Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 30
Mehefin 2020 fel cofnod cywir. |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Archwiliad Mewnol o Gontractau Gofal Cymdeithasol. PDF 237 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Peter Field,
Prif Swyddog, Atal, Lles a Chomisiynu adroddiad diweddaru am yr archwiliad
mewnol o gontractau gofal cymdeithasol. O ganlyniad i archwiliad mewnol ar
gontractau gofal cymdeithasol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2017, datblygwyd
cynllun gweithredu i fynd i'r afael â chontractau nad oeddent yn cydymffurfio â
Rheolau Gweithdrefnau Contractau corfforaethol a Rheoliadau Contractau
Cyhoeddus 2015. Darparwyd diweddariadau i'r pwyllgor
ynghylch cynnydd hyd at fis Mehefin 2020. Nid oedd unrhyw gontractau nad oeddent yn
cydymffurfio, ond roedd hepgoriadau ac amrywiadau ar
waith i alluogi rhai i gydymffurfio â'r gofynion corfforaethol. Byddai gwaith ailgomisiynu’n
parhau dros y 12 mis nesaf a byddai'r contractau a gwmpesir gan hepgoriadau, tua 10 ohonynt, yn cael eu haildendro
yn ôl yr angen. Byddai archwiliad dilynol yn cael ei gynnal yn Hydref 2020. Llongyfarchodd y Cadeirydd y swyddog ar y
cynnydd a wnaed hyd yma a nododd y dylai ailgomisiynu'r
contractau a gwmpesir gan hepgoriadau fod yn ffocws
allweddol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2020/21 - Adroddiad Monitro Chwarter 1. PDF 265 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Archwiliwr a oedd yn darparu'r
archwiliadau a gwblhawyd ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran
Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 30 Mehefin 2020. Nodwyd mai hwn
oedd y cyfnod adrodd cyntaf ers i heriau COVID-19 ddod i'r amlwg. Cwblhawyd cyfanswm o 18 o archwiliadau yn ystod Chwarter 1. Rhestrwyd yr
archwiliadau a gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd
a roddwyd ar ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y
cytunwyd arnynt. Darparwyd crynodeb hefyd o gwmpas yr archwiliadau a gwblhawyd
yn ystod y chwarter. Cyhoeddwyd un adroddiad cymedrol yn y chwarter. Gwnaed cyfanswm o
105 o argymhellion a derbyniwyd pob un ohonynt. Gwnaed un argymhelliad risg
uchel. Ardystiodd yr
Adran Archwilio Mewnol y Grant Cartrefi â Chymorth - Cydlynydd Datblygu
Rhanbarthol yn ystod y chwarter. Rhoddwyd statws y
Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol 2020/21 hyd at 30 Mehefin 2020. Nid aethpwyd ar
drywydd unrhyw adroddiadau archwilio cymedrol yn ystod Chwarter 1. Trefnwyd
gwaith dilynol mewn perthynas ag archwiliad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn
2019/20 ac Archwiliad Tocynnau Consesiynol 2019/20 ar gyfer Chwarter 2. Byddai
gwaith dilynol yn cael ei wneud yn Ysgol Gynradd Cwm Glas ac Ysgol Arbennig Pen
y Bryn yn y flwyddyn ysgol newydd. Darparwyd
gwybodaeth am effaith COVID-19 ar yr Adran Archwilio Mewnol, gyda rhai staff
wedi'u secondio neu'n cynorthwyo gyda gwaith COVID-19 yn ogystal â'r effaith ar
gwblhau a datblygu rhai archwiliadau, ynghyd â’r ffaith nad oes gan staff sy'n
gweithio o gartref fynediad at rai dogfennau sy’n ofynnol a bod rhai adrannau
ar gau. Rhoddwyd sicrwydd
mewn perthynas â chynnal annibyniaeth yr Adran Archwilio Mewnol wrth helpu gyda
gwaith COVID-19. Trafododd y
Pwyllgor effaith COVID-19 yn benodol yn yr adrannau Cyfrifon Derbyniadwy a
Chyfrifon Taladwy. Gofynnodd y
Cadeirydd am eglurhad ar achos sylfaenol y materion a amlygwyd yn y Cyfrifon
Derbyniadwy yng nghyfarfod mis Medi'r Pwyllgor Archwilio. Y diweddaraf o
Archwiliad Cyfrifon Derbyniadwy 2019/20 Rhoddodd Michelle
Davies, y Rheolwr Rheoli Arian Parod a Chyfrifon Derbyniadwy, ddiweddariad i'r
Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed ers Archwiliad Cyfrifon Derbyniadwy 2019/20 Roedd yr
ôl-groniad o anfonebau heb eu talu dros 6 mis wedi lleihau i 3,566.
