Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

80.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau a ganlyn:-

 

Datganodd Julie Davies (Aelod Lleyg) fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 84 – Adroddiad Archwilio Rheoli Absenoldeb 20/21.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: -

 

Datganodd Julie Davies (Aelod Lleyg) gysylltiad personol â chofnod rhif 84 – Adroddiad Archwilio Rheoli Absenoldeb 20/21.

81.

Cofnodion. pdf eicon PDF 296 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo Cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir, yn amodol ar y newid a ganlyn:-

 

Cofnod Rhif 73 - Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 – Adroddiad Monitro ar gyfer y Cyfnod 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2021 – paragraff 7, pwynt bwled 10 – Diwygio i ddarllen fel a ganlyn: -

 

• Y posibilrwydd o fabwysiadu agwedd o'r gwaelod i fyny yn hytrach na dim ond o'r brig i lawr.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiadau canlynol: -

 

Cofnod rhif 73 - Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 – Adroddiad Monitro ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2021 – paragraff 7, pwynt bwled 10 – diwygio fel a ganlyn: -

 

·         Y posibilrwydd o ddefnyddio ymagwedd o'r gwaelod i fyny yn hytrach na'r gwrthwyneb yn unig.

82.

Cynllun Blynyddol Archwiliad Mewnol Drafft 2022/23. pdf eicon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd diweddaru’r Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol Drafft fel y’i trafodwyd a’i gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 12 Ebrill 2022.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwiliwr Gynllun Blynyddol Archwilio Mewnol Drafft ar gyfer 2022/23 i'w ystyried, cyn i'r cynllun terfynol gael ei gyflwyno i'r pwyllgor i'w gymeradwyo ym mis Ebrill 2022.

 

Roedd Atodiad 1 yn darparu'r Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol Drafft ar gyfer 2022/23 (Crynodeb) ac roedd Atodiad 2 yn darparu'r Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol Drafft ar gyfer 2022/23.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·         Proffil uwch o adolygiadau rheoli risg i fod yn adolygiadau trawsbynciol er mwyn lleihau risgiau a darparu ymagwedd sy’n fwy trosgynnol;

·         Ailwerthuso nifer y diwrnodau a dreulir ar rai adolygiadau i roi sicrwydd a'r anhawster wrth gydbwyso adolygiadau yn erbyn adnoddau;

·         Maent yn fodlon bod digon o adnoddau o fewn Archwilio Mewnol i gwblhau'r cynllun, her gyffredinol y cynllun a nifer y diwrnodau wrth gefn sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun.

 

Nododd y Cadeirydd y byddai cwmpas adolygiadau unigol yn cael ei ddarparu ym mis Ebrill a diolchodd i'r Prif Archwiliwr am y cyfle i adolygu'r Cynllun drafft.

 

Penderfynwyd diweddaru Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol Drafft fel y'i trafodwyd a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 12 Ebrill 2022.

83.

Adroddiad Methodoleg Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2022/23. pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwiliwr, Simon Cockings, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi crynodeb i'r Pwyllgor Archwilio am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio'r Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol cyn adrodd am Gynllun Blynyddol 2022/23 i'r pwyllgor i'w gymeradwyo ar 12 Ebrill 2022.

 

Ychwanegwyd bod Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn darparu fframwaith er mwyn cyflwyno gwasanaeth archwilio mewnol proffesiynol, annibynnol a gwrthrychol sy'n orfodol i bob darparwr archwilio mewnol yn sector cyhoeddus y DU. Un o ofynion y PSIAS yw bod yn rhaid llunio cynllun Archwilio Mewnol blynyddol yn seiliedig ar risgiau i bennu blaenoriaethau Archwilio Mewnol, ac i sicrhau cysondeb â nodau'r cyngor. Rhaid i'r cynllun gynnwys gwybodaeth archwilio ddigonol ar draws y cyngor cyfan er mwyn i'r Prif Archwiliwr allu rhoi barn flynyddol i'r cyngor trwy'r Swyddog Adran 151 a'r Pwyllgor Archwilio ynglŷn â'r amgylchedd rheoli sy'n cynnwys llywodraethu corfforaethol, rheoli risgiau a rheolaeth fewnol.

 

Rhoddwyd amlinelliad o fanylion Methodoleg y Cynllun Archwilio Mewnol a rhan o ofynion y PSIAS o ran cynllunio archwilio mewnol yn Atodiad 1, darparwyd manylion y Broses Cynllunio Archwilio Mewnol Blynyddol yn atodiad 2, y Cynllun Archwilio wedi'i Fapio yn erbyn Blaenoriaethau Corfforaethol yn Atodiad 3 a Map Sicrwydd Dinas a Sir Abertawe yn Atodiad 4.

