Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd E J
King gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 174 “Penodiadau
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol” a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried”. 2)
Datganodd y Cynghorydd R V
Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 174
"Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi
cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â
phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 3)
Datganodd y Cynghorwyr E J
King a R V Smith gysylltiad personol â Chofnod 178 "Adroddiad Blynyddol y
Bartneriaeth Hamdden 2021-2022". |
|||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod
cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 23 Mawrth 2023. |
|||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Dywedodd Arweinydd y
Cyngor fod y cyngor wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau adferiad o bandemig
COVID ac i ymdrin â chostau byw. Roedd y cyngor hefyd yn gweithio i sicrhau
canol dinas cynaliadwy sy’n addas i fusnesau ac ymwelwyr. Dywedodd nad oedd y
cyngor wedi cael popeth yn gywir o ran rhoi’r taliadau parcio newydd ar waith.
Dywedodd y byddai’r cyngor yn parhau i weithio gyda hyrwyddiadau â’r bwriad o
gynorthwyo preswylwyr â chostau o’r fath. |
|||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod
yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 227 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||
Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu. Sefydliadol. PDF 365 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol adroddiad sy'n ceisio
cymeradwyaeth o'r Rhaglen Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol newydd. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r buddsoddiad
arfaethedig o £391,000 i ariannu'r prosiectau blaenoriaeth cychwynnol a nodwyd
yn Achos Busnes y Rhaglen Trawsnewid Datblygu Sefydliadol fel yr amlinellir yn
Atodiad A yr adroddiad. |
|||||||
Strategaeth Digidol 2023-2028 a Rhaglen Trawsnewid. PDF 312 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth
ar gyfer Strategaeth Ddigidol newydd 2023-2028 a'r Rhaglen Trawsnewid Digidol
perthnasol. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo
Strategaeth Ddigidol 2023-2028 fel yr amlinellir yn Atodiad A yr adroddiad. 2)
Cymeradwyo'r buddsoddiad arfaethedig o £2.042 miliwn i ariannu'r prosiectau
blaenoriaeth cychwynnol a nodwyd yn Achos Busnes y Rhaglen Trawsnewid Digidol
fel yr amlinellir yn Atodiad B yr adroddiad. |
|||||||
Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy - Cynllun Trawsnewid Corfforaethol 2023. PDF 381 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Trawsnewid Corfforaethol newydd 2023-2028. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo Cynllun Trawsnewid
Corfforaethol 2023-2028 fel yr amlinellwyd yn Atodiadau 1-3 o'r adroddiad. |
|||||||
Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Hamdden 2021/2022. PDF 416 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad gwybodaeth a
oedd yn amlinellu gweithdrefnau partneriaeth cyfleusterau allweddol ym
mhortffolio'r Gwasanaethau Diwylliannol. |
|||||||
Cynllun Ardal Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg 2023-2027. PDF 446 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer Cynllun Ardal Partneriaeth Gorllewin Morgannwg yn dilyn cymeradwyaeth
gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar 23 Ionawr 2023. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo Cynllun Ardal Gorllewin
Morgannwg 2023-2027. 2) Nodi y
caiff y cynllun ei ystyried gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar gyfer
cymeradwyaeth cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru. |