Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

180.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 185 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)              Datganodd y Cynghorydd L S Gibbard gysylltiad personol â Chofnod 196 "Cymorth Ariannol Costau Ynni Partneriaid Strategol 2023/2024”.

181.

Cofnodion. pdf eicon PDF 313 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023.

182.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

183.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

184.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 195 "Diweddariad ar Gynnydd Eden Las” a Chofnod 196 “Cymorth Ariannol Costau Ynni Partneriaid Strategol 2023/2024”.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor.

185.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Brynhyfryd

Dr Brabara Shuk - Kwan Wong

2)

Ysgol Gyfun yr Olchfa

James Ellis

 

186.

Strategaeth Cynhwysiad y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn. pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer Strategaeth Cynhwysiad y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn 2023-2028.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r adroddiad.

 

2)              Cytuno ar Strategaeth Cynhwysiad y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn 2023-2028 fel y mecanwaith ffurfiol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg i nodi'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer cefnogi dysgwyr diamddiffyn a'r strategaethau i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau hynny. 

 

3)              Defnyddio'r olrheiniwr effaith i fonitro cynnydd ac effaith ac adrodd am hyn drwy'r Cynllun Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn. Ni fydd hyn yn dileu mecanweithiau adrodd eraill ond yn hytrach yn darparu mecanwaith ychwanegol i dynnu pob llinyn cefnogaeth at ei gilydd.

187.

Gosod cae 3G yn Ysgol Gyfun yr Olchfa. pdf eicon PDF 367 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7.4 y Weithdrefn Ariannol i neilltuo £378,244 arall i'r Rhaglen Gyfalaf gan ddod â'r cyfanswm i £1,633,244 i ganiatáu ar gyfer gosod arwyneb gemau artiffisial (3G) a ffens derfyn newydd yn Ysgol Gyfun yr Olchfa.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo ychwanegu swm pellach o £378,244 i'r rhaglen gyfalaf gan ddod â'r cyfanswm sydd wedi'i ymrwymo i'r cynllun hwn i £1,633,244. Mae'r ymrwymiad cynyddol hwn yn seiliedig ar werthoedd dychwelyd tendr a chaiff ei ariannu gan enillion gwerthu tir Ysgol Gyfun yr Olchfa.

188.

Craffu Cyn Penderfynu - Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol Yn ychwanegol at Gyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2027/28 - Cynlluniau Cymeradwy'r Gronfa Adferiad Economaidd (sy'n fwy na miliwn o bunnoedd) a/neu sydd wedi'u hawdurdodi i barhau ar ôl mis Mawrth 2023.

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd C A Holley adborth cyn penderfynu.

189.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol Yn ychwanegol at Gyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2027/28 - Cynlluniau Cymeradwy'r Gronfa Adferiad Economaidd (sy'n fwy na miliwn o bunnoedd) a/neu sydd wedi'u hawdurdodi i barhau ar ôl mis Mawrth 2023. pdf eicon PDF 262 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio awdurdodi ac ymrwymo i gynlluniau a gymeradwywyd drwy'r Gronfa Adferiad Economaidd (CAE) sy'n werth mwy na miliwn o bunnoedd i'r Rhaglen Gyfalaf 2022/2023-2027/2028 ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf".

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r dyraniad ychwanegol o £2,050,000 i'w gynnwys yn y Gyllideb Gyfalaf a Rhaglen 2022/23-2027/28, fel o dan Gyfeirnod Eiddo Unigryw 156 - Digonolrwydd Chwarae y Gronfa Adferiad Economaidd.

 

2)              Cymeradwyo'r dyraniad ychwanegol o £1,045,000 i'w gynnwys yn y Gyllideb Gyfalaf a Rhaglen 2022/23-2027/28, fel o dan Gyfeirnod Eiddo Unigryw 157 - Cyfleusterau Sglefrio y Gronfa Adferiad Economaidd, ynghyd â'r cronfeydd presennol o £45,000 a gedwir ar gyfer Chwaraeon Stryd.