 

Ychwanegwyd bod yr Ymarfer Ymgynghori ar gyfer Cynllun Archwilio 2022/23 wedi dechrau ym mis Hydref 2021 a'i fod wedi gweld nifer o archwiliadau newydd yn cael eu hychwanegu at y cynllun archwilio. Er bod Cynllun Archwilio 2022/23 yn cael ei ystyried ar hyn o bryd, rhagwelwyd y byddai'r archwiliadau arfaethedig, fel mewn blynyddoedd blaenorol, yn cael eu grwpio yn y categorïau cyffredinol canlynol: Archwiliadau llywodraethu a rheoli'r cyngor; archwiliadau sylfaenol; ac archwiliadau sy'n benodol i'r gwasanaeth.

 

Ystyriwyd bod y broses asesu risg a'r rhaglen dreigl, yr ymarfer ymgynghori a'r adolygiad o'r cofrestrau risg yn pennu'r archwiliadau sy'n ofynnol yn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2022/23, y bu'n rhaid eu paru wedyn â'r adnoddau archwilio sydd ar gael. Yr adnoddau archwilio a oedd ar gael yn 2022/23 oedd 9.1 cyfwerth ag amser llawn, ac eithrio'r Prif Archwiliwr, a oedd heb newid ers 2021/22.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·         Craffu ar y gorwel/y defnydd o adroddiadau adolygu allanol i helpu i lywio'r cynllun fel rhan o broses gynllunio flynyddol yr Archwilio Mewnol a sut y gofynnir i'r Tîm Rheoli Corfforaethol/Penaethiaid Gwasanaeth fwydo'r wybodaeth yn ôl fel rhan o'r broses ymgynghori;

·         Y flaenoriaeth gorfforaethol o ddiogelu wrth gael ei mapio yn erbyn y Gwasanaethau Cymdeithasol fel adolygiad corfforaethol llawer ehangach;

·         Ffynonellau sicrwydd wedi'u mapio yn erbyn risg gorfforaethol o fewn y Map Sicrwydd yn ymddangos fel camau lliniaru, sut mae perchnogion risg yn diweddaru'r gofrestr risg a'r Map Sicrwydd ei hun sydd weithiau'n achosi dyblygu a'r posibilrwydd y bydd Perchnogion Risg yn  ailymweld â'r rhain yng nghanol y flwyddyn i roi sicrwydd;

·         Ehangu cwmpas y ddogfen Map Sicrwydd i gynnwys categorïau 'busnes fel arfer', er enghraifft, Cyllid ac Adnoddau Dynol;

·         Cynnwys trechu tlodi yn ogystal â chomisiynu/ Tai ac Iechyd y Cyhoedd ac edrych ar y rhain ar sail ehangach yn yr un modd â diogelu, sut yr oedd y blaenoriaethau corfforaethol wedi'u cynnwys yn y cynllun am y tro cyntaf nifer o flynyddoedd yn ôl a sut y gallai'r diagram a ddarparwyd fod yn gamarweiniol a bod angen ei ddiweddaru;

·         Darperir diwygiadau i'r diagram a awgrymwyd i wneud materion yn gliriach.

 

Dywedodd y Prif Archwiliwr y byddai'n adrodd ar y cais i ehangu cwmpas y ddogfen Map Sicrwydd i gynnwys categorïau 'busnes fel arfer' i TRhC/Berchnogion Risg i roi sylwadau arnynt.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod paragraff 2.14 o'r adroddiad yn amlinellu y dylai'r Cynllun gysylltu ag amcanion y cyngor a nododd fod cwmpasau adolygiadau'n rhoi sicrwydd ond mae'n eithaf anodd cyflawni hyn ar ffurf diagram.

 

Ychwanegodd y Prif Archwiliwr ymhellach mai diben ehangach y diagram oedd dangos y cysylltiad cyffredinol rhwng yr amcanion corfforaethol, meysydd archwilio, sut mae hynny'n bwydo i'r farn archwilio flynyddol a sut mae hynny'n bwydo i mewn i'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol a'r Datganiad o Gyfrifon. Dywedodd ei fod yn hapus i adolygu'r adborth a gafwyd gan y pwyllgor.

84.

Adroddiad Archwilio Rheoli Absenoldeb 20/21. pdf eicon PDF 308 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad diweddaru 'er gwybodaeth' ar y cynnydd a wnaed yn dilyn lefel sicrwydd Archwilio Mewnol gymedrol a roddwyd yn 2020 mewn perthynas â Rheoli Absenoldeb.

