb. PDF 245 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn
manylu ar y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella yn 2023/24 a
gofynnodd am gymeradwyaeth i ddychwelyd cyllid nas defnyddiwyd o'r Grantiau
Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) a chyllidebau benthyciadau Homefix i'r
Ganolfan Gorfforaethol. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo trosglwyddo £460,519 o gyllideb GCA a £712,556
o gyllideb benthyciadau Homefix i'r Ganolfan Gorfforaethol. |
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno trefniant pensiwn CGY cost
a rennir i aelodau'r CPLlL. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo cyflwyno trefniant pensiwn CGY cost a rennir i
aelodau'r CPLlL. 2)
Cymeradwyo taliadau sy'n ymwneud ag enillion fel
goramser, codiadau cyflog, lwfansau cytundebol, cyflog mamolaeth
galwedigaethol, cyflog salwch galwedigaethol a cholli swydd yn cael eu cyfrifo
ar y cyflog tybiannol cyn ychwanegu'r gostyngiad aberthu cyflog. 3)
Cymeradwyo cynnwys disgresiwn newydd ym Mholisi Dewisol
Pensiwn Cyflogwyr CPLlL y cyngor i ganiatáu i
aelodau'r CPLlL gymryd rhan mewn cynllun CGY cost a
rennir. 4) Cymeradwyo partneru â darparwr allanol i ddarparu gwasanaeth a reolir yn llawn sy'n cynnwys CGY cost a rennir. |
|||||||||
Cynlluniau ar gyfer Ysgolion Arbennig Abertawe yn y dyfodol. PDF 266 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i ymgynghori ar uno Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas yn un
ysgol arbennig ym mis Medi 2025 ac adleoli i ysgol bwrpasol newydd gan gynyddu
nifer y lleoedd o fis Ebrill 2028. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo i ymgynghori ar uno Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol
Crug Glas yn un ysgol arbennig ym mis Medi 2025 ac adleoli i ysgol bwrpasol
newydd gan gynyddu nifer y lleoedd o fis Ebrill 2028. 2)
Y dylai'r Cabinet ystyried yr ymatebion yn dilyn y cyfnod
ymgynghori. |
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad diweddaru ar
gynnydd Band B Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau cynaliadwy ar gyfer
Dysgu, y pwysau chwyddiant ac ariannol sy'n effeithio ar weddill y rhaglen a
chymeradwyo cynnydd i amlen y rhaglen. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Nodi gweddill y blaenoriaethau buddsoddi cyfalaf ar gyfer
Band B y Rhaglen AoS/Rhaglen Amlinellol Strategol
Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. 2)
Cynyddu'r cyfraniad cyllid
lleol £9 miliwn i £46.7 miliwn, yn seiliedig ar gyfraniad cyfalaf yn unig. 3)
Bod naill ai cais am newid yn cael ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru yn ceisio cynnydd yn amlen rhaglen Band B i £176 miliwn neu,
yn dibynnu ar amseriad a dilyniant achosion busnes, bydd hyn yn rhan o
gyflwyniad diwygiedig y Rhaglen Amlinellol Strategol. |
|||||||||
Cronfa Pontio Bysiau Llywodraeth Cymru. PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth, yn ôl-weithredol, i'r cyngor ymrwymo i gytundebau
Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau Llywodraeth Cymru ac ymrwymo i gytundebau gyda
gweithredwyr bysus niferus yn y rhanbarth. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cefnogi
a chymeradwyo penderfyniad Arweinydd y Cyngor ar 24 Gorffennaf 2023 yn
awdurdodi'r cyngor i ymrwymo i gytundebau Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau
Llywodraeth Cymru. 2) Mae'r cyngor, fel awdurdod arweiniol rhanbarthol, wedi ymrwymo i gytundebau Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau gyda gweithredwyr bysus perthnasol, i sicrhau cymorth ariannol (amodol) i'r sector bysus ac i sefydlu perthynas â'u hawdurdodau lleol cyfansoddol sy'n sicrhau bod y cyllid parhaus yn bodloni blaenoriaethau'r awdurdodau hynny ac yn cyflawni ar eu rhan. |
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol a Pherfformiad ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau
a Thwristiaeth adroddiad ar y cyd a oedd yn darparu nifer o opsiynau ar gyfer y
perchennog tir i'r Cabinet ynghylch 254 - 260 Stryd Rhydychen er mwyn hwyluso
ailddatblygu'r bloc, gan gynnwys adnewyddu unedau masnachol llawr gwaelod ac
ailbwrpasu'r llety ar y lloriau uchaf yn unedau preswyl. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Bod y Cyngor yn wyro oddi wrth y polisi cyfredol o gadw buddiannau rhydd-ddaliadol yng nghanol y ddinas a chymeradwyo gwaredu'r buddiannau rhydd-ddaliadol. 2) Rhoi awdurdod i'r Swyddog Adran 151 i wneud diwygiad priodol i'r gyllideb refeniw i wrthbwyso'r golled mewn incwm blynyddol gyda'r pwysau hwn yn cael ei adlewyrchu fel rhan o broses y gyllideb yn 2024/25. 3) Gofyn am baratoi adroddiad pellach i'r Cabinet ei ystyried ar y polisi o gadw/gwaredu rhydd-ddaliadau yng nghanol y ddinas. 4) Cadarnhau na fydd unrhyw rydd-ddaliadau a waredwyd pellach yn cael eu hystyried hyd nes y cyflwynir yr adolygiad polisi yn unol ag argymhelliad 5 ochr yn ochr ag adroddiad yn y dyfodol ar adolygiad o Strategaeth Canol y Ddinas. |
|||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. |
|||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||
Bwriad i werthu rhydd-ddaliad neu ailstrwythuro prydles 254-260 Stryd Rhydychen er mwyn hwyluso adnewyddu unedau masnachol llawr gwaelod ac ailbwrpasu'r llety ar y lloriau uchaf yn unedau preswyl. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau
Corfforaethol a Pherfformiad ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio,
Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad 'er gwybodaeth' ar y cyd a oedd yn
darparu nifer o opsiynau ar gyfer y perchennog tir i'r Cabinet ynghylch 254 -
260 Stryd Rhydychen er mwyn hwyluso ailddatblygu'r bloc, gan gynnwys adnewyddu
unedau masnachol llawr gwaelod ac ailbwrpasu'r llety ar y lloriau uchaf
yn unedau preswyl. |
|||||||||
Gwaredu Tir yng Ngham 1 Abertawe Ganolog. Cofnodion: Tynnwyd yr eitem hon yn ôl. |