 

3)              Cymeradwyo'r dyraniad ychwanegol o £1,500,000 i'w gynnwys yn y Gyllideb Gyfalaf a Rhaglen 2022/23-2027/28, fel o dan Gyfeirnod Eiddo Unigryw 153 - Teithio Gofal Cartref y Gronfa Adferiad Economaidd.

190.

Gwella Cyfalaf Darpariaeth Gwasanaethau Dydd Mewn Gwasanaethau i Oedolion. pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo'r cynllun gwella a datblygu cyfalaf ar gyfer Darpariaeth Gwasanaethau Dydd presennol y Gwasanaethau i Oedolion yng Nghyngor Abertawe ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i ymrwymo ac awdurdodi cynllun i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Cynllun Gwella a Datblygu Cyfalaf ynghyd â'r goblygiadau ariannol a'u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf am y 4 blynedd nesaf - 2023 i 2027.

191.

Gwaith Gwella Cyfalaf ar gyfer Canolfannau Cymorth Cynnar yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd. pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo'r cynllun gwella a datblygu Cyfalaf ar gyfer Hybiau Cymorth Cynnar presennol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Abertawe ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i ymrwymo ac awdurdodi cynllun i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Cynllun Gwella a Datblygu Cyfalaf ynghyd â'r goblygiadau ariannol a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24.

192.

Gwaith Gwella Cyfalaf ar gyfer Darpariaeth Gofal Preswyl yn y Gwasanaethau i Oedolion. pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo'r cynllun gwella a datblygu Cyfalaf ar gyfer Lleoliadau Gofal Preswyl presennol y Gwasanaethau i Oedolion yng Nghyngor Abertawe ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i ymrwymo ac awdurdodi cynllun i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Cynllun Gwella a Datblygu Cyfalaf ynghyd â'r goblygiadau ariannol a'u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf am y 4 blynedd nesaf - 2023 i 2027.

193.

Craffu Cyn Penderfynu - Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol
Darpariaeth refeniw ychwanegol ar gyfer Cronfa Adferiad Economaidd dros ben 2023/24.

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd C A Holley adborth cyn penderfynu.

194.

Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol
Darpariaeth refeniw ychwanegol ar gyfer Cronfa Adferiad Economaidd dros ben 2023/24. pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo cynlluniau sy'n gysylltiedig â'r Gronfa Adferiad Economaidd Gweddilliol i'w cynnal yn ystod blwyddyn ariannol 2023-2024 yn unol â Gweithdrefn Ariannol 5.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y bydd y cynlluniau a restrir o fewn Atodiad A o'r adroddiad yn parhau i sicrhau bod y prif bwrpas yn cael ei fodloni.

 

2)              Cymeradwyo'r dyraniad ar gyfer cynlluniau a restrir o fewn Atodiad B, Adrannau 2.1 a 2.2, ynghyd â'r goblygiadau ariannol priodol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

3)              Dirprwyo'r gwaith o ddatblygu manylion y cynllun i Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth, y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyllid o fewn yr amlen ariannol gyffredinol a nodir yn yr adroddiad hwn.

195.

Diweddariad ar Gynnydd Eden Las. pdf eicon PDF 265 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn cynghori ar gynnydd trafodaethau gyda gwahanol bartïon ar y prosiect a elwid gynt yn Eden Las, yn ymwneud yn benodol â chwblhau cytundeb cydweithio a thrafodion tir arfaethedig i hwyluso'r datblygiad.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar drafodaethau gyda DST a phartneriaid ehangach gan gynnwys Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru.

 

2)              Cymeradwyo gwaredu'r tir a restrir isod a dirprwyo awdurdod i swyddogion i gytuno ar y penawdau telerau terfynol a chwblhau dogfennau ar gyfer gwaredu/meddiannaeth drwy brydlesu:

 

·                 Y safle ger safle Parcio a Theithio Fabian Way ynghyd â gwella'r safle presennol.