 

Dywedwyd bod cynllun gweithredu wedi'i ddatblygu i fynd i'r afael â'r materion a nodwyd a rhoddwyd camau gweithredu addas yn eu lle. Nododd y cynllun gweithredu hwn gamau gweithredu RU (Risg Uchel) a RG (Risg Ganolig) ac fel yr adroddwyd yn flaenorol i'r pwyllgor ym mis Medi 2021, roedd yr holl argymhellion wedi'u rhoi ar waith, ac eithrio'r canlynol: -

 

·         Dylid ystyried cael trafodaeth gyda darparwr y system Interflex i ddarparu adroddiadau yn amlygu achosion o 'absenoldebau anawdurdodedig' – ystyriwyd nad oedd hyn yn gost-effeithiol.

 

Ychwanegwyd bod archwiliad pellach wedi'i drefnu ar gyfer mis Mawrth 2022.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod cynnydd wedi'i wneud o ran datblygu dangosfwrdd i reolwyr a oedd ar y gweill ac a oedd yn agos at fod yn barod i’w brofi gan ddefnyddwyr. Byddai hyn yn darparu gwybodaeth gyfredol i bob rheolwr â chyfrifoldeb rheoli absenoldeb ac yn rhoi gwybodaeth iddo am absenoldeb staff oherwydd salwch/diwrnodau a gollwyd, cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith heb eu cwblhau a chofnod o'r camau gweithredu sydd heb eu cyflawni.

 

Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor hefyd mewn perthynas â nodiadau atgoffa misol i reolwyr, datblygu model dysgu’r Rhaglen Cyfuno, gwelliannau o ran cwblhau cyfarfodydd dychwelyd i'r gwaith/cofnod o gamau gweithredu, penodi Cynghorwyr Rheoli Absenoldeb yn y Cyfarwyddiaethau Addysg, Lleoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol: -

 

·         Cyswllt/cymorth a ddarperir i staff ar salwch hirdymor a chysondeb ar draws yr awdurdod;

·         Diffyg ffigurau cymharu mewn perthynas â diwrnodau a gollwyd/ffigurau blaenorol;

·         Sefydlu'r hyn a oedd yn achosi lefelau salwch o fewn adrannau;

·         Darparu manylion am lefelau salwch ar draws yr awdurdod a sut roedd lefelau wedi gostwng;

·         Sicrwydd bod y newid mewn agwedd/cyfeiriad wedi'i rannu gyda phob ysgol/corff llywodraethu, ysgolion yn talu am yswiriant ychwanegol ar gyfer salwch staff;

·         Sicrwydd bod cyflogwyr/ysgolion annibynnol wedi'u cynnwys yn y gwelliannau;

·         Tynnu sylw at y gwaith rhagorol a wnaed gan Help Llaw ac Iechyd Galwedigaethol i gefnogi staff sy'n sâl/y rheini sy'n cael anawsterau yn y gwaith;

·         Cydnabod bod pethau'n symud i'r cyfeiriad cywir ond bod angen rhagor o fanylion.

 

Dywedodd y Rheolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol y byddai'n darparu gwybodaeth sy'n ymwneud â'r protocol ar gyfer ymdrin â salwch hirdymor.

 

Dywedodd Ben Smith, Cyfarwyddwr Cyllid, y byddai disgwyl i'r Ganolfan Wasanaeth barhau i ddarparu data absenoldeb oherwydd salwch i'r pwyllgor pan fyddai amseru ac adnoddau'n caniatáu, gan nodi'r pwysau eithafol a oedd ar y Ganolfan Wasanaeth ar hyn o bryd.

 

Roedd y Cadeirydd yn cydnabod y gwelliannau a wnaed ond ychwanegodd nad oedd yr adroddiad yn rhoi digon o sicrwydd i'r pwyllgor o ran y gwahaniaeth sy'n cael ei wneud gan y gwelliannau. Ychwanegodd bod angen ffigurau sy'n dangos canlyniadau blaenorol/cyfredol a manylion targedau er mwyn rhoi sicrwydd.

 

Nododd hefyd y byddai'r Archwilio Mewnol yn cynnal archwiliad dilynol ym mis Mawrth a gofynnodd i dystiolaeth o ffigurau cyn/ar ôl hynny gael eu harchwilio i roi sicrwydd ychwanegol.

 

Dywedodd y Prif Archwiliwr y byddai'r archwiliad dilynol yn golygu gwirio a phrofi’r maes gwasanaeth Ychwanegodd nad oedd yn siŵr a fyddai’r Archwilio Mewnol yn archwilio ystadegau ac y byddai'n gofyn iddynt gael eu profi pe bai angen.