Blaenoriaethwyd dyledion mwy gan leihau gwerth anfonebau heb eu talu i ychydig
dros £1 filiwn. Ar adeg yr
archwiliad, roedd rhai aelodau o staff wedi’u neilltuo i brosiect Oracle ac
roedd angen hyfforddi staff newydd. Roedd cynllun adfer ar waith, sef gweithio
trwy'r ôl-groniad o anfonebau a disgwylid y byddai'r gwaith o adennill dyledion
yn ailddechrau erbyn mis Medi. Penderfynwyd: 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad 2) Darparu diweddariad pellach ar gyfrifon derbyniadwy yn y Pwyllgor Archwilio ym mis Medi. |
|
Adroddiad Olrhain Argymhellion Archwiliadau Mewnol - Chwarter 1 2020/21. PDF 295 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr adroddiad i ganiatáu i'r pwyllgor fonitro
statws rhoi ar waith yr archwiliadau hynny sydd wedi bod yn destun adolygiad
dilynol yn y chwarter. Darparodd Atodiad
1 grynodeb o'r argymhellion a dderbyniwyd ac a rhoddwyd ar waith. Darparodd Atodiad 2 fanylion am argymhellion
na roddwyd ar waith. Tynnwyd sylw at y
ffaith y rhoddwyd 201 o'r 205 o argymhellion a wnaed ar waith. Roedd y 4 heb eu
rhoi ar waith yn rhai risg isel ac ni chawsant eu rhoi ar waith oherwydd
COVID-19 yn bennaf. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
COVID-19 Adennill Rheolaeth Risg. PDF 133 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad 'er gwybodaeth' gan y Rheolwr Rheolwr Perfformiad a Chyflwyno
Strategol a oedd yn cyflwyno'r cynllun ar gyfer adfer y broses monitro rheoli
risgiau ac adrodd amdanynt. Byddai'r gwaith
presennol yn parhau ar ddatblygu'r swyddogaeth adrodd ar y gofrestr risg newydd
yn ogystal ag adolygiad o'r holl risgiau yn dilyn effaith COVID-19. Rhoddodd Adam
Hill, y Dirprwy Brif Weithredwr, ddiweddariad ar reoli risgiau. Adroddwyd y
byddai pob archwiliad a chanddo lefel sicrwydd gymedrol yn mynd i adran Monitro
Perfformiad ac Ariannol pob Cyfarwyddiaeth ac y byddai unrhyw beth a nodwyd fel
risgiau anffafriol neu goch yn cael ei drosglwyddo i’r Tîm Rheoli Corfforaethol
y byddai ganddo drosolwg o'r holl archwiliadau a chanddynt lefel sicrwydd
gymedrol. Roedd y gofrestr
risgiau yn cael ei diweddaru ac roedd disgwyl iddi gael ei chwblhau erbyn
diwedd mis Gorffennaf. Tynnodd y
Cadeirydd sylw at y diffyg o ran sicrwydd ar reoli risgiau, a nodwyd hyn yn y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Amlinellwyd pwysigrwydd cadw at yr amserlenni
ar gyfer adolygu'r gofrestr risgiau a darparu mwy o sicrwydd ynghylch rheoli
risgiau i'r Pwyllgor Archwilio. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad a'r diweddaraf. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. PDF 369 KB Cofnodion: Darparwyd
Adroddiad Olrhain y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth’. Nodwyd bod eitemau sy'n weddill yn bennaf yn weddill o ganlyniad i COVID-19. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio 2019/21. (Er Gwybodaeth) (Jeremy Parkhouse) PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Nodwyd y byddai'r cynllun gwaith yn cael ei adolygu'n gyson. |