·                 Y tir sy'n cynnwys elfennau caeedig o safle Tir John a gynigir ar gyfer datblygiad Fferm Solar.

·                 Rhan o hen Safle Morrissey yn SA1.

 

3)              Cymeradwyo caffael rhan o Burrows Yard, sy'n cael ei ariannu drwy grant, a'i  waredu os oes angen ar delerau masnachol, a dirprwyo awdurdod i swyddogion i gytuno ar y penawdau telerau a'r dogfennau angenrheidiol i gwblhau'r trafodion.

196.

Cymorth Ariannol Costau Ynni Partneriaid Strategol 2023/2024. pdf eicon PDF 606 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y lefelau o gymorth ariannol y mae eu hangen ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a Mawrth 2024 ar gyfer ein partneriaid strategol (Freedom Leisure, Pwll Cenedlaethol Cymru ac Arena Abertawe) yn benodol mewn perthynas â chostau ynni uwch, gan gynnwys lefelau ychwanegol tebygol cyffredinol o warantu partneriaeth sydd eu hangen yn benodol ar gyfer Pwll Cenedlaethol Cymru am yr un cyfnod.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo rhoi cymorth ariannol i Freedom Leisure hyd at 31 Mawrth 2024 i ariannu'r cynnydd sylweddol o £1,020,570 yn ogystal â thalu'r ffi rheoli misol gytundebol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024, gyda'r holl daliadau wedi'u cysoni dan ddull gweithredu llyfr agored.

 

2)              Cymeradwyo estyniad i ryddhad ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (PCCA) i gynnwys y cyngor yn gwarantu diffyg ychwanegol o hyd at £200 mil ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024.

 

3)              Cymeradwyo cyfraniad ariannol o hyd at £210 mil yn 2023/24 i ariannu costau ynni uwchben y rheini a ragwelir yn y cynllun busnes ar gyfer Arena Abertawe, gyda thaliadau a wnaed i Ambassador Theatre Group yn cael eu cysoni o dan ddull gweithredu llyfr agored.

 

4)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd i gytuno ar unrhyw newidiadau i fanyleb gwasanaeth, yr amodau a thelerau sydd ynghlwm wrth unrhyw gynnig o warantu neu fesurau cymorth eraill gan gynnwys awdurdod i amrywio lefel a chyfnod y rhyddhad ariannol, ar yr amod bod cyfanswm yr holl amrywiadau o'r fath o fewn cwmpas y cymeradwyaeth cyllideb ar gyfer rhyddhad ariannol yn 1, 2 a 3.

 

5)              Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol ddechrau unrhyw ddogfennaeth sy'n ofynnol i roi unrhyw un o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn ar waith ac i ddiogelu buddiannau'r cyngor.

197.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

198.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 199 "Cymorth Ariannol Costau Ynni Partneriaid Strategol 2023/2024” a Chofnod 201 “FPR7 Ddiweddaredig ar gyfer Adnewyddu Theatr y Palace”.

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor.

199.

Cymorth Ariannol Costau Ynni Partneriaid Strategol 2023/2024.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu gwybodaeth gyfrinachol am lefelau'r cymorth ariannol sydd ei angen ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 ar gyfer ein partneriaid strategol (Freedom Leisure, Pwll Cenedlaethol Cymru ac Arena Abertawe) yn benodol mewn perthynas â chostau ynni uwch.

200.

Diweddariad ar Gynnydd Eden Las.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu cynnydd y prosiect a elwid gynt yn Eden Las.

201.

FPR7 ddiweddaredig ar gyfer Adnewyddu Theatr y Palace.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" - i roi'r diweddaraf am brosiect Theatr y Palace.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion diwygiedig a ddisgrifiwyd.