Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Councillors P M Black & T M White declared a Personal Interest in Minute
47 “Internal Audit Recommendation Follow-Up Report – Quarter 2 2021/22”. 2)
Julie Davies declared a Personal Interest in Minute 48 “Fundamental
Audits 2020/21 Recommendation Tracker”. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad
a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr P M
Black a T M White gysylltiad personol â Chofnod 47 "Adroddiad Dilynol am
Argymhelliad yr Archwiliad Mewnol ar gyfer Chwarter 2 2021/22". 2)
Datganodd Julie Davies
gysylltiad personol â Chofnod 48 "Adroddiad Olrhain Argymhellion
Archwiliadau Hanfodol 2020/21". |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a
gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021 fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr, Nick Davies, adroddiad gwybodaeth a oedd yn manylu ar yr
archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio
Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Gorffennaf i 30 Medi 2021. Mynegodd y
Cadeirydd bryder nad oedd prisiad llawn o'r asedau presennol yn Oriel Gelf Glynn Vivian wedi'i gynnal ers 9
mlynedd. Dywedodd y Prif Archwilydd fod y mater wedi'i amlygu yn yr adroddiad ac y byddai'n cyflwyno adroddiad i'r Cadeirydd maes o law. Addawodd y Swyddog Adran 151 hefyd godi'r mater er mwyn mynd i'r afael â'r mater. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Helen
St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig a Lucy Friday, Prif Swyddog – Trawsnewid – Gwasanaethau i Oedolion
adroddiad gwybodaeth a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac ymateb i
archwiliad mewnol 2021/22 o Storfeydd Cyfarpar Cymunedol a'r Gwasanaeth Larwm
Cymunedol. Amlinellodd y
Swyddogion y gwaith a wnaed a'r gwaith sydd eto i'w wneud i fynd i'r afael â
rheoli asedau'r stoc yn y storfeydd. Byddai'r gwaith yn golygu bod y stoc asedau'n
cael ei lleihau'n fawr oherwydd oedran llawer o'r stoc. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod gan bob eitem o stoc gôd bar unigol ers
2019. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau a oedd yn ymwneud â hyfforddiant, rheoli stoc a
rheoli perfformiad. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r Is-adran Archwilio Mewnol gynnwys "Adolygiad o'r Trefniadau
Rheoli Perfformiad" yn eu hadolygiad dilynol. Dywedodd y Prif
Archwilydd fod y mater wedi'i amlygu ac y byddai'n cyflwyno adroddiad i'r
Cadeirydd maes o law. Addawodd y Swyddog Adran 151 hefyd godi'r pwnc er mwyn
mynd i'r afael â'r mater. Nododd y Pwyllgor ei fod yn wasanaeth ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'r Bwrdd Iechyd. Gofynnodd y Pwyllgor am ddadansoddiad o werth y rhaniad ar y cyllid gan y sefydliadau hynny. Cytunodd y Swyddogion i roi adborth ar y wybodaeth honno. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Nick Davies, y Prif Archwiliwr, adroddiad gwybodaeth a oedd yn
darparu statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle'r oedd y
gwaith dilynol wedi'i wneud yn Chwarter 2 2021/22, gan ganiatáu i'r Pwyllgor
fonitro'r broses o weithredu argymhellion a wnaed gan yr Archwiliad Mewnol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Nick Davies, y Prif Archwiliwr, adroddiad gwybodaeth a oedd yn
darparu crynodeb o'r argymhellion a wnaed yn dilyn yr archwiliadau hanfodol yn
2020/21 ac yn nodi a oedd yr argymhellion y cytunwyd arnynt wedi cael eu rhoi
ar waith. O'r 36 o argymhellion, roedd 25 wedi'u gweithredu'n llawn, 3 wedi'u gweithredu'n rhannol, 5 heb eu gweithredu ac nid oedd 3 yn barod i'w gweithredu eto. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Jeff Fish, Ymchwilydd y Tîm Twyll Corfforaethol adroddiad a oedd
yn darparu diweddariad canol blwyddyn ar y gwaith a wnaed gan y Swyddogaeth
Twyll Corfforaethol yn 2021/22. Trafododd y Pwyllgor y canlynol: Ø
Maint
gymharol fach y tîm gydag adnoddau cyfyngedig. Ø
Ei
allu i wneud gwaith rhagweithiol. Ø
Sicrwydd
bod twyll wedi digwydd. Penderfynwyd nodi'r cynnydd canol blwyddyn a wnaed yn erbyn Swyddogaeth Twyll y Cynllun Gwrth-dwyll Corfforaethol a nodir yn Atodiad A yr adroddiad a'r canlyniadau a gyflawnwyd. |
|
Trosolwg Risg Corfforaethol 2021/22 - Chwarter 2. (Er Gwybodaeth) (Richard Rowlands) PDF 339 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol,
adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu trosolwg o statws Risgiau Corfforaethol
yn y cyngor i roi sicrwydd i'r Pwyllgor fod risgiau allweddol yn cael eu
rheoli'n unol â pholisi a fframwaith rheoli risgiau'r cyngor. Roedd y canlynol yn crynhoi statws y risgiau a gofnodwyd yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn Chwarter 2 2021/22: ·
6 statws risg coch yn y
Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar ddiwedd C2 2021/22: o
Rhif Adnabod Risg 153.
Diogelu. o
Rhif Adnabod Risg 159.
Rheolaeth Ariannol: Agweddau CATC ar Abertawe Gynaliadwy. o
Rhif Adnabod Risg 222.
