Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

17.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 23 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)              Datganodd y Cynghorydd A S Lewis gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 23 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

 

3)              Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies, A S Lewis a R C Stewart gysylltiad personol â Chofnod 28 "Hwb Cadernid Cymunedol y Tabernacl Treforys".

18.

Cofnodion. pdf eicon PDF 318 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023.

19.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

20.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

21.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

22.

Arweinyddiaeth, Cynhwysiad a Llywodraethu: Adeiladu Rhagoriaeth yn Ysgolion Abertawe.(Adroddiad y Pwyllgor Cyflenwi Corfforaethol Addysg a Sgiliau) pdf eicon PDF 277 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y llawlyfr, y polisi a'r strategaeth a ddatblygwyd yn dilyn gwaith y Pwyllgor Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau yn 2022-2023.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Llawlyfr newydd i Benaethiaid ac Uwch-arweinwyr sydd wedi'i atodi yn Atodiad A yr adroddiad.

 

2)              Cymeradwyo'r Polisi Presenoldeb newydd ar gyfer Abertawe a fydd yn sail i waith amcan presenoldeb y Strategaeth Cynhwysiad sydd wedi'i atodi yn Atodiad B yr adroddiad.

 

3)              Cymeradwyo'r Strategaeth Cefnogi Cyrff Llywodraethu a'r Cynllun Gweithredu Datblygu Llywodraethu Ysgolion i gefnogi recriwtio a chadw llywodraethwyr ysgolion sydd wedi'i atodi yn Atodiad C ac Atodiad D yr adroddiad.

23.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Mayals

Dr Felicity Padley

2)

Ysgol Gynradd Pentrechwyth

Julie Buck

3)

Ysgol Gynradd Pentre’r Graig

Y Cyng. Andrea Lewis

4)

Ysgol Gynradd Waun Wen

Helen Jones

 

24.

Monitro Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23. pdf eicon PDF 168 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer diwedd blwyddyn 2022/2023.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi perfformiad y cyngor wrth gyflawni amcanion lles y cyngor yn 2022/23.

 

2)              Cymeradwyo'r defnydd o'r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau gweithredol ynghylch dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

25.

Alldro Ariannol Refeniw 2022/23. pdf eicon PDF 402 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar yr alldro ariannol refeniw ar gyfer 2022/2023.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad, a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig gwerth £6.5 miliwn y manylwyd arnynt yn Adran 6.3 a 6.4 a 6.5 yr adroddiad.

26.

Alldro Refeniw 2022/23 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT). pdf eicon PDF 333 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth a oedd yn manylu ar alldro CRT Dinas a Sir Abertawe o'i gymharu â'r gyllideb refeniw gymeradwy ar gyfer 2022/2023.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad, a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig gwerth £5.169m y manylwyd arnynt yn Adran 2.1 yr adroddiad.

27.

Polisi a Phroses Cyflwyno Grantiau. pdf eicon PDF 260 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn darparu templed ac arweiniad ar gyfer rhoi grantiau o fewn Cyngor Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Polisi a'r Weithdrefn Rhoi Grantiau.

28.

Hwb Cadernid Cymunedol y Tabernacl Treforys. pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cynorthwyo Sefydliad Ymgorfforedig Elusennol 'Tabernacle, Morriston Congregation', mewn cynllun cyfalaf ar gyfer Capel y Tabernacl, Treforys sy'n adeilad rhestredig Gradd 1.  Mae'r adeilad yn ased Trydydd Sector, ac mae'r cynllun yn cynnwys adnewyddu a gwelliannau, i ehangu'r defnydd cymunedol/busnes. Rôl y Cyngor fydd rheoli'r prosiect adeiladu cyfalaf a'r ffynonellau cyllid cysylltiedig yn unig.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Awdurdodi'r cyngor i ymrwymo i Gytundeb Cydweithio gyda Sefydliad Ymgorfforedig Elusennol 'Tabernacle, Morriston Congregation'.

 

2)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gwblhau telerau'r Cytundeb Cydweithio drafft sydd wedi'i atodi yn Atodiad A yn yr adroddiad a chychwyn unrhyw ddogfennaeth berthnasol i amddiffyn buddiannau'r cyngor.

 

3)              Awdurdodi'r cyngor i dderbyn arian grant ar ran Sefydliad Ymgorfforedig Elusennol 'Tabernacle, Morriston Congregation', goruchwylio talu anfonebau a chynorthwyo gyda hawliadau grant.

29.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

30.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

31.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - RhGA7 - Ailddatblygu 277-278 Stryd Rhydychen - prosiect hwb cymunedol. (llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd T M White yr adborth craffu cyn penderfynu.

32.

RhGA7 - Ailddatblygu 277-278 Stryd Rhydychen - prosiect hwb cymunedol.*

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol ac Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol i neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.