85.

Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru – Cyngor Dinas a Sir Abertawe. pdf eicon PDF 217 KB

Penderfyniad:

Nodydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Non Jenkins a Daniel King, Swyddfa Archwilio Cymru, Raglen Waith ac Amserlen Swyddfa Archwilio Cymru – Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'.

 

Roedd yr adroddiad yn manylu ar y diweddariad chwarterol ac yn rhestru'r canlynol: -

 

·         Crynodeb Archwilio Blynyddol

·         Gwaith Archwilio Ariannol

·         Gwaith Archwilio Perfformiad

·         Astudiaethau Cenedlaethol Llywodraeth Leol sydd wedi'u cynllunio/ar y gweill

·         Estyn

·         Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

·         Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill a Gyhoeddwyd ers 1 Ebrill 2021

·         Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill i'w Cyhoeddi yn ystod 2021-22 (a gwaith arall sydd ar y gweill/wedi'i gynllunio)

·         Digwyddiadau a Chyhoeddiadau'r Gyfnewidfa Arfer Da sydd i ddod

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolydd Archwilio Cymru am ddarparu'r adroddiad a nododd ei bod yn bwysig bod y Pwyllgor yn ymwybodol o'r rhaglen waith a'r amserlen er mwyn ymchwilio ymhellach a cheisio sicrwydd.

 

Mynegodd y Cyfarwyddwr Cyllid bryder nad oedd Swyddfa Archwilio Cymru a'r awdurdod wedi dod i gytundeb pendant ynghylch y mater sy'n ymwneud â'r archwiliad cymwysedig a ddyfarnwyd mewn perthynas â chyfrifon y llynedd. Ychwanegodd ei bod yn mynd yn rhy hwyr yn y flwyddyn i ddatrys y mater, a oedd yn fater o farn ac roedd am dynnu sylw'r pwyllgor at ei bryder.

 

Nododd y Cadeirydd y pryder a dywedodd ei bod yn gobeithio bod awydd i ddatrys a dod â’r mater i ben.

 

Cyfeiriodd hefyd at adroddiadau ychwanegol a gynhyrchwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru a chyrff rheoleiddio eraill, a fyddai bellach yn cael eu cynnwys mewn cyfeiriad e-bost rheoleiddwyr a reolir gan yr awdurdod a'u dosbarthu i'r swyddogion perthnasol. Ychwanegodd fod hyn yn rhoi hyder a sicrwydd bod materion a godir mewn adroddiadau yn cael eu targedu er mwyn gweithredu arnynt.

86.

Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. pdf eicon PDF 374 KB

Penderfyniad:

Er Gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’.

87.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’.

 

Esboniodd y Cadeirydd fod Atodiad 3 yn darparu'r Cynllun Gwaith tan fis Ebrill 2023. Ychwanegodd y byddai newidiadau parhaus yn cael eu gwneud ac y byddai'r ddogfen yn cael ei hadolygu'n rheolaidd.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y byddai Rhaglen Hyfforddi'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael ei hadrodd i gyfarfod mis Ebrill 2022. Ychwanegodd fod ymraniad diweddar y Gyfarwyddiaeth Adnoddau flaenorol i'r Cyfarwyddiaethau Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn golygu y byddai'r diweddariadau ar adroddiadau'r amgylchedd rheoli mewn perthynas â'r ddwy adran yn cael eu darparu yn ystod y flwyddyn ddinesig nesaf.

 

Holodd Julie Davies (Aelod Lleyg) a oedd gan yr Awdurdod unrhyw fuddsoddiadau neu gontractau sy'n gysylltiedig â Rwsia a gofynnodd am ddiweddariad.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid fod rhai buddsoddiadau pensiwn yr oedd y cyngor eisoes wedi'u cofnodi a fyddai'n cael eu gwaredu cyn gynted ag y bo'n ymarferol. Roedd contractau'n anoddach i'w hasesu ac ystyried eu canslo ar unwaith, o ystyried y rheolau ynghylch caffael yn y sector cyhoeddus a’r broses sancsiynu "fesul cam" ar gyfer y DU gyfan. Disgwylid y byddai'r cyngor yn dymuno symud yn unol â newidiadau ehangach llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a bod fforymau eraill y tu allan i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio lle byddai'n well ystyried y materion hynny maes o law.  Felly, byddai'n cymryd peth amser i roi rhywfaint o sicrwydd ynghylch y materion ehangach hynny.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i unrhyw risgiau cysylltiedig gael eu hamlygu i'r pwyllgor.