Digidol, Data a Seiberddiogelwch. o
Rhif Adnabod Risg 264.
COVID-19. o
Rhif Adnabod Risg 274.
Gwasanaethau Cymdeithasol COVID-19. o
Rhif Adnabod Risg 296.
Cyflenwi deunyddiau adeiladu. ·
Cofnodwyd bod yr holl
risgiau wedi'u hadolygu o leiaf unwaith yn ystod Chwarter 2. ·
Ni chafodd unrhyw risgiau
corfforaethol eu dadactifadu. ·
Uwch-gyfeiriwyd 1 risg i'r
Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Rhif Adnabod Risg 274. Gwasanaethau
Cymdeithasol COVID-19. |
|
(Cyfarwyddiaeth): Yr Amgylchedd Rheolaeth Fewnol 2021/22. (Er Gwybodaeth) (Dave Howes) PDF 267 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad
gwybodaeth a oedd yn amlinellu amgylchedd rheoli'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau
Cymdeithasol, gan gynnwys rheoli risgiau, gan sicrhau: bod swyddogaethau'n cael
eu harfer yn effeithiol; defnydd economaidd, effeithlon ac effeithiol o
adnoddau, a; bod llywodraethu effeithiol
i sicrhau'r trefniadau hyn. Darparodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddadansoddiad eang o'r
Portffolio o dan y meysydd canlynol: Ø Rheoli Risgiau a Pharhad Busnes. Ø Rheoli Perfformiad a Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Ø Cynllunio a Gwneud Penderfyniadau. Ø Rheoli Cyllidebau ac Adnoddau. Ø Twyll ac Amhriodoldeb Ariannol. Ø Cydymffurfio â Pholisïau, Rheolau a Gofynion Rheoliadol. Ø Sicrwydd Rhaglenni a Phrosiectau. Ø Dulliau rheoli mewnol. Ø Diogelu Data. Ø Llywodraethu Partneriaeth/Cydweithio. Dywedodd fod 2021 wedi bod yn gyfnod heriol iawn i'r Gyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd COVID a'i effaith ar y gwasanaeth. Roedd y
gwasanaeth eisoes yn cael ei reoleiddio'n fanwl ac roedd risg yn ffactor
allweddol yn y rheoliad hwnnw. Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Swyddog a ymatebodd yn briodol.
Roedd y trafodaethau'n cynnwys System Feddalwedd Genedlaethol Cymru a'i
phroblemau sefydlogrwydd cychwynnol. Diolchodd y Cadeirydd i David Howes am ddarparu adolygiad manwl. |
|
Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 2020-21. (Er gwybodaeth) (Simon Jones) PDF 278 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Simon
Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol,
adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu'r adroddiad blynyddol diweddaraf ar
drefniadau diogelu corfforaethol y cyngor, sy'n adolygu rhaglen waith y
Grŵp Diogelu Corfforaethol yn ystod 2020/21. Mae'r adroddiad
yn gweithredu fel adolygiad cynhwysfawr o weithredu Polisi Diogelu
Corfforaethol y cyngor, sy'n hyrwyddo ymagwedd "mae diogelu yn fusnes i
bawb". Mae diogelu pobl rhag niwed yn flaenoriaeth gorfforaethol yng
Nghynllun Corfforaethol Cyngor Abertawe". Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Swyddog a ymatebodd yn briodol.
Roedd y trafodaethau'n cynnwys: Ø
Cydymffurfio â Hyfforddiant Diogelu. Ø
Roedd angen atgoffa'r holl gynghorwyr a'r Swyddogion o'u
cyfrifoldebau diogelu corfforaethol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod cydymffurfiaeth
cynghorwyr o ran Hyfforddiant Diogelu yn 100%. Dywedodd hefyd fod y cyngor, yn
ei gyfarfod ar 4 Tachwedd 2021, wedi penderfynu sicrhau bod Diogelu yn parhau
yn y gofynion hyfforddi gorfodol ar gyfer cynghorwyr ar gyfer y tymor sydd ar
ddod 2022-2027. Gofynnodd y Cadeirydd i hyfforddiant Cydymffurfio â Diogelu gael ei amlygu yn y Gofrestr Risgiau. |
|
Y diweddaraf am Abertawe'n Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd. (Er Gwybodaeth) (Adam Hill) PDF 2 MB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Adam
Hill, Dirprwy Brif Weithredwr, a Marlyn Dickson, Rheolwr y Rhaglen Newid Strategol,
adroddiad gwybodaeth ar y cyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y
Cynllun Adfer a Thrawsnewid – Abertawe'n Cyflawni'n
Well Gyda'n Gilydd. Gofynnodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Brif Weithredwr gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth y Gweithlu ac amserlen ar gyfer pryd y bydd ar waith. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr gan ddweud ei bod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd ac y byddai'n sicrhau ei bod yn cael ei hychwanegu fel eitem ar yr agenda yng nghyfarfod mis Chwefror 2022. |
|
Effaith Deddf Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2020. (Llafar) (Ben Smith) Penderfyniad: Gohiriedig. Cofnodion: Gohiriwyd yr
eitem hon i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Chwefror 2022. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er gwybodaeth. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) (Jeremy Parkhouse) PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r cynllun gwaith gael ei ddiweddaru gyda'r canlynol: Ø
Ymgorffori
meysydd gwaith newydd y Pwyllgor yn y cynllun gwaith. Ø Y Dirprwy Brif Weithredwr i ddarparu adroddiad diweddaru i gyfarfod yn y dyfodol sy'n ymwneud â'r gofynion hyfforddi ar gyfer aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |