Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd A H
Stevens gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 5
"Adroddiad Rheoli sy'n rhoi'r diweddaraf am Faes Awyr Abertawe" a
gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y
Cyngor. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i
diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad)
(Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes
canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Adroddiad Rheoli sy'n rhoi'r Diweddaraf am Faes Awyr Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad
adroddiad a oedd yn amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran Maes Awyr Abertawe a
darparodd gyngor cyfreithiol wedi'i ddiweddaru. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |