Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020-2021. Cofnodion: Penderfynwyd ethol Paula O’Connor yn Gadeirydd ar gyfer
Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. |
|
Ethol is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2020-2021. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P R Hood-Williams yn
Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2020-2021. (Y Cynghorydd P R Hood-Williams fu'n llywyddu) |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Y Cynghorydd P M Black
– Cofnod Rhif 142 - Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21, Adroddiad
Monitro ar gyfer y Cyfnod o 1 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2020 - Llywodraethwr
Ysgol Gyfun Pentrehafod - personol. Y Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 142 - Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21, Adroddiad Monitro ar gyfer y Cyfnod o 1 Gorffennaf 2020 i 30 Medi 2020 - Llywodraethwr Ysgol Gyfun Pentrehafod ac aelod o'r Awdurdod Iechyd Porthladdoedd - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Archwilio fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr, Simon Cockings,
adroddiad a oedd yn dangos yr archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a
wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Gorffennaf 2020 i
30 Medi 2020. Cwblhawyd cyfanswm o 14 o archwiliadau yn ystod
y chwarter. Rhestrwyd yr archwiliadau a gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn
dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar ddiwedd yr archwiliad a nifer yr
argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt. Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb
o'r cwmpas o'r adolygiadau terfynol yn ystod y cyfnod. Rhoddwyd
dadansoddiad o lefelau sicrwydd yr archwiliadau a gwblhawyd a gwnaed cyfanswm o
67 o argymhellion yn yr archwiliad, a chytunodd y rheolwyr i weithredu'r holl
argymhellion. Ni chyflwynwyd unrhyw adroddiadau cymedrol yn ystod y chwarter. Eglurwyd bod mynediad at holl wefannau'r cyngor
wedi'i gyfyngu oherwydd y pandemig COVID-19 parhaus.
Cafodd hyn effaith sylweddol ar allu'r Tîm Archwilio i gwblhau profion ar y
safle a bydd yn parhau i wneud hynny nes i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Eglurwyd hefyd nad oedd y Tîm yn gallu cynnal rhai ymweliadau dilynol oherwydd
nad oedd staff yn gallu cael mynediad i rhai safleoedd, e.e. ysgolion. Darparwyd manylion am waith dilynol a gwblhawyd rhwng 1 Gorffennaf a 30
Medi 2020, gan gynnwys dau adroddiad archwilio cymedrol blaenorol ar Docynnau
Consesiynol 2019/20 a Chynnal a Chadw'r Cerbydlu
2019/20. Roedd yr ail ddarn o waith dilynol ar y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
2019/20 wedi cychwyn ac adroddir am hwnnw mewn cyfarfod yn y dyfodol. Trefnwyd
yr ymweliadau dilynol ag Ysgol Gynradd Cwm Glas ac Ysgol Arbennig Pen y Bryn ar
gyfer chwarter 3. Rhoddodd y pwyllgor adborth cadarnhaol ynghylch y cynnydd a wnaed a
llongyfarchodd y Prif Archwiliwr ar waith ei dîm mewn amgylchiadau anodd
iawn. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Y
defnydd o ddogfennau electronig a oedd yn sicrhau bod gwaith y Tîm Archwilio yn
gallu parhau; ·
Problemau
parhaus gyda chaffael mewn ysgolion a'r bwriad i ddarparu hyfforddiant
ychwanegol i staff mewn ysgolion; ·
Yr
angen i gyflwyno polisi caffael ar gyfer ysgolion a fyddai'n darparu canllawiau
clir y byddent yn eu dilyn. Diolchodd yr Is-gadeirydd i'r Prif Archwilydd a'i staff am y gwaith a'r
cynnydd a wnaed. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr adroddiad a oedd yn
dangos i'r pwyllgor statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle
bu'n rhaid gwneud gwaith dilynol yn ystod Chwarter 2 2020/21, a oedd yn
caniatáu i'r Pwyllgor Archwilio fonitro'r broses o weithredu'r argymhellion a
wnaed gan Archwilio Mewnol. Darparodd Atodiad
1 grynodeb o'r argymhellion a dderbyniwyd ac a roddwyd ar waith a rhoddodd
Atodiad 2 fanylion yr argymhellion na roddwyd ar waith. Tynnwyd sylw at y
ffaith y rhoddwyd 141 o'r 148 o argymhellion a wnaed ar waith. Roedd y 7 na
roddwyd ar waith yn rhai risg isel/canolig ac ni rhoddwyd y rhan fwyaf ohonynt
ar waith oherwydd COVID-19 yn bennaf. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2020/21. (Er Gwybodaeth) (Ben Smith) PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Ben
Smith, Swyddog Adran 151, adroddiad Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - y
chwarter 1af ‘er gwybodaeth’. Cyfeiriodd at y
sefyllfa o ran grantiau Llywodraeth Cynulliad Cymru, trefniadau trosglwyddo
arian, gan roi sicrwydd i'r pwyllgor ar lefelau micro a macro. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog Adran 151, a ymatebodd yn briodol. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y canlynol:
- ·
Diffyg
refeniw, yn enwedig yn Nhreth y Cyngor a gesglir, sut roedd y ffigurau yn yr
adroddiad yn amcangyfrifon yn unig a'r colledion refeniw a ragwelir yn
Abertawe/ar draws Cymru; ·
Rhagolwg
o’r sefyllfa alldro refeniw yn seiliedig ar wariant yn y chwarter 1af, incwm a
dderbynnir/y disgwylir iddo wrthbwyso'r colledion a ragwelir, yr ansicrwydd
parhaus a'r disgwyliad parhaus i osod cyllideb cyn 11 Mawrth 2021; ·
Cynnydd
mewn benthyca a pham ei bod yn rhatach o hyd i fenthyca o gronfeydd wrth gefn; · Y gweithdrefnau monitro cyllideb cyfredol, a fyddai modd cyflawni'r blaenoriaethau a nodwyd yng nghyllideb 2020-2021 o ystyried y sefyllfa bresennol a'r rhwymedigaeth a roddir ar swyddogion i gyflawni cyllideb gytbwys, gan sicrhau yr aed i'r afael â gorwariant. |
|
Alldro Refeniw ac Olrhain Arbedion 2019/20. (Er Gwybodaeth) (Ben Smith) PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 yr adroddiad Refeniw ac Olrhain Arbedion 2019/20 'er
gwybodaeth'. Cyfeiriwyd yn benodol at y tanwariant sylweddol a gyflawnwyd yn ystod 2019-2020. |
|
Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2019/20. (Er Gwybodaeth) (Ben Smith) PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys
2019/20 'er gwybodaeth'. Rhoddwyd cadarnhad
y cydymffurfiwyd â'r holl faterion yn ystod y flwyddyn. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
rhoddwyd
esboniad ynghylch buddion y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus yn erbyn
benthyciadau sydd ar gael yn y farchnad agored; ·
Cyfraddau
llog a chynllunio ariannol Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus tan 2025-2026; ·
rhoddwyd
esboniad ynghylch buddsoddiadau portffolio gwrthbarti
ar 31 Mawrth 2020 a sicrwydd buddsoddiadau rhwng awdurdodau lleol. |
|
Cofnodion: Darparodd y
Swyddog Adran 151 ddatganiad i'r wasg Swyddfa Archwilio Cymru ar Gynaladwyedd
Ariannol Llywodraeth Leol 'er gwybodaeth'. |
|
Cofnodion: Darparwyd
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth’. Yn absenoldeb y Cadeirydd, dywedodd y Swyddog Adran 151 y byddai adroddiad ar risg yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod nesaf a drefnir ym mis Tachwedd 2020 a fyddai'n rhoi diweddariad sylweddol i'r pwyllgor. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 227 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